Dyma lle cewch gyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y Diwrnod i Ymgeiswyr, lle i barcio pan fyddwch wedi cyrraedd, a llefydd i aros yn ystod eich ymweliad.
Ar y ffordd
Bydd Cod Post LL57 2DG yn dod â chi i Brif Adeilad y Celfyddydau, man cychwyn y Diwrnod i Ymgeiswyr. Bydd tywyswyr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrraedd un o'r meysydd parcio ger Prif Adeilad y Brifysgol (sy'n rhad ac am ddim), a bydd myfyrwyr yn eich tywys i'r Diwrnod i Ymgeiswyr.
Ar y tren neu fws
Ewch i wefan Trainline a Traveline Cymru am wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus.
Mae parcio ym meysydd parcio'r Brifysgol yn rhad ac am ddim. Bydd parcio ar gyfer y Diwrnod i Ymgeiswyr ger Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg lle bydd staff yn eich cyfeirio at y lleoedd parcio sydd ar gael. Defnyddiwch y cod post LL57 2DG yn eich Sat Nav neu dilynwch yr arwyddion ar gyfer y Brifysgol. Ar ôl cyrraedd, ewch i Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg.
Ni fydd cyfleusterau parcio a theithio o'r meysydd parcio ar Ffordd Deiniol.
Noder: Cynhelir Diwrnod i Ymgeiswyr Radiograffeg ar ein campws yn Wrecsam.
cyfarwyddiadau i brif adeilad y brifysgol, ffordd y coleg, Bangor ar Google Maps
Mae Canolfan Rheolaeth y Brifysgol yn cynnig llety 4*.
Mae ystafelloedd sengl hefyd ar gael yn ein llety en-suite ar y campws - archebwch ar ein gwefan.
I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno gwneud eich trefniadau eich hunain, ewch i wefan Twristiaeth Gogledd Cymru.
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG