Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddilyn PhD mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor?
Mae'r syniad o ddilyn PhD wedi aros yn fy meddwl ers cwblhau fy ngradd israddedig mewn ffiseg ddegawdau yn ôl. Arweiniodd gofynion bywyd fi i lawr llwybrau eraill, ond pan raddiodd fy mab, cefais yr amser a'r cymhelliant i ailystyried yr uchelgais honno. Er bod fy sylfaen academaidd mewn ffiseg, mae fy angerdd gwirioneddol mewn gwyddorau chwaraeon. Roedd Prifysgol Bangor yn sefyll allan am ei henw da yn y maes hwn, ei haddysgu dan arweiniad ymchwil, a'i hamgylchedd academaidd cefnogol, gan ei gwneud yn lle delfrydol i ddilyn fy astudiaethau doethurol.
Fedri di ddisgrifio ffocws dy ymchwil a pham ei bod yn bwysig i ti?
Mae fy ymchwil yn archwilio'r strategaethau gwybyddol y mae rhedwyr pellteroedd hir yn eu defnyddio i ddioddef pellteroedd eithafol, ar y cyd â chaledwch a gwytnwch meddyliol. Fel rhedwr eithafol, roeddwn i wedi fy ysgogi i ymchwilio i'r maes pur ddieithr hwn, yn enwedig o ystyried twf cyflym y gamp a'r llenyddiaeth academaidd gadarn gyfyngedig. Archwiliais hefyd sut mae naratifau diwylliannol yn llunio hunaniaethau a phenderfyniadau rhedwyr, ac amlygais brofiadau merched, sy'n cynrychioli dim ond tua 10% o gyfranogwyr mewn rasys llwybrau eithafol hir.
Beth oedd y rhan fwyaf cofiadwy o'th amser ym Mangor?
Er i mi ddilyn fy ngradd drwy astudiaethau ar-lein, roeddwn i'n ymweld â Phrifysgol Bangor o bryd i'w gilydd i gymryd rhan mewn trafodaethau academaidd gyda Dr Stuart Beattie, a bu ei arweiniad yn allweddol drwy gydol fy nhaith ymchwil. Un o'r profiadau mwyaf cofiadwy yn ystod fy amser ym Mangor oedd cymryd rhan yn ‘Ultra-Trail’ Eryri (ras 104km gyda dros 6500m o gynnydd mewn uchder), lle cefais y safle cyntaf yn fy nghategori oedran. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Eryri, rhanbarth o harddwch naturiol eithriadol ac o arwyddocâd ecolegol. Er gwaethaf tirwedd heriol y ras, a oedd angen ymdrech eithriadol, mi wnes i fwynhau’r ras, yn enwedig y dringfeydd fel Llwybr Watkin. Roeddwn i wedi fy syfrdanu gan harddwch naturiol yr ardal hon. Roedd gen i'r criw cefnogi gorau hefyd (Dr Beattie).
Sut mae dy PhD wedi helpu i lunio dy yrfa neu ddatblygiad personol?
Mae ymgymryd â PhD wedi siapio fy natblygiad personol a phroffesiynol yn fawr. Mi wnaeth ddyfnhau fy meddwl beirniadol, fy sgiliau ymchwil, a'm gallu i ymgysylltu â fframweithiau damcaniaethol cymhleth, yn enwedig o fewn gwyddorau chwaraeon. Fe wnaeth y broses o ddylunio a gweithredu project ymchwil annibynnol, yn enwedig un sydd wedi'i wreiddio yn fy mhrofiad fy hun fel rhedwr pellteroedd eithafol, wella fy hyder a'm chwilfrydedd deallusol. Yn bersonol, cadarnhaodd y daith PhD fy ymrwymiad i ddysgu gydol oes a rhoddodd ymdeimlad o gyflawniad wrth ddilyn uchelgais oedd gen i ers amser maith. Yn broffesiynol, mae wedi agor llwybrau newydd ar gyfer cyfrannu at drafodaeth academaidd, mentora eraill, ac ymgysylltu â chymunedau gwyddor chwaraeon ar lefel ddyfnach.
Wyt ti'n dal i ymwneud ag ymchwil, chwaraeon, neu'r byd academaidd? Os felly, sut?
Rwy'n parhau i gymryd rhan weithredol mewn chwaraeon ac yn y byd academaidd.
Rwy'n parhau i gystadlu mewn rhedeg llwybrau pellteroedd eithafol, gyda ffocws cynyddol ar ddigwyddiadau hirach a mwy heriol. Ar hyn o bryd rwy'n meddwl am y Tor des Géants (330 km gyda 24,000 m o gynnydd mewn uchder) yn rhanbarth Aosta yn yr Eidal, un o'r rasys mwyaf heriol yn y gamp. Yn ystod fy ras ddiweddaraf, o'r enw TDS (154 km, cynnydd uchder o 9,300 m), cefais fy hun yn adfyfyrio ar fy ymchwil ddoethurol, yn enwedig y strategaethau ymdopi yr oeddwn wedi'u harchwilio yn fy nhraethawd ymchwil, a brofodd yn amhrisiadwy mewn adegau o anhawster. Hoffwn feddwl fy mod i wedi cysylltu'r byd academaidd â chwaraeon yma.
Yn academaidd, rwyf wrthi'n datblygu cyhoeddiad yn seiliedig ar un o benodau fy nhraethawd ymchwil. Rwyf hefyd yn bwriadu ehangu fy ymchwil, gyda ffocws penodol ar brofiadau merched mewn chwaraeon dygnwch eithafol, pwnc sy'n parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn llenyddiaeth gyfredol.
Rwyt ti wedi cyflawni heriau marathon pellter eithafol anhygoel – beth sy'n dy gymell i wthio dy derfynau corfforol a meddyliol fel 'na?
Gallwn i ysgrifennu traethawd cyfan am hynny a fydda’i gen i mo’r ateb o hyd. Dros y blynyddoedd, mae fy rhesymau dros gymryd rhan mewn rhedeg llwybrau pellteroedd eithafol wedi esblygu, ond mae fy angerdd dros y gamp wedi aros yn gyson. Mae'r atyniad yn yr her, yr anhysbys, cwrdd â phobl sydd fel fi ag angerdd dros y gamp, yr ymdeimlad o gyrhaeddiad, a'r cyfle i ddarganfod fy hun a thirweddau na fyddwn i byth yn dod ar eu traws fel arall. Mae'r elfennau hyn yn parhau i danio fy ymrwymiad i'r gamp. Er gwaethaf ei ofynion corfforol a seicolegol sylweddol, ac er gwaethaf fy oedran, rwyf wedi paratoi'n dda, ar ôl hyfforddi'n helaeth o ran y corff a'r meddwl dros y blynyddoedd. Er fy mod i'n gwthio fy nherfynau corfforol a meddyliol, rwyf hefyd yn ymwybodol o fy nghyfyngiadau corfforol ac yn talu sylw i gynnal fy llesiant cyffredinol.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyrwyr presennol neu fyfyrwyr y dyfodol ym maes Gwyddor Chwaraeon?
Fy nghyngor i fyfyrwyr Gwyddor Chwaraeon presennol a rhai'r dyfodol yw parhau i fod yn chwilfrydig, yn rhyngddisgyblaethol, ac yn adfyfyriol. Mae Gwyddor Chwaraeon yn faes deinamig sy'n tynnu ar ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, a mwy. Felly, fel y gwnes i yn fy nhraethawd ymchwil, lle astudiais naratifau chwaraeon sydd wedi'u hymgorffori'n ddiwylliannol hefyd, chwiliwch am gysylltiadau ar draws disgyblaethau. Peidiwch ag ofni archwilio pynciau anghonfensiynol, yn enwedig y rhai sydd â gwreiddiau mewn profiad bywyd. Os ydych chi'n athletwr eich hun, defnyddiwch y safbwynt hwnnw i lywio'ch ymchwil, ond byddwch yn barod hefyd i gamu'n ôl a'i archwilio'n feirniadol. Ymgysylltwch yn weithredol â theori ac ymarfer, cymerwch ran mewn cynadleddau, a pharhau i fod yn rhan o chwaraeon. Yn aml, daw'r mewnwelediadau mwyaf ystyrlon o groestoriad ymholiad academaidd a phrofiad o’r byd go iawn.
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ei rannu gyda chymuned Gwyddor Chwaraeon Bangor?
I'r Gymuned Gwyddor Chwaraeon: daliwch ati i wthio'r ffiniau yn union fel rwy'n ei wneud yn fy rasys. Nid dim ond metrigau perfformiad yw Gwyddor Chwaraeon, mae'n ymwneud â deall potensial dynol yn ei holl gymhlethdod. P'un a ydych chi yn y labordy, ar y maes, neu allan ar y llwybrau, mae eich gwaith yn helpu i ehangu'r sgwrs a dyfnhau ein dealltwriaeth ar y cyd. Rwy'n edrych ymlaen at aros mewn cysylltiad a chyfrannu at y ddeialog barhaus, yn enwedig ynghylch chwaraeon dygnwch eithafol a rôl esblygol merched mewn rhedeg pellteroedd eithafol.