Bu David Lancaster Laidman, a fu farw yn 88 mlwydd oed ar Ebrill 28 2025, yn Ddarlithydd ac Uwch-ddarlithydd yn Adran Biocemeg a Gwyddor Pridd (yn hwyrach yr Ysgol Gwyddorau Bioleg) rhwng 1963 a 1997.
Magwyd yn Northwich, Swydd Caer o gefndir amaeth. Treuliodd cyfnodau gyda’i fam-gu yn Ynysgynwraidd, ger y Fenni. Cyfnod yr oedd yn hoff iawn sôn amdano. Graddiodd (BSc, 1958 a PhD, 1961) mewn Biocemeg o Brifysgol Lerpwl, o dan oruchwyliaeth y Cymro yr Athro Richard Morton, FRS (1899-1977). Treuliodd flwyddyn ôl-doethuriaeth yno yn ymchwilio cemeg wbicwinon (1961-2). Amser dylanwadol iddo oedd cyfnod ôl-doethuriaeth yn ETH Zürich (1962-3) yn gweithio ar tocofferol gyda’r Athro Carl Martius (1906-1993; un o ddarganfyddwyr y Cylch Asid Sitrig (1937)). Yno cyfarfu a phriodi â Peggy Leonore Locher.
Yn 1963 ymunodd ag Adran yr Athro W. Charles Evans, FRS (1911-1988), ei swyddfa a’i labordy yn yr Adeilad Coffa, y gyntaf o grŵp o ymchwilwyr biocemeg planhigion. Ei arbenigedd ymchwil cynnar (o dan ysbrydoliaeth Morton) oedd biocemeg brasterau planhigion cyn iddo symud yn hwyrach i faes eginiad hadau yn gyffredinol. Bu’n gyfarwyddwr i 26 o fyfyrwyr PhD - gan gyhoeddi nifer o bapurau ac adolygiadau.
Ar ddiwedd y 1970au, trwy hyfforddi myfyrwyr PhD oddi-yno, cychwynnodd cysylltiad hir dymor a Phrifysgol Amaeth y Sind, Tandojam, Pacistan. Gyda’r Athro Rahim Mirbahar, bu’n allweddol yn natblygiad y sefydliad hwnnw. Ymwelodd yn gyson hyd at ei ymddeoliad.
Am flynyddoedd ar ôl ymddeol, bu David a Peggy yn weithgar iawn gyda grŵp Cyfeillion Ysbyty Gwynedd, hyd i gyflwr iechyd y ddau amharu ar eu gweithgaredd. (Bu farw Peggy yn Ionawr 2023).
Bu i Peggy a David, mab Andrew, merch yng nghyfraith Nicola ag wyres Nadia (a fu’n bwysig iawn iddynt yn eu blynyddoedd olaf).
Yr Athro Deri Tomos