Archif y Mis

ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2024
Llyfrau Botanegol Fictoraidd gyda darluniau ynddynt gan ferched
Roedd oes Fictoria yn gyfnod o newid a chynnydd mawr. Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ehangu, cafodd toreth o blanhigion newydd ac egsotig eu cludo o bob rhan o’r byd i Brydain gan newid edrychiad ein gerddi yn sylweddol.
Gerddi’r dosbarth canol oedd y rhain, yn aml mewn terasau maestrefol neu filas wedi’u hamgylchynu gan erddi blaen a chefn. 
Daeth llawlyfrau garddio’n ffasiynol gyda chynnydd yn y nifer o ferched a oedd yn darlunio planhigion. 
Yn hanesyddol, nid oedd artistiaid botanegol benywaidd yn cael cymaint o glod â’u cymheiriaid gwrywaidd. “It was sometimes thought that botanical illustration was only for ladies who dabbled in a spot of watercolors before ordering afternoon tea!” yn ôl Nia Meleri Evans o Amgueddfa Cymru. Fodd bynnag, daeth llawer o’r merched hyn yn arloeswyr a cawsant effaith sylweddol ar ein dealltwriaeth bresennol o fotaneg gan lwyddo hefyd i gyfleu harddwch amrywiol blanhigion. 
Dyma rai enghreifftiau a geir mewn llyfrau a gedwir gan Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

 

Clara Maria Pope 
Peintiwr ac artist botanegol oedd Clara Maria Pope (née Leigh). Cafodd ei geni yn Llundain, ac er and yw ei dyddiad geni yn hysbys, cofnodir iddi gael ei bedyddio yn 1767. Roedd ei thad, Jared Leigh, yn arlunydd amatur, ac roedd ei gŵr cyntaf, Francis Wheatley hefyd yn arlunydd. Actor ac artist Gwyddelig oedd ei hail ŵr, Alexander Pope.
Roedd y cefndir artistig hwn yn ganolog i’w datblygiad a arweiniodd at arddangosfa o’i gwaith yn yr Academi Frenhinol yn 1796. Mae Pope yn adnabyddus am ei gwaith gyda Samuel Curtis, cyhoeddwr y ‘Botanical Magazine’, yn arbennig y “Monograph on the Genus Camellia”, 1819. 

 

A Monograph on the Genus Camellia, by Saml. Curtis ... The whole from original drawings by Clara Maria Pope. 

Samuel Curtis; Weddell, engraver.; Pope, Clara Maria, artist. 1819. London: published by J. & A. Arch

Llyfr Gwyddoniaeth Prin Mawr (SB413.C18 C8 1819)   

Cover page from a Botanical Book
Illustration of camellia from a botanical book
Illustration of camellia from a botanical book

Jane Loudon 
Amddifadwyd Jane Loudon (née Webb) pan yn 17 mlwydd oed. Roedd yn awdur, darlunydd ac arloeswr yn y maes ffuglen wyddoniaeth ac er mwyn cynnal ei hun ysgrifennodd y nofel ‘The Mummy’. Yna, aeth ymlaen i briodi’r garddwr tirluniau uchel ei barch, John Claudius Loudon a gyda’i gilydd fe wnaethon nhw ysgrifennu uchydig o lyfrau garddio cyn iddi droi ac ysgrifennu ei chyfres hynod lwyddiannus ei hun o lyfrau garddio, ‘Instructions in Gardening for Ladies’ (1840), ‘The Ladies Flower-Garden (1840) a ‘Botany for Ladies’ (1842). Crewyd y llyfrau hyn yn benodol ar gyfer garddwyr benywaidd gan ddefnyddiol termau syml a chynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i gael y canlyniadau gorau wrth arddio.
Prynwyd ‘The Ladies Flower Garden gan y Brifysgol ym Mehefin 1945 oddi wrth Frederick Talfourd Jones ac mae’n rhan o gasgliad Talfourd Jones sydd i’w ganfod yn yr Archifau a Chasglidau Arbennig, Prifysgol Bangor.
 

The ladies' flower-garden of ornamental bulbous plants by

Mrs Loudon; 1841. London : W. Smith, 113 Fleet Street

Llyfr Prin Gwyddoniaeth Mawr (SB407.L817 1841)

Title page of botanical book
Illustration from a botanical book
Illustration from a botanical book

Sarah Ann Featon
Cyhoeddodd Sarah Featon a’i gŵr Edward Featon ‘The Art Album of New Zealand Flora’ yn 1889. Hwn oedd y llyfr celf lliw llawn cyntaf a gyhoeddwyd yn Seland Newydd. Canmolwyd y llyfr a oedd wedi’i seilio’n gadarn ar wyddoniaeth ond oedd hefyd ag apêl boblogaidd, fel ‘gwaith trefedigaethol’. Un o’r rhesymau dros gynhyrchu’r llyfr oedd er mwyn dileu’r myth nad oedd gan Seland Newydd flodau cynhenid.
Rhoddwyd y llyfr i Brifysgol Bangor yn 1936 gan W. R. Jones, Ysw., cyfreithiwr o Amlwch.

 

‘The art album of New Zealand flora : being a systematic and popular description of the native flowering plants of New Zealand and the adjacent islands’  1889. 

Wellington, N.Z. : Bock & Cousins

Llyfrau Gwyddoniaeth Prin Mawr (QK460.F43)

Illustration from a botanical book
Title page from a botanical book
Illustration from a botanical book

Crewyd yr ‘Archif y Mis’ hwn gan Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig. 


Llyfryddiaeth:
Sarah Bilston, Queens of the Garden: Victorian Women Gardeners and the Rise of the Gardening Advice Text Victorian Literature and Culture, Vol. 36, No. 1 (2008), pp. 1-19 https://www.jstor.org/stable/40347590

Susan Garland Mann., Gardening as "Women's Culture" in Mary E. Wilkins Freeman's Short Fiction
The New England Quarterly, Vol. 71, No. 1 (Mar., 1998), pp. 33-53 
https://doi.org/10.2307/366723•https://www.jstor.org/stable/366723

Nia Meleri Evans, A passion for plants: botanical illustration by women artists. Museum Wales https://museum.wales/articles/1262/A-passion-for-plants-botanical-illustration-by-women-artists/ 

Joanna Durant, Passionate pioneers: increasing access to botanical artwork by women artists. Royal Botanical Gardens, Kew. https://www.kew.org/read-and-watch/passionate-pioneers-increasing-access-to-botanical-artwork-by-women 
 

ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2024

Llyfrau Botanegol Fictoraidd gyda darluniau ynddynt gan ferched
Roedd oes Fictoria yn gyfnod o newid a chynnydd mawr. Wrth i’r Ymerodraeth Brydeinig ehangu, cafodd toreth o blanhigion newydd ac egsotig eu cludo o bob rhan o’r byd i Brydain gan newid edrychiad ein gerddi yn sylweddol.
Gerddi’r dosbarth canol oedd y rhain, yn aml mewn terasau maestrefol neu filas wedi’u hamgylchynu gan erddi blaen a chefn. 
Daeth llawlyfrau garddio’n ffasiynol gyda chynnydd yn y nifer o ferched a oedd yn darlunio planhigion. 
Yn hanesyddol, nid oedd artistiaid botanegol benywaidd yn cael cymaint o glod â’u cymheiriaid gwrywaidd. “It was sometimes thought that botanical illustration was only for ladies who dabbled in a spot of watercolors before ordering afternoon tea!” yn ôl Nia Meleri Evans o Amgueddfa Cymru. Fodd bynnag, daeth llawer o’r merched hyn yn arloeswyr a cawsant effaith sylweddol ar ein dealltwriaeth bresennol o fotaneg gan lwyddo hefyd i gyfleu harddwch amrywiol blanhigion. 
Dyma rai enghreifftiau a geir mewn llyfrau a gedwir gan Archifau a Chasgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.

Clara Maria Pope 
Peintiwr ac artist botanegol oedd Clara Maria Pope (née Leigh). Cafodd ei geni yn Llundain, ac er and yw ei dyddiad geni yn hysbys, cofnodir iddi gael ei bedyddio yn 1767. Roedd ei thad, Jared Leigh, yn arlunydd amatur, ac roedd ei gŵr cyntaf, Francis Wheatley hefyd yn arlunydd. Actor ac artist Gwyddelig oedd ei hail ŵr, Alexander Pope.
Roedd y cefndir artistig hwn yn ganolog i’w datblygiad a arweiniodd at arddangosfa o’i gwaith yn yr Academi Frenhinol yn 1796. Mae Pope yn adnabyddus am ei gwaith gyda Samuel Curtis, cyhoeddwr y ‘Botanical Magazine’, yn arbennig y “Monograph on the Genus Camellia”, 1819. 

A Monograph on the Genus Camellia, by Saml. Curtis ... The whole from original drawings by Clara Maria Pope. 

Samuel Curtis; Weddell, engraver.; Pope, Clara Maria, artist. 1819. London: published by J. & A. Arch

Llyfr Gwyddoniaeth Prin Mawr (SB413.C18 C8 1819)   

Cover page from a Botanical Book
Illustration of camellia from a botanical book
Illustration of camellia from a botanical book
 
 
 
 
 
 
 

 

 

 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Jane Loudon 
Amddifadwyd Jane Loudon (née Webb) pan yn 17 mlwydd oed. Roedd yn awdur, darlunydd ac arloeswr yn y maes ffuglen wyddoniaeth ac er mwyn cynnal ei hun ysgrifennodd y nofel ‘The Mummy’. Yna, aeth ymlaen i briodi’r garddwr tirluniau uchel ei barch, John Claudius Loudon a gyda’i gilydd fe wnaethon nhw ysgrifennu uchydig o lyfrau garddio cyn iddi droi ac ysgrifennu ei chyfres hynod lwyddiannus ei hun o lyfrau garddio, ‘Instructions in Gardening for Ladies’ (1840), ‘The Ladies Flower-Garden (1840) a ‘Botany for Ladies’ (1842). Crewyd y llyfrau hyn yn benodol ar gyfer garddwyr benywaidd gan ddefnyddiol termau syml a chynnig awgrymiadau defnyddiol ar sut i gael y canlyniadau gorau wrth arddio. Prynwyd ‘The Ladies Flower Garden gan y Brifysgol ym Mehefin 1945 oddi wrth Frederick Talfourd Jones ac mae’n rhan o gasgliad Talfourd Jones sydd i’w ganfod yn yr Archifau a Chasglidau Arbennig, Prifysgol Bangor.
 

The ladies' flower-garden of ornamental bulbous plants by

Mrs Loudon; 1841. London : W. Smith, 113 Fleet Street

Llyfr Prin Gwyddoniaeth Mawr (SB407.L817 1841)

Title page of botanical book
Illustration from a botanical book
Illustration from a botanical book


 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

 

Sarah Ann Featon
Cyhoeddodd Sarah Featon a’i gŵr Edward Featon ‘The Art Album of New Zealand Flora’ yn 1889. Hwn oedd y llyfr celf lliw llawn cyntaf a gyhoeddwyd yn Seland Newydd. Canmolwyd y llyfr a oedd wedi’i seilio’n gadarn ar wyddoniaeth ond oedd hefyd ag apêl boblogaidd, fel ‘gwaith trefedigaethol’. Un o’r rhesymau dros gynhyrchu’r llyfr oedd er mwyn dileu’r myth nad oedd gan Seland Newydd flodau cynhenid.
Rhoddwyd y llyfr i Brifysgol Bangor yn 1936 gan W. R. Jones, Ysw., cyfreithiwr o Amlwch.

‘The art album of New Zealand flora : being a systematic and popular description of the native flowering plants of New Zealand and the adjacent islands’  1889. 

Wellington, N.Z. : Bock & Cousins

Llyfrau Gwyddoniaeth Prin Mawr (QK460.F43)

Title page from a botanical book
Illustration from a botanical book
Illustration from a botanical book
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Crewyd yr ‘Archif y Mis’ hwn gan Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig. 


Llyfryddiaeth:
Sarah Bilston, Queens of the Garden: Victorian Women Gardeners and the Rise of the Gardening Advice Text Victorian Literature and Culture, Vol. 36, No. 1 (2008), pp. 1-19 https://www.jstor.org/stable/40347590

Susan Garland Mann., Gardening as "Women's Culture" in Mary E. Wilkins Freeman's Short Fiction
The New England Quarterly, Vol. 71, No. 1 (Mar., 1998), pp. 33-53 
https://doi.org/10.2307/366723•https://www.jstor.org/stable/366723

Nia Meleri Evans, A passion for plants: botanical illustration by women artists. Museum Wales https://museum.wales/articles/1262/A-passion-for-plants-botanical-illustration-by-women-artists/ 

Joanna Durant, Passionate pioneers: increasing access to botanical artwork by women artists. Royal Botanical Gardens, Kew. https://www.kew.org/read-and-watch/passionate-pioneers-increasing-access-to-botanical-artwork-by-women 
 

 

ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2024

I ddathlu Sul y Mamau yn y DU ym mis Mawrth, mae ein Archif y Mis yn bwrw golwg ar bethnasau mamau a’u plant ar hyd y canrifoedd.

letter from 1876, Margaret Anne Ellis while she was away at Swansea Training College

BMSS/25076

Yn y llythyr hwn o 1876, mae Margaret Anne Ellis [Peg], tra roedd i ffwrdd yng Ngholeg Hyfforddiant Abertawe, yn ysgrifennu at ei mam, gan ddechrau’r llythyr trwy ddweud “Peidiwch â digio oherwydd rydi wedi cael tynnu fy llun eto”. Mae Peg yn sôn am y prynhawn hwnnw fel “diwrnod budr”, yn trafod mwynhau ei gwyliau heb wersi ac yn gorffen trwy ysgrifennu “Rwy’n parhau i fod yn ferch serchog i chi”. Beth bynnag fo’r pellter, roedd cyfathrebu trwy lythyr i drafod newyddion neu glecs yn hynod gyffredin rhwng mam a phlentyn.

hair sample from Penrhyn collection
 PFA/17/397

Mae ffyrdd mwy diddordol hefyd o ddarganfod pwysigrwydd y berthynas rhwng mam a phlentyn, fel y sampl gwallt hwn sydd wedi’i ddiogelu mewn llyfryn coch bach ers dechrau’r 19eg ganrif. Mae hyn yn sicr yn ffordd o gadw’r fam yn agos ac mewn cof.

arbitration award manuscript from Plas Gwyn collection
PG/92

Gan fynd ymhellach yn ôl mewn amser, mae’r ddogfen hon o’r 16eg ganrif yn cofnodi ffrae rhwng mam a phlentyn. Waeth beth fo’r cyfnod, gall y berthynas rhwng mam a phlentyn fod yn llawn tyndra yn arbennig pan fo’r fam yn feirniadol o ddewis ei phlentyn o gymar. Fel y gwelir yn y wobr gyflafareddu hon i wella’r tensiwn rhwng Jane Griffith a’i mab John, trwy gael y mab a’i wraig newydd, Elin, i ofyn ym fendith Jane Griffith a maddeuant am unrhyw beth a wnaethpwyd ganddynt i’w thramgwyddo. Yn ei dro, gofynnir i’r fam dderbyn y briodas a rhoi ei bendith iddi.

hand-drawn letter for St. David’s Day from artist Mildred Eldridge to her son
RST/5/37

I gloi, dyma lythyr hardd wedi’i addurno â llaw ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi gan yr artist Mildred Eldridge at ei mab, Gwydion Thomas ar y 1af o Fawrth 1979. Ysgrifenna, “pob dymuniad y bydd mis Mawrth yn fis arbennig o hapus i ti …”

Ysgrifenwyd yr “Archif y Mis” hwn gan Belen Montano-Flores, myfyriwr hanes sydd ar leoliad gwaith yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig.

 

 

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2024

Ar hyn o bryd rydym yn paratoi arddangosfa i ddathlu 140 o flynyddoedd ers sefydlu’r Brifysgol, ac yn meddwl y byddem yn rhoi blas o'r math o ddeunydd y byddwn yn ei arddangos. Dan y chwydd wydr y mis hwn y mae ffotograff o’r myfyrwyr a’r staff o flwyddyn academaidd 1900/01, pan oedd y Brifysgol yn dal i fod wedi'i lleoli yn y Penrhyn Arms. Ni fwriadwyd erioed i’r lleoliad hwn fod yn gartref parhaol i’r Brifysgol ac, yn fuan ar ôl tynnu’r llun hwn, dechreuwyd ar y gwaith o sefydlu prifysgol newydd, bwrpasol.

photograph of the Student Body and Staff from the 1900/01 academic year
ARCHIF Y MIS: IONAWR 2023
LLYN TEGID (BALA) WEDI RHEWI YN YSTOD GAEAF 1916-1917
Photo of an old car with two occupants on a frozen Llyn Tegid

 

Photo of a partially sunken car on a frozen Llyn Tegid
Photo of a partially submerged car broken through the ice on a frozen Llyn Tegid

Ceisiodd dau aelod o Gyngor Tref Bala (W. Owen a J.M. Jones) groesi’r rhew ar y llyn mewn car modur. Cychwynnodd y ddau o’r Orsaf Gychod ac am amser teithiodd y car yn llwyddiannusar hyd y rhew. Ond, wrth iddynt geisio tynnu llun, stopiodd y car ac fe glywyd sŵn mawr – roedd y modur wedi suddo drwy’r rhew megis llong danfor. Yn ffodus, pum troedfedd o ddŵr yn unig oedd yna o dan y rhew a llwyddodd y ddau ŵr i ryddhau eu hunain. Casglodd cynulleida o’u cwmpas ac ar ôl peth ymdrech, symudwyd y car ac fe’i llusgwyd yn ôl i’r dref gan fechgyn ysgol lleol.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd.

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2023
EDWIN AUGUSTINE OWEN : ACADEMYDD, ARBENIGWR RADIOLEGOL AC ATHRO FFISEG YM MANGOR O 1926 HYD 1954.

 

PHOTO OF EDWIN AUGUSTINE OWEN : FORMER PROFESSOR OF PHYSICS AT BANGO

Ganed yn fab i chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog ym 1887, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, cyn symud ymlaen i Labordy Cavendish ym Mhrifysgol Caergrawnt. Yno, bu’n gwneud gwaith pwysig ar belydrau Röntgen ac ymbelydredd o dan yr Athro Syr J.J. Thomson (Röntgen a gynhyrchodd pelydrau-X am y tro cyntaf ym 1895). Caiff ei ddarganfyddiad, sef bod ‘cyfernod amsugno màs deunydd ar gyfer pelydr-x yn amrywio'n groes fel pumed pŵer pwysau atomig y rheiddiadur’ ei adnabod fel cyfraith Owen. Ymunodd â Choleg Prifysgol Llundain, a pharhaodd â’i waith ymchwil ar belydrau-X a ffiseg atomig, yn ei amser hamdden yn bennaf, ac ym 1918, ar ôl bod yn ymwneud â gwaith rhyfel, cafodd ei benodi’n Bennaeth yr Adran Radioleg yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol i’r Weinyddiaeth Arfau lle roedd yn gallu ymroi ei holl egni i ymchwil i belydrau-X a ffiseg atomig.

Bu'n ysgrifennydd er anrhydedd Cymdeithas Röntgen ym 1920-24 a Sefydliad Radioleg Prydain ym 1924-25 ac yn is-lywydd Cymdeithas Ffisegol Llundain ym 1926-28, yn ysgrifennydd er anrhydedd Pwyllgor Rhyngwladol Radiolegol Unedau Radiolegol ym 1925-37 ac yn is-lywydd Sefydliad Radioleg Prydain ym1939-42. Ym 1926, fe'i penodwyd yn athro ffiseg ym Mangor lle sefydlodd ysgol ymchwil a oedd yn adnabyddus yn rhyngwladol am gywirdeb ei gwaith pelydr-X. Enillodd Wobr Röntgen ym 1927 a Medal Silvanus Thompson ym 1945 a bu'n is-lywydd y Sefydliad Ffiseg ym 1957-59.

Yn ogystal â’i lwyddiannau academaidd a gwyddonol eithriadol, gwnaeth yr Athro Owen gyfraniadau arwyddocaol eraill at y gymuned, yn arbennig ei waith gyda’r C&A (Ysbyty Sir Gaernarfon a Môn) ym Mangor. Ar ôl codi estyniad ar yr ysbyty ym 1924, daeth yn amlwg bod angen prynu uned fodern, a chyda hyn mewn golwg ymgynghorodd bwyllgor yr ysbyty â’r Athro Edwin Owen, a argymhellodd brynu offer newydd ynghyd â soffa a stand sgrinio. Argymhellodd hefyd y dylai’r ysbyty agor ystafell driniaeth pelydr trydanol a fioled. Dyma sut y daeth i gysylltiad â’r ysbyty am y tro cyntaf, a phenodwyd ef yn ffisegydd er anrhydedd ym 1928, gan barhau i gyfrannu ei arbenigedd at yr ysbyty hyd 1948. Yn ystod blwyddyn gyntaf ei benodiad, dywedodd yr Athro Owen: “ … Gellir dweud bod gan yr adran belydr-X gymaint o gyfarpar ag unrhyw uned belydr-X o’i maint yn y wlad … Mae’r adran mewn dwylo cymwys, gyda’r brif weinyddes nyrsio wedi cael blynyddoedd lawer o brofiad ym maes radiograffeg.

Photo of the C&A infirmary Bangor

 Y 'C & A', 1937 (Casgliad O.V. Jones)

Roedd yn aelod o Fwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru ac yn gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio Ysbytai, a daeth hefyd yn brifathro dros dro ar y brifysgol ym Mangor ym 1945-46.

Llythyr a ysgrifennwyd ato gan Marie Curie oedd archif y mis ym mis Tachwedd 2017.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd.

ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2023
Photo of UCNW women students 1923-24

Mawrth yw Mis Hanes Merched, ac i ddathlu, daw erthygl y mis hwn o lyfr lloffion Miss M.O. Davis, Warden y Merched o 1915 i 1943.

Yn ei flynyddoedd cynnar roedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn cydymffurfio â model prifysgolion dinesig Lloegr o ran derbyn myfyrwyr benywaidd. Cafodd yr amod hwn ei ffurfioli yn Siarter y Brifysgol, a oedd yn nodi:

“Caiff myfyrwyr benywaidd eu derbyn i fynychu unrhyw un o’r cyrsiau addysgu a sefydlwyd gan y Coleg, yn amodol ar y cyfyngiadau a’r rheoliadau (os o gwbl) a ragnodir yn Statudau’r Coleg o bryd i’w gilydd.”

O'r myfyrwyr cyntaf i gael eu cofrestru yn y Brifysgol, roedd traean yn ferched (a oedd yn gyfran uwch nag mewn sefydliadau yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwn) - rhai ohonynt yn ferched i deuluoedd lleol amlwg; eraill yn blant i wŷr a gwragedd cyffredin.

Photo of Miss M.O. Davis, Warden of the Women Students from 1915 to 1943.

 

Miss M.O. Davis, 1916.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd.

 

ARCHIF Y MIS: MAI 2023

Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig wedi cael £206K gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i ddisodli'r hen silffoedd symudol modur yn y brif ystafell ddiogel. Gyda'r gwaith adnewyddu mawr ar y gweill, fe wnaethom benderfynu edrych yn ôl i'r adeg y gosodwyd y silffoedd am y tro cyntaf yn y 1960au fel rhan o'r estyniad newydd i'r Llyfrgell. Mae Archif y Mis, mis Mai, yn cynnwys rhai o gynlluniau'r Llyfrgell, ac ynddynt ceir cynlluniau gwreiddiol yr Archifau a brasluniau o silffoedd Ingold Compactus.

Cafodd y cynlluniau eu llunio yn 1962 gan benseiri Syr Percy Thomas a’i Fab (Caerdydd-Abertawe-Amwythig).
 

An architect's plan of the library building denoting office space and shelving
An architects drawing of the future Library foyer

 

Manufacturer drawings of the shelving units installed in the library and archives

 

 

ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2023

Mae Cofnodion Capel Twrgwyn ar gael yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor. Yn eu mysg mae’r Cylchgrawn Chwarterol, ‘Yr Ymwelydd’ a gynhyrchwyd gan yr eglwys rhwng 1972 a 1979 pan oedd Y Parch. E. Ap Nefydd Roberts yn weinidog yno.

covers of the Ymwelydd magazine

Mae’r cylchgronau yn llawn gwybodaeth ddifyr am weithgareddau’r eglwys a’i holl gymdeithasau megis yr Ysgol Sul, Y Cylch, Cymdeithas y Chwiroydd a Chymdeithas Twrgwyn. Ceir yma hefyd newyddion am yr aelodau  a thudalen ‘Er Cof’ sy’n darparu bywgraffiadau o’r rhai a fu farw.

Yn sicr, dyma gofnod arbennig o ddefnyddiol o fywyd byrlymus eglwys hynod bwysig ym Mangor.

Cover of the Ymwelydd magazine

 Ymunodd aelodau o Gapel Y Tabernacl gyda chynulleidfa Twrgwyn yn 1968. Yn fwy diweddar, pan agorwyd Capel Berea Newydd ym Mangor, symudodd yr aelodau yno gan adael yr adeilad ar Ffordd Caergybi yn wag. Fodd bynnag, fe’i prynwyd yn 2003 gan Gapel y Bedyddwyr, Penrallt.

 

 

ARCHIF Y MIS: AWST 2023

Blwch brodwaith stwmp, c.1689-1694.

Mae'n hysbys bod ein casgliadau’n cynnwys llawysgrifau yn bennaf ac ystod amrywiol o lyfrau prin a deunydd printiedig, fodd bynnag, a oeddech chi'n gwybod bod ein casgliadau hefyd yn cynnwys nifer fach o arteffactau? Maent yn amrywio o weithiau celf a cherfiadau i eitemau personol megis medalau, offer ysgrifennu a hyd yn oed cudynnau o wallt! Mae’r darn y rhoddir sylw iddo'r mis hwn yn enghraifft wych.

ornately decorated stump-work box

Mae’n flwch brodwaith stwmp cain iawn gyda darn y gellir ei godi allan a dwy adran gyfrinachol. Mae'r arwyneb yn cynnwys portread o'r Brenin William a'r Frenhines Mary (teyrnasiad 1689-1694). Mae’n cynnwys pwrs wedi'i frodio, a maneg llaw chwith dynes gyda stamp wedi'i argraffu tu mewn iddo gyda'r geiriau “H. Jaffray, near Durban Yard, near Strand, London”.

ornately decorated stump-work box open

Mae brodwaith stwmp yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau brodwaith gwahanol i adrodd stori gyfoes ar ffurf pwythau gan ddefnyddio elfennau tri dimensiwn. Roedd yn weithgaredd poblogaidd yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac yn rhan o addysg merch gyfoethog, trwy ddechrau gyda sampleri syml pan oeddent yn ifanc iawn gan fynd ymlaen i wneud brodwaith stwmp. Byddai’r pynciau yn aml yn adlewyrchu themâu crefyddol neu frenhinol, megis yr enghraifft wych hon.

Lady's left handed glove

 

ARCHIF Y MIS: HYDREF 2023

Casgliad R.T. Pritchard


Yn y Diwrnod Agored Cymunedol yn ddiweddar bu’r Archifau’n arddangosodd nifer o ffotograffau hanesyddol o ardal Bangor o Bapurau R.T. Pritchard. Roeddent yn eithaf poblogaidd gyda'r ymwelwyr. Felly ar gyfer Archif y Mis fis Hydref rydym wedi penderfynu cynnwys rhai o'n ffefrynnau ninnau o'i gasgliad. 
Brodor o Ddinas Bangor oedd Robert Thomas Pritchard (1890 - 1978). Roedd ganddo ddiddordeb ysol yn hanes a datblygiad y ddinas. Roedd R.T. Pritchard yn ŵr hynod ddiwylliedig. Ymddiddorai’n fawr mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, a’r celfyddydau cain, a daeth yn aelod breintiedig o gymdeithas ddadlau ‘y coleg a’r dref’ Bangor a adwaenir fel y Gymdeithas Ddialectig. Fodd bynnag, fel hanesydd yn bennaf y cofir amdano — bu’n gwasanaethu ar Gyngor Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, yn ogystal â Phwyllgor Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Yr oedd yn gwbl ymroddedig i hanes Bangor, ond yn anffodus oherwydd afiechyd ni lwyddodd i gwblhau ei waith ar y pwnc a’i gyhoeddi.

Ffotograff: Golygfa o Bont y Borth.
 

an early photograph of the menai suspension bridge

 

Ffotograff yn edrych i lawr Stryd y Deon - Siop Thomas Lewis & Co., Groser, Melinau Ager y Ddinas, ar gornel cyffordd Stryd y Deon a'r Stryd Fawr. Sylwch ar warws mawr Thomas Lewis ym mhen isaf Stryd y Deon. Dymchwelwyd adeilad y Llong, 315 Y Stryd Fawr, a'r tŷ drws nesaf ar yr ochr uchaf (313) i ledu'r fynedfa i Stryd y Deon.

an early photo looking down Dean Street in Bangor

 

Ffotograff o 345 Stryd Fawr, Bangor, adeilad 'Eirwyn y Fferyllydd.'

early photo of a chemist shop on Bangor High Street

 

Ffotograff o Bont Menai yn ystod y gwaith ailadeiladu, yn y 1940au.

early photo of reconstruction work on the menai bridge
 
ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2023

Llyfrau nodiadau yn cynnwys cofnodion a luniwyd gan un o fyfyrwyr ymchwil yr Athro Thoday am uchelwydd, 1936-1941.

Mae'r traddodiad o hongian uchelwydd yn dyddio'n ôl i'r Derwyddon hynafol a oedd yn credu bod y planhigyn yn dod â lwc dda ac yn helpu i amddiffyn rhag ysbrydion drwg. Yn y Deyrnas Unedig, mae’r traddodiad o gusanu o dan yr uchelwydd yn dyddio’n ôl i’r 1700au ond parhaodd y Fictoriaid â’r traddodiad o gusanu o dan yr uchelwydd gan y credwyd ei fod yn symbol o ffrwythlondeb a rhamant.

Roedd David Thoday FRS (1883-1964) yn Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac roedd yn nodedig am ymchwil mewn ffisioleg planhigion ac anatomi achosol.

Drawing of mistletoe from professor Thoday's notebook
ARCHIF Y MIS: IONAWR 2022
Llun o Jennie Thomas, cyd-awdures Llyfr Mawr y Plant, yn beirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Llangefni, 1948.

 

Photograph of Jennie Thomas, joint-author of  Llyfr Mawr y Plant,

Dyma lun amserol iawn gan fod Llyfr Mawr y Plant newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed (fe’i cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1931) a chan fod Urdd Gobaith Cymru yn 100 oed eleni.

Mewn erthygl amdani yn Barn, Chwefror 1980, dywedir: “Aml y clywid Jennie Thomas mewn eisteddfod yn traddodi beirniadaeth ar lwyfan ac ebychu “Bobl bach!” neu “Bobol annwyl!”” yn union fel y cymeriadau yn ei straeon am Wil Cwac Cwac!

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson.

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2022
CERDYN SANT FFOLANT

Efallai eich bod wedi methu dydd Santes Dwynwen ond mae cyfle o hyd i chi ddatgan eich cariad drwy anfon cerdyn rhamantus ar ddydd Sant Ffolant.

Dyma enghraifft o gerdyn Sant Ffolant sy’n dyddio o’r 19eg ganrif sydd i’w ddarganfod ymysg llawysgrifau Wynn Hall. Daeth rhain yn boblogaidd iawn ar ddechrau’r ganrif honno a chynhyrchwyd rhai crand iawn gyda lês a rhubannau.

'Cerdyn San Ffolant (16 Chwefror 1875) at Miss Lydia Kenrick yn Y Rhyl.'

Photo of a Valentine Card from the 19th century
Photo of a Valentine Card from the 19th century

 

Photo of a Valentine Card from the 19th century

 

 Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams.

ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2022
Y WLADFA

Nodwn fis Mawrth ddau ganmlwyddiant genedigaeth Michael D. Jones, sylfaenydd y wladfa Gymraeg ym Mhatagonia. Mae'r Archifau ym Mhrifysgol Bangor yn gartref i gasgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

“Fy amcan oedd sefydlu gwladfa lle y medrai y Cymry aros yn Gymry, siarad eu hiaith a chadw eu traddodiadau a’u nodweddion cenedlaethol” (Michael D. Jones, 1894).

Cyfuniad o sawl peth a gasglwyd at ei gilydd o blith mwy na 1500 o eitemau yw Casgliad Patagonia a ddelir gan yr Archifdy. Mae'n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, papurau newydd, llyfrau a chynlluniau'n ymwneud â gwladfa Gymreig Patagonia a sefydlwyd 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r dogfennau'n cyflwyno hanesion o lygad y ffynnon a thystiolaeth ffotograffig o fywydau arloeswyr ac ymsefydlwyr y wladfa, gan alluogi i ddarllenwyr fod ag empathi a dealltwriaeth o'r criw o Gymry a ymdrechodd am ryddid ieithyddol a chrefyddol gydag annibyniaeth wleidyddol 8000 o filltiroedd o'u mamwlad.

Photo of of the Welsh settlement in Patagonia
Photo of of the Welsh settlement in Patagonia

 

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd.

ARCHIF Y MIS: EBRILL 2022
LLYFRAU COFNODION CENHADOL BRYNIAU CASIA A JAINTIA (1869 - 1913)

Mae Ymddiriedolaeth y Comisiwn Llawysgrifau Cenedlaethol (NCMT) wedi dyfarnu £1,451 i warchod Llyfrau Cofnodion Cenhadol Bryniau Casia a Jaintia (1869 - 1913). Mae’r rhain yn cofnodi presenoldeb y Cymry yng ngogledd ddwyrain India a dylanwad y Genhadaeth Fethodistaidd Gymreig a diwylliant Casaiaidd ar ei gilydd, ac mae’r llyfrau pwysig hyn yn gymorth i feithrin gwell dealltwriaeth o’r hanes a rennir rhwng y ddwy gymuned.

Photo of the Khasi and Jaintia Hills Missionary Minute Book cover

 

Photo of the Khasi and Jaintia Hills Missionary Minute Book rear cover

 Mae'r Llyfrau Cofnodion wedi'u difrodi'n ddifrifol ac mae gwir angen eu diogelu, ac o ganlyniad ni allwn ganiatáu mynediad iddynt mwyach oherwydd eu breuder a'u cyflwr sy'n gwaethygu. Mae’n hanfodol i genhadaeth yr Archifau gadw’r cofnodion hyn a sicrhau eu bod ar gael mor eang â phosibl i ysgolheigion a’r cyhoedd. Rhagwelir y bydd y dogfennau’n cael eu digideiddio gan ddefnyddio cyllid mewnol, ynghyd â’r papurau sydd yn ein casgliadau cenhadol eraill, gan ein galluogi i sicrhau eu bod ar gael o bell trwy Gynllun Casgliadau Cymunedol Agored JSTOR.

Photo of the Khasi and Jaintia Hills Missionary Minute Books internal pages

Bydd prosiect Croesi Diwylliannau: rhannu gwaith cenhadon Cymreig yn India â'r Byd  yn diogelu hanes y cysylltiad rhwng pobl Casia, eu hiaith a'u diwylliant, â'r Cenhadon Cymreig. Mae deunydd cenhadol Prifysgol Bangor o ddiddordeb cenedlaethol a rhyngwladol, yn galluogi ymchwilwyr a chymunedau i ddyfnhau dealltwriaeth o brofiad trefedigaethol Prydain yn y 19eg ganrif.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd.
ARCHIF Y MIS: MAI 2022
PIER Y GARTH, 1914

Mae Pier y Garth ym Mangor wedi ei enwi fel ‘Pier y Flwyddyn 2022’ gan y National Piers Society, gyda’r beirniaid yn dweud fod ganddo y “golygfeydd panoramig gorau a geir oddi ar unrhyw bier yn y Deyrnas Unedig" [Bangor Garth voted Pier Of The Year 2022 - National Piers Society].

Ar y 14 Mai 1896 agorodd yr Arglwydd Penrhyn y pier yn swyddogol yn dilyn gorymdaith drwy’r ddinas a daeth torf o dros 5,000 o bobl ynghyd i wylio’r seremoni agoriadol.

Mewn gwynt cryf yn Rhagfyr 1914 fe darodd y ‘S.S. Christiana,’ stemar 282 tunnell a oedd wedi’i hangori ar y Fenai, i mewn i’r Pier, gan achosi i ran fawr ohono ddymchwel. Â hithau’n hollol ar drugaredd y gwynt collodd y llong ei phropelor a chafodd ei gyrru gerfydd ei hochr yn erbyn y pier. I ddechrau, tarodd starn y stemar yn erbyn un o'r pileri haearn yng nghanol y strwythur a'i ddymchwel. Aeth tuag 20 troedfedd o starn y llong dan y pier a malu piler haearn arall. Rhuthrodd llygad-dystion, pysgotwyr lleol a'r Pierfeistr i gynorthwyo’r stemar a'i chlymu i lanfa 'Ja Ja' gerllaw. Unwaith y llwyddodd y Christiana i ddianc, syrthiodd darn o ddec y pier i'r culfor islaw.

Yn gynnar yn 1915, adeiladodd swyddogion a gwŷr Corfflu Peirianwyr Brenhinol Môn gangffordd dros dro sylweddol dros y bwlch, heb godi dim am eu llafur, a bu hwnnw yn ei le am 7 mlynedd o ganlyniad i’r Rhyfel Mawr.

.

Photo of a badly damaged Bangor Pier
Photo of Bangor Pier badly damaged

 Delweddau: Ffotograff o'r difrod i Bier Bangor ar ôl i'r 'S.S. Christiana' dorri'n rhydd o'i hangorfa a tharo pen y pier.

Photo of a ship docked at a jetty next to Bangor Pier

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams. 

ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2022
R.S. THOMAS - OMNIBWS

Mae R.S. Thomas (1913-2000) yn un o brif lenorion ein hoes, un o feirdd mwyaf Cymru. Yr haf hwn bydd Canolfan Ymchwil R.S. Thomas ar y cyd â’r Archifdy yn arddangos dogfennau ac arteffactau gwreiddiol o gasgliad y ganolfan yn Arddangosfa Flynyddol yr Archifdy: R.S. THOMAS:  EI FYWYD A'I WAITH .

Ymddangosodd cerddi printiedig cynharaf RST yng nghylchgrawn myfyrwyr Omnibws, pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, fel yr oedd ar y pryd. Ymddangosodd ei gerddi, ac un darn o ryddiaith greadigol, dan y ffug enw 'Curtis Langdon'. Dywedodd RST mewn cyfweliad ym 1990 ei fod, wrth edrych yn ôl, wedi ei ‘syfrdanu’ gan y ffug enw a fabwysiadodd gan deimlo ei fod yn deillio o enwau’r math o awduron y byddai ei fam yn eu darllen yn ystod ei fagwraeth (‘Warwick Deeping’). Pan gymerodd golygydd newydd yr awenau a phan glywodd RST ef yn dweud “fydd dim mwy o gerddi gan y d***l Curtis Langdon ‘na’n cael eu cyhoeddi”, cyflwynodd RST gerdd, wedi’i chopïo gan ffrind, o dan y ffugenw ‘Figaro’ – a chafodd ei derbyn.

Front cover of the Omnibus magazine
RS Thomas poem, The Dreamer published under the nom-de-plume ‘Curtis Langdon’.

 

RS Thomas poem published under the nom-de-plume ‘Curtis Langdon’.

 Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams.

ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2022
Casgliad Talfourd-Jones

Yn ddiweddar croesawodd yr Archifau wirfoddolwyr o 'Broject Siarc' Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda staff yr Archifau yn rhoi sesiynau ar sut i chwilio trwy gofnodion archifau a chasgliadau arbennig i helpu gyda'u hymchwil. Ymhlith y darganfyddiadau, daethom ar draws rhai llyfrau prin hardd o Gasgliad Talfourd-Jones.

Roedd Frederick Talfourd-Jones (1874-1945) yn beiriannydd sifil o fri ac yn aelod brwd o Glwb Maes Llandudno, Bae Colwyn a’r Cylch – clwb gyda’r nod o annog astudio Astudiaethau Natur ac Archaeoleg, yn enwedig yng Ngogledd Cymru. Ar ôl ymddeol, gwnaeth Talfourd-Jones hel casgliad o ddeunydd printiedig ar wahanol agweddau ar Astudiaethau Natur - prynodd Llyfrgell y Brifysgol y casgliad yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn 1945.

Photo of a shark from the pages of a book from the Frederick Talfourd-Jones collection
Photo of pages of a book from the Frederick Talfourd-Jones collection

 

Photo of pages of a book from the Frederick Talfourd-Jones collection
Photo of pages of a book from the Frederick Talfourd-Jones collection

 

Photo of pages of a book from the Frederick Talfourd-Jones collection

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd, a Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig. 

ARCHIF Y MIS: AWST 2022
MARY SUTHERLAND (1893-1955) – Y FENYW GYNTAF YN Y BYD I RADDIO MEWN COEDWIGAETH

I nodi dadorchuddio’r portread o Mary Sutherland yn Siambr Cyngor y Brifysgol, mae Archif y Mis ar gyfer Awst 2022 yn cynnwys blwch o luniau personol a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn perthyn i Mary o’i chyfnod yn fyfyrwraig ym Mangor. Newidiodd Mary statws merched a weithiai ym maes coedwigaeth pan raddiodd o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn 1916 – hi oedd y fenyw gyntaf yn y byd i raddio mewn coedwigaeth.

Photo of a box of personal photographs belonging to Mary Sutherland

Cofrestrodd yn y Brifysgol ym mis Hydref 1912 lle dilynodd y cwrs gwyddoniaeth gymhwysol mewn amaethyddiaeth, gan astudio priddoedd, tail a chemeg amaethyddol (yn ystod y cyfnod hwn roedd cyswllt anorfod rhwng amaethyddiaeth a choedwigaeth). Yn ystod blwyddyn academaidd 1913-14 roedd Mary yn astudio cwrs canolradd mewn botaneg a sŵoleg, ac erbyn 1915-16 roedd wedi canolbwyntio ei golygon ar goedwigaeth, gan ennill gradd dosbarth cyntaf yn ei harholiadau.

Bu Mary hefyd yn weithgar iawn mewn gweithgareddau allgyrsiol tra roedd ym Mangor. Roedd yn Is-lywydd y Gymdeithas Wyddonol (yr Adran Fiolegol), yn aelod o dîm y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau, ac yn aelod o Bwyllgor Clwb Ystafell Gyffredin y Merched. Ceisiodd hefyd sefydlu clwb cychod preifat ond methodd â chael caniatâd Reichel (y Pennaeth ar y pryd) a'r Senedd i ddefnyddio cychod a thir y Brifysgol.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd.

ARCHIF Y MIS: MEDI 2022
YR OENIG
Photo of Oenig magazine cover
Photo of page from Oenig magazine

 

Cylchgrawn misol Cymraeg yw hwn ar gyfer plant sy'n cynnwys themâu cyffredinol yn ogystal â chrefyddol. Mae'r prif gynnwys yn cynnwys bywgraffiadau, straeon, storïau cyfres a barddoniaeth.  Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidogion Thomas Levi (1825-1916) a David Phillips (1812-1904).

Cynhyrchwyd y cylchgrawn mewn ymgais i wneud deunydd printiedig rhad ar gael i oedolion a phlant Cymru.  Y prif amcan oedd darparu amrywiaeth o ddefnyddiau am enwogion, cenhadon, darganfyddiadau, seryddiaeth yn ogystal â phregethau.  Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau ymarferol yn ogystal ag ariannol, dim ond am ddwy flynedd y parhaodd y fenter, gan ddod i ben yn 1857.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Shan Robinson.

ARCHIF Y MIS: HYDREF 2022
CABAN F’EWYRTH TWM
Cover of Welsh version of Uncle Tom's cabin
Photo of page from Uncle Tom's Cabin

 

I nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mae Archif y Mis mis Hydref yn cynnwys 2 fersiwn o’r cyfieithiad Cymraeg o Uncle Tom’s Cabin, nofel wrth-gaethwasiaeth ddylanwadol Harriett Beecher Stowe a gyhoeddwyd ym 1852.

Dros 160 mlynedd ers ei gyhoeddi, mae Uncle Tom’s Cabin wedi ei gyfieithu i dros 70 o ieithoedd ac mae’n adnabyddus ledled y byd.

ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2022
CAIS I’R SENEDD I GREU ARGLAWDD NEU ARGAE GYDA LOC A PHONT GODI DROS AC AR DRAWS Y FENAI, 1783
Photo of List of subscriptions in support of an application to make an embankment across the Menai Strait

Rhestr o gyfraniadau gan uchelwyr a boneddigion lleol i gefnogi cais i’r Senedd i greu arglawdd neu argae gyda loc a phont godi dros ac ar draws y Fenai, ac apêl am arian cyhoeddus, 1783. Pwrpas yr 'arglawdd' oedd cysylltu'r 'Ffordd Fawr' rhwng Iwerddon a'r Senedd yn Llundain. Mae hefyd yn cynnwys apêl i Senedd Iwerddon at yr un diben.

Ymysg yr enwau mae'r Arglwydd Paget (Ystad Plas Newydd), yr Arglwydd Bulkeley (Ystad Baron Hill), Owen Meyrick (Ystad Bodorgan) ac Esgob Bangor, ymhlith eraill.

Crewyd yr 'Archif y Mis' yma gan Lynette Williams, Archifydd.

ARCHIVE OF THE MONTH: DECEMBER 2022
RECIPE TO MAKE ELDER WINE AT CHRISTMAS
Photo of recipe document on how to make elder wine

Elder, particularly the fruit, has been used for food, drink and medicinal purposes for centuries. Its propensity to grow wild in great quantities, often as hedgerows, meant they would be readily available around homes and farms.

This Christmas recipe is taken from a handwritten ledger containing a collection of recipies and remedies most probably written in the early 19th century [1798 watermark on paper] by an unknown author.

Recipes also include (amongst many others):

  • To make mead
  • To make plum cake
  • To make the Queens Cheese


Remedies include:

  • An infallible cure for a sore throat
  • A bad cure for a cough
  • For the bite of a mad dog


This ‘Archive of the Month’ feature was created by Lynette Williams, Archivist.

ARCHIF Y MIS: MEDI 2021Llyfryn Sba Cryd Cymalau Neuadd Kinmel, c.1930au

Trawsnewidiwyd y neuadd o dy preifat i ganolfan iechyd i drin pobl â chryd cymalau gan Mrs Florence Lindley, a oedd gynt yn brifathrawes Coleg Lowther, yng Nghastell Bodelwyddan gerllaw. Roedd y sba yno tan ddechrau’r Ail Ryfel Byd, pan gymerwyd y neuadd drosodd fel ysbyty.

Photo of Brochure for the Kinmel Hall Rheuma Spa

Mae Llawysgrifau Kinmel, a gedwir yn Archifau a Chasgliadau Arbennig y brifysgol, yn gasgliad o 1809 o eitemau gydag amrywiol ddyddiadau gan ddechrau ym 1391 yn ymwneud ag ystâd Kinmel yn sir Ddinbych a sir y Fflint a fu’n eiddo i’r teulu Holland, wedyn i’r teulu Carter ac yna i’r teulu Hughes.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd

ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2021Record Rag Prifysgol Bangor er budd Elusen, 1961

Record gerddorol a gynhyrchwyd gan Echins (Rag Mag Prifysgol Bangor) ar gyfer Wythnos Rag – un o’r cyfansoddwyr a’r cantorion ar y record yw Roger Whittaker [y canwr/cyfansoddwr a cherddor], cyn-fyfyriwr ym Mangor.

Photo of Bangor University Rag Record in Aid Of Charity sleeve
Photo of Bangor University Rag Record in Aid Of Charity

 Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd

ARCHIF Y MIS: AWST 2021
Dyddiaduron Natur Dr Paul Whalley

Daw’r delweddau yma o ddyddiaduron natur Dr Paul Whalley, cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor.

Derbyniwyd y casgliad o 13 dyddiadur fis Mehefin eleni ac maent yn ymestyn dros ddegawdau o 1944 hyd 2020. Mae ynddynt wybodaeth am y tywydd, rhestrau o adar a sylwadau cyffrediniol am natur.

14 mlwydd oed oedd Paul Whalley pan ddercheuodd ysgrifennu’r dyddiaduron a parhaodd i wneud hynny tan oedd yn ei 70au hwyr. Astudiodd swoleg ac entomoleg yn y Coleg a sefydlodd y Grwp Adar Bangor gyda myfyriwr arall. Gweithiodd yn Uganda fel entomolydd cyn dychwelyd i Brydain a sicrhau gwaith yn yr Amgueddfa Hanes Natur.

Photo of pages from the Paul Whalley nature diaries

Mae’r ddelwedd gyntaf yn cofnodi’r adar a welodd fis Gorffennaf 1951. Mis yn ddiweddarach mae Paul Whalley yn nodi “Fy mhen-blwydd yn 21 heddiw! Chwilboeth heddiw. Prynais ysbienddrych ... mae’n ymddangos yn bar gwych gyda diffiniad clir. Mae’n eitha diddorol mai yn Chwefror ’45 y defnyddiais ysbienddrych gyntaf – mae fy nodiadau am y diwrnod hwnnw yn waith darllen difyr.” 

Photo of pages from the Paul Whalley nature diaries
Photo of pages from the Paul Whalley nature diaries

 

Gwyliwch fideo am y casgliad diddorol hwn yma.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Simpson

ARCHIF Y MIS: MEDI 2021Albymau Charles Harper

Mae’r delweddau hyn yn dod o albwm ysblennydd o ffotograffau o orllewin Affrica. Credir eu bod yn dyddio o 1900–1910. Lluniwyd yr albwm gan Syr Charles Harper a’i gyflwyno i’w wraig, Marjorie Ford, merch y Parch. Gerard Ford, Rheithor Ideford, fel anrheg priodas ym 1910.

Am fwy o wybodaeth am Charles Harper a’i yrfa fel Gweinyddwr Sifil, cliciwch yma i weld ein harddangosfa.

Photo from the Charles Harper Albums featuring African women in traditional dress

 Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Simpson

ARCHIF Y MIS: HYDREF 2021Albymau Teithio

Cyfres o albymau trefnus iawn o gardiau post o nifer o deithiau a mordeithiau a gymerwyd gan John Richard Williams (1892–1961) a’i chwaer, Anne Williams (1896–1984), o Fae Colwyn. Mae’r casgliad o albymau yn olrhain 26 taith gan y brawd a’r chwaer i bob rhan o Ewrop ac Ynysoedd y Cayman. Prynwyd y cardiau post yn bennaf fel memorabilia, a chawsant eu gosod yn ofalus ac mewn cyflwr da yn yr albymau i’w hatgoffa am eu teithiau ac i adrodd hanes eu teithiau niferus ar draws Ewrop yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.

Photo of various scenes featured in the postcard albums
Photo of various scenes featured in the postcard albums

 

Mae rhai o’r cardiau yn arbennig o nodedig nid yn unig oherwydd y lliwiau llachar, ond wrth edrych yn fanwl gellir gweld y gweddillion cwyraidd ar ôl lliwio â llaw dros ben y printiau du a gwyn. Yn benodol, mae’r rhai sydd wedi eu cadw ar ddiwedd yr albwm ‘Paris, Versailles & St. Cloud’ (1924), yr albwm ‘Norwegian Fjords ‘(1927–1931), a’r albwm o’u mordaith Calgarig ar y White Star Line i ‘The Baltic and Scandinavian States, the Cayman Islands and Madeira’ (1930–1931) wedi cael eu lliwio’n ofalus i ddangos disgleirdeb y golygfeydd ac yn dangos pa mor ofalus y gwnaeth y brawd a’r chwaer ddogfennu eu teithiau. Mae un cerdyn post yn benodol, o’r albwm ‘France & Belgium’ (1917–1923), yn ddu a gwyn ac wedi ei nodi â saeth ac “fy nghartref”, gan anfarwoli eu harhosiad mewn ffordd bersonol iawn.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Alaw Dafis, Intern

ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2021Llythyr wedi ei drawsysgrifennu

Yng ngofal yr Archifau a Chasgliadau Arbennig mae casgliad o ddeunaw llythyr a anfonwyd rhwng dau frawd o Gymru a ymfudodd i America o Castell Hen, ger y Bala, rhwng 1943 a 1952. Groesodd John D. Pugh i America o Lerpwl ym mis Mehefin 1943, y cyntaf o’r brodyr i ymfudo, ac ysgrifennu nifer o lythyrau manwl at ei frawd, Hugh Pugh, ei rieni, a’i deulu a’i gymuned ehangach. Mae’r rhan fwyaf o’i lythyrau yn cynnwys newyddion i’w deulu ar ei iechyd ac disgrifiadau manwl o’i brofiadau o deithio trwy wahanol ddinasoedd y talaith Ohio, wrth iddo fyw yn ninasoedd Colwmbws, Cincinnati a Portsmouth.

Mae un o’i lythyrau at ei rieni, a anfonwyd o Columbus ar y 14eg o Orffennaf, 1845, yn dangos arddull benodol o ysgrifennu llythyrau a ddaeth yn arferol pan oedd papur yn brin neu’n rhy ddrud. Mae’r traws-lythyr hwn yn creu patrwm llawysgrifen daclus sy’n rhedeg yn berpendicwlar ar draws y dudalen, ac wedi’i gynllunio i’w ddarllen yn gyntaf yn unionsyth ac wedyn eto wrth gylchdroi 90 gradd. Mae’r ysgrifen hon – a chafwyd ei ddatblygu i wneud y mwyaf o’r lle sydd ar gael ar dudalen, yn cynnwys dwy ochr dalen A3 tenau wedi’i blygu yn hanner – gan greu patrwm syfrdanol o lawysgrifen sy’n gwneud wyth ochr papur allan o bedair.

Photo of a crossed letter

 Mae dau o’r llythyrau mwyaf diddorol yn y casgliad hwn eto gan John D. Pugh, un at ei frawd ac un arall at ei rieni. Anfonir y ddau o Cincinnati, dair blynedd ar wahân, ac fe’u hysgrifennwyd ar dudalennau sydd wedi’u hargraffu gyda darluniau o’r ddinas o ochr arall yr Afon Cincinnati, map manwl, a lluniau o seilwaith a phensaernïaeth. Mae’r ddau lythyr hyn yn cynnig mewnwelediad diddorol i sut yr oedd y dinas i fod wedi edrych yn ystod y cyfnod hwn, sut allai gwahanol ddarlunwyr fod wedi dewis darlunio golygfa’r ddinas o bob rhan o’r afon, a sut allai’r ddinas ei hun fod wedi newid ar draws bron ddwy ganrif.

Photo of town plan of Cincinnati mentioned in the cross letters
Photo of letter from John D. Pugh to his brother, Hugh Pugh

 

Mae’n debyg fod y celf a gynhwyswyd yn y ddau lythyr wedi’i chynhyrchu gyda’r bwriad o gyflwyno’r dinas ar ei orau, ac o bosib wedi ei marchnata i gwsmeriaid yn anfon llythyrau at berthnasau pell fel ffordd o hysbysebu rhinweddau gorau’r ddinas i dwristiaid neu ymfudwyr. Efallai fod yr un a anfonwyd at frawd ei frawd, Hugh, hyd yn oed wedi cyfrannu at ei benderfyniad i ddilyn ei frawd i America, ac efallai bod yr un i’w rieni wedi’i ddewis i dawelu eu meddwl am les eu mab mewn dinas dramor.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Alaw Dafis, Intern

ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2021
Carolau Nadolig

Mae canu a gwrando ar garolau Nadolig yn ffordd dda o fynd i ysbryd yr ŵyl heb os. Cynyddodd yr arfer o ganu carolau mewn poblogrwydd yn y cyfnod Fictorianaidd a dyma’r cyfnod y mae’r llyfryn bychan yma yn perthyn iddo.

Cyhoeddwyd ef gan H. Humphreys o Gaernarfon a’i bris oedd 6 cheiniog. Ynddo ceir 19 o garolau Nadolig Cymraeg – rhai adnabyddus i bobl y cyfnod megis “Difyrwch Gwŷr Aberffraw”, “Sawdl Buwch” a “Malldod Dolgellau”, ond sydd ddim mor adnabyddus i ni heddiw.

Photo of a cover of a publication called Telyn Seion featuring Christmas Carols
Photo of index of Telyn Seion publication of Christmas carols

 

ARCHIF Y MIS: IONAWR 2020

Eleni, byddwn yn parhau gydag Archif y Mis ac yn dewis a dethol eitemau difyr o’n casgliadau er mwyn cyflwyno’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Yn achlysurol, yn ystod 2020–2021, bydd eitemau sy’n berthnasol i’r thema “Awyr Agored” yn cael eu dewis er mwyn cadarnhau cryfderau’r Archifau a Chasgliadau Arbennig o ran antur, chwaraeon, tirweddau naturiol a.y.y.b.

Photo of a drawing of Plas Gwyn hall

Darlun o Blas Gwyn, Llanedwen

Daw’r darlun prin yma o Blas Gwyn, Llanedwen, Ynys Môn o lyfr arwerthiant sy’n dyddio o’r 10fed o Orffennaf 1856.

Cynhaliwyd yr arwerthiant yng Ngwesty’r Penrhyn Arms ym Mangor ac ynghyd â phlasdy Plas Gwyn a’r ffermydd Llwynon, Llwynogan a Llwynogan Fawr, roedd tiroedd stad Ysgubor Fawr ym mhlwyf Llanidan hefyd yn cael ei gwerthu.

Roedd Plas Gwyn yn gartref i’r hynfiaethydd, Henry Rowlands (1655–1723), rheithor Llanidan ac awdur Mona Antiqua Restaurata.

Ar ôl tipyn o dyrchu dyma ddarganfod mai Plas Llwyn-Onn yw’r enw ar Plas Gwyn bellach. Da o beth efallai gan fod Plas Gwyn yn enw cyffredin ar dai ym Môn e.e. Plas Gwyn ym Mhentraeth, Plas Gwyn yng Nherrigceinwen, Plas Gwyn yn Llanfaelog a Phlas Gwyn yn Llanfair Mathafarn Eithaf!

Catalog Arwerthiant Rhif 19

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2020

Eleni, byddwn yn parhau gydag Archif y Mis ac yn dewis a dethol eitemau difyr o’n casgliadau er mwyn cyflwyno’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Yn achlysurol, yn ystod 2020–2021, bydd eitemau sy’n berthnasol i’r thema “Awyr Agored” yn cael eu dewis er mwyn cadarnhau cryfderau’r Archifau a Chasgliadau Arbennig o ran antur, chwaraeon, tirweddau naturiol a.y.y.b.

Cyngor garddwriaeth o’r 18fed ganrif

Tair tudalen o’r llyfr “Eden: or a compleat body of gardening. Containing Plain and Familiar Directions for Raising the several useful Products of a Garden, Fruits, Root, and Herbage; from the practice of the most successful gardeners, and the result of a long experience. Together with the culture of all kinds of flowers, according to the methods of the English, French, and Dutch florists...”

Ysgrifenwyd y gyfrol hon gan John Hill a Thomas Hale, Ysw. yn 1756 ac fe’i cyhoeddwyd yn Llundain. Mae’n lyfr enfawr sy’n cynnwys ysgythriadau prydferth wedi’u paentio â llaw o flodau a phlanhigion mewn grwpiau – planhigion sydd i’w canfod mewn gerddi ym Mhrydain.

Dyma’r llyfr cyntaf i gyflwyno’r drefn “Linnaeus” o enwi, graddio a dosbarthu organebau. Mae’r drefn hon yn cael ei defnyddio’n eang heddiw. Enwyd y drefn hon ar ôl y botanegydd o Sweden, Carl Linnaeus (1707–1778).

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Shan Robinson, Swyddog Casgliadau Arbennig

ARCHIF Y MIS: IONAWR 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i:

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

 

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photo of the bamboo bird aeroplane

Yr awyren “Bamboo Bird” ar Draeth Coch, Ynys Môn (dde)

George Hartley Bryan F.R.S. (1864–1928)

Roedd George Hartley Bryan yn Athro Mathemateg Bur a Chymhwysol ym Mangor o 1896 tan iddo ymddeol yn 1926. Yn 1911 cyhoeddodd ‘Stability in aviation; an introduction to dynamical stability as applied to the motions of aeroplanes’, llyfr a osododd Bangor yn y rheng flaen lle’r oedd datblygiadau gwyddonol newydd yn y cwestiwn. Fe’i cyhoeddwyd o ganlyniad i’r ymchwil a wnaed ym Mangor a’r cyffiniau ar sefydlogrwydd gleiderau. Bu’n gweithio gyda William Ellis Williams, myfyriwr lleol a raddiodd mewn ffiseg a mathemateg (ac a ddaeth yn ddiweddarach yn Athro mewn Peirianneg Drydanol yn y Brifysgol) ac Edgar Henry Harper, aelod o staff, a fu’n cynorthwyo’r ymchwiliadau. Bu cydnabyddiaeth eang i bwysigrwydd gwaith Bryan at awyrennaeth ym 1914 pan gyflwynwyd medal aur y Gymdeithas Awyrennol Frenhinol iddo – yr ail i’w rhoddi erioed (cyflwynwyd y gyntaf i’r Brodyr Wright).

Mae Papurau William Ellis Williams ar gadw yn adran Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol.

Hawlfraint: Y llun trwy garedigrwydd Mrs. E.G. Williams.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Hunter, Archifydd

 

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i:

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Isaiah Brookes Jones a thudalen o’i ddyddiadur, 28 Medi 1905, gyda darlun bach o fynydd ia ger Labrador, Gogledd America (Llsgr Bangor 18343)

Isaiah Brookes Jones (1884–1907)

Ganed Isaiah Brookes Jones yn Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych a symudodd i fyw gyda’i fam i Fae Colwyn pan yn ifanc, wedi marwolaeth ei dad. Cafodd ei ysgogi i fod genhadwr yn ystod y diwygiad crefyddol yn 1904.

Cychwynodd ar ei waith fel cenhadwr ymysg y brodorion yn Lenore, talaith Manitoba, Canada ac yn Hydref 1907 symudodd i Winnipeg i astudio am radd mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg Wesley. Ymunodd â’r Y.M.C.A yno ym mis Tachwedd er mwyn iddo gael dysgu sut i nofio yn eu pwll nofio gan y byddai yn ofynol iddo fel cenhadwr allu teithio ar draws llyn Winnipeg mewn canŵ. Daethpwyd o hyd iddo wedi boddi yn y pwll nofio ar y 28ain o Dachwedd 1907. Roedd yn 23 mlwydd oed.

Mae’r casgliad yma’n cynnwys dyddiaduron manwl a ffraeth o’i fordaith o Lerpwl i Ganada a’i fywyd fel cenhadwr ymysg y Cree gyda chofnodion yn dyddio rhwng 1905–1907. Ceir hefyd peth gohebiaeth a thoriadau papurau newydd.

Mae’r archifau yn datgelu ei fod yn ŵr ifanc medrus â meddwl agored a pharodrwydd i flasu profiadau newydd, gydag awch i archwilio, darganfod a dysgu am ddiwylliannau gwahanol.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

Photo of an extract from IB Jones' journal, 28 September 1905, with a small sketch of an iceberg near Labrador, North America
Photo of Isaiah Brookes Jones
ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i:

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Painting of William Jones
Photo of a page from his volume on arithmetic and geometry published in 1706

 

William Jones gan William Hogarth, olew ar ganfas, 1740 ( © National Portrait Gallery, London 5734) ynghyd â dalen deitl i’w gyfrol ar rifyddeg a geometreg a gyhoeddwyd yn 1706.

William Jones (1675–1749), mathemategydd arloesol o Gymru

Ar y 14eg o Fawrth rydym yn dathlu diwrnod pi – yr arwydd π (y lythyren Roegaidd am ‘pi’) a ddefnyddir i ddynodi cylchedd cylch i’w ddiamedr, sydd tua 3.14159.

Mae’r diwrnod hefyd yn gyfle i ni anrhydeddu William Jones, y mathemategydd o Lanfihangel Tre’r Beirdd, Ynys Môn, a ddaeth yn gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol yn 1711 ac a oedd yn gyfaill i Syr Isaac Newton a Syr Edmund Halley.

Ymddangosodd cyhoeddiad Jones, Synopsis palmariorum matheseos, or, A new introduction to mathermatics yn 1706 a defnyddiwyd yr arwydd π i gynrychioli cylchedd cylch i’w ddiamedr yn y llyfr yma am y tro cyntaf.

Heddiw, mae π yn cael ei adnabod ar draws y byd ond ychydig sy’n ymwybodol bod modd olrhain ei hanes i bentref gwledig yng nghanol Môn.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: EBRILL 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photo of the Pedigree roll of John ap William ap Dafydd of Euarth Uchaf

Rhôl Achau John ap William ap Dafydd o Euarth Uchaf, Llanfair Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, 1584 (Penrhos I/546)

Eleni, mae’n flwyddyn “Darganfod” ac rydym yn gwahodd myfyrwyr i ymweld â’r Archifau a Chasgliadau Arbennig i ddarganfod mwy am ein adnoddau gwych.

Fel rhan o’r modiwl ‘Dogfennau a Ffynonellau’ yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas, gwahoddwyd grŵp o fyfyrwyr ôl-radd hanes canoloesol a modern cynnar yn ddiweddar i’r adran Archifau a Chasgliadau Arbennig i wneud dadansoddiad cychwynnol o’r rhôl achau hon o’r 16eg ganrif o dan oruchwyliaeth Dr Shaun Evans o Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Daeth rholiau achau yn boblogaidd yng Nghymru ar ddiwedd yr 16eg ganrif ac maent yn dyst i’r balchder mewn llinach a fodolai ymysg nifer o deuluoedd Cymreig.

Mae modd i chi ddarllen yr erthygl a ysgrifennwyd gan Kimberly Jussila a Callum Dickson yn ein Newyddlen diweddaraf.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: MAI 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Wilfred Shafto Kneeshawhoto of Wilfred Shafto Kneeshaw'sinvention

Llythyr oddi wrth W.S. Kneeshaw at ‘Trevor’ [Mr Trevor o Carter Vincent, Cyfreithwyr, Bangor] (ynghyd â llun) ynghylch dyfais y mae’n bwriadu cyflwyno patent arno. Isod ceir braslun o’r ddyfais a disgrifiad ohoni.

Wilfred Shafto Kneeshaw oedd unig fab Henry Kneeshaw o Benmaenmawr (Ynad Heddwch, Dirprwy Raglaw, Siryf Sir Gaernarfon). Dechreuodd ei yrfa filwrol fel Preifat gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (yn ddiweddarach daeth yn Is-gapten) ac wedi hynny cafodd ddyrchafiad i fod yn gapten yn 66ed Adran Hyfforddi wrth Gefn y Gatrawd Gymreig. Cafodd ei anafu’n ddrwg ym mis Awst 1915 a thra oedd yn gwella treuliodd ei amser yn ymchwilio a dyfeisio stand ar gyfer reiffl yn tanio grenadau. Mae’n debyg i’r syniad hwn ddeillio o’i brofiad o ymladd yn y ffosydd. Cyflwynodd Batent ar gyfer ei ddyfais ym mis Mawrth 1916:

“Patent: 101,441. Machine rests for.-Consists of a rifle stand for use when firing a rifle grenade. The stand comprises a front support 11 having at the top a pivoted fork 13 for the forepart of the rifle, and an inclined trough or guideway 15 for the butt of the rifle. The butt rests on a padded shoe 19 adapted to be adjusted along the trough 15, which may be graduated, by a handle 26. The shoe can be clamped in position by a screw and nut 22, 24”

 

Dyfynnwyd o: European Patent OfficeGB101441 (A) – Rifle Stand for Use when Firing a Rifle GrenadeApplication number: GB19160004302 19160323, https://worldwide.espacenet.com/publicationDetails/biblio?FT=D&date=19160921&DB=&locale=&CC=GB&NR=101441A&KC=A&ND=1# [Cyrchwyd Ionawr 2019].

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Hunter, Archifydd

Diagram of the Rifle Stand for Use when Firing a Rifle Grenade
ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i:

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photo of the My Own Cake recipe

Mae’r rysáit yma “Fy nghacen i” i’w ganfod mewn llyfr rysáit o’r 18fed ganrif a oedd yn perthyn i Elizabeth Morgan ond sydd bellach yn rhan o gasgliad Papurau Henblas (Llsgr Henblas 14).

Bu farw Elizabeth Morgan o Henblas ger Llangristiolus, Ynys Môn yn 1773. Roedd yn wraig i Henry Morgan, Henblas, mab Canghellor Bangor ac yn ferch i’r Dr John Davies o Kingsland, Swydd Henffordd.

Yn ogystal â’r gyfrol hon o ryseitiau a meddygyniaethau, ysgrifennodd ddyddiadur garddio a llyfr llawn cyfrifon sydd ar hyn o bryd i’w gweld mewn arddangosfa yn Storiel (Amgueddfa Bangor). Hefyd i’w gweld mae darlun o Elizabeth Morgan a ffrog o frodwaith hardd.

Mae rhaglen o weithgareddau difyr i gyd-fynd â’r arddangosfa “Elizabeth Morgan : Garddwr y 18fed ganrif”. Ewch i wefan Storiel am ragor o wybodaeth : https://www.storiel.cymru/cymru/whats-on/elizabeth-morgan/

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photo of pgaes from Antiquae linguae britannicae

Antiquae linguae britannicae, nunc vulgò dictae cambrobritannicae, a suis cymraecae vel cambricae, ab aliis wallicae, et lingvae latinae, dictionarium duplex. Prius britannico-latinum ... Posterius latino-britannicum. Accesserunt Adagia britannica, & plura & emendatiora, quàm antehàc edita.

John Davies (1567–1644)

Londini, impress. in aedibus R. Young, impensis J. Davies,& prostat venale ... apud Franciscum Constable

1632

Gramadeg Cymraeg mewn Lladin gan John Davies, Mallwyd a gyhoeddwyd yn 1621 yw hwn ac mae modd ei weld dros yr haf yn y cas arddangos bach yn y Prif Lyfrgell.

Mae’r copi hwn yn llawn nodiadau gan gynnwys rhai yn llaw Lewis Morris, un o Forrisiaid Môn, ynghyd ag englyn mewn lladin gan un o feirdd pwysicaf Cymru’r ddeunawfed ganrif, Goronwy Owen.

Mae’r llyfr yn rhan o’n harddangosfa flynyddol

Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o gyfraniad sylweddol Prifysgol Bangor i ysgolheictod ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac mae hefyd yn ymdrech i goffáu rhai o’r unigolion rhyfeddol a gyfrannodd tuag at y gwaith hwnnw. Trefnwyd yr arddangosfa i gyd-fynd ag ymweliad yr XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol â Phrifysgol Bangor ar 22–26 Gorffennaf 2019. Y Gyngres yw’r prif gynulliad rhyngwladol ar gyfer ysgolheigion sy’n ymchwilio i ieithoedd, llenyddiaethau a thraddodiadau diwylliannol y bobloedd hynny sydd ac a fu’n siarad ieithoedd Celtaidd. Fe’i cynhelir bob pedair blynedd a dyma’r tro cyntaf iddi ymweld â Bangor.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd

ARCHIF Y MIS: AWST 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i:

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Collage of 4 photos from the Talwrn area
Darganfyddiad newydd – lluniau o ardal Talwrn, Ynys Môn

Fis diwethaf derbyniodd yr Archifau a Chasgliadau Arbennig barsel arbennig yn y post oddi wrth roddwr di-enw. Ynddo roedd casgliad difyr o luniau teuluol du a gwyn yn perthyn i hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ar ôl astudio’r wybodaeth brin a ysgrifenwyd ar gefn y lluniau, dyma ddod i’r casgliad eu bod yn perthyn i Elizabeth [Elsie] Mary Owen o Rhyd, Talwrn, Ynys Môn a’u bod yn gofnod difyr o fywyd fferm. Hen dro nad oes modd rhoi enwau i rai o’r wynebau!

Dyma ddetholiad ohonynt.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: MEDI 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photo of Nansi Pugh

Llythyrau Nansi Mary Pugh ar ffurf dyddiadur

I gyd fynd â’r thema DARGANFOD mae’n bwysig cofio bod yr Archifau a Chasgliadau Arbennig yn parhau i dderbyn deunydd newydd a chyffrous sy’n cael ei ystyried o bwys o ran ymchwil ac sy’n gysylltiedig â chasgliadau presennol y Brifysgol.

Llynedd, fe dderbyniwyd Papurau Nansi Mary Pugh (1918–2014).

Roedd hi’n ferch i’r Parchedig E. Cynolwyn Pugh (1883–1962) a ymfudodd i’r Amerig yn 1928 i weithio fel gweinidog yn Chicago gan symud yn ddiweddarach i Efrog Newydd gyda’i wraig a’i dair merch. Roedd y teulu yn aelodau blaenllaw o’r gymuned Gymreig yn Efrog Newydd ac yn croesawu enwogion megis Richard Burton a Hugh Griffith i’w cartref.

Mae’r casgliad yn cynnwys llythyrau manwl ar ffurf dyddiadur a ysgrifenwyd gan Nansi rhwng 1946–1953 ymysg papurau teuluol eraill.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MISL HYDREF 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photograph of a portrait of Ellin Williams, youngest daughter of Sir John Williams, Bart. of Bodelwyddan

Ffotograff o ddarlun o Ellin Williams, merch ieuengaf Syr John Williams o Fodelwyddan (1809–1876) a briododd â William Owen Stanley o Benrhos (1802–1884). (Llsgrf Bangor 28761)

Adeliadwyd Tŵr Ellin yng Nghaergybi ganddi yn 1868 ac mae’r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio gan yr RSPB fel canolfan wybodaeth a thŵr i wylio’r bywyd gwyllt ar Ynys Lawd.

Ar y 9fed o Hydref bydd Dr Gareth Huws yn traddodi Darlith Flynyddol yr Archifau a Chasgliadau Arbennig a bydd yn canolbwyntio ar dair cenhedlaeth o deulu’r Stanley fu’n byw ym Mhenrhos, Caergybi rhwng 1760 a 1880.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i:

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Photo of some of the Mona Mine records

Cofnodion Mwynfeydd Cwmni Cyf. Mona a Parys – lluniau a dynnwyd yn ystod ac ar ôl y prosiect cadwriaethol

DATGUDDIO TREFTADAETH MWYNGLODDIO MÔN

Derbyniwd dros £8,000 oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Cadwraeth Llawysgrifau (NMCT) a Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r Archifau a Chasgliadau Arbennig i sicrhau mynediad i Gofnodion Mwynfeydd Mona a Parys.

Roedd y casgliad, sy’n cynnwys cyfrolau a ffeiliau o ohebiaeth sy’n dyddio o 1786 hyd at 1958, wedi bod ar gau i’r cyhoedd oherwydd ei gyflwr ffisegol gwael – gyda’r dogfennau yn hynod o fudr â thystiolaeth o lwydni ac o ddirywiad oherwydd pryfaid a llygriad giwana mewn sawl achos.

Mae’r prosiect glanhau, cadwraeth a phecynnu yn galluogi’r Archifydd i ddechrau ar y gwaith catalogio a sicrhau hir oes i’r casgliad.

Credir y bydd y prosiect hefyd yn adnewyddu diddordeb mewn cofnodion busnes, diwydiannol a mwynfeydd ym Mhrifysgol Bangor gan alluogi ymchwilwyr i adeiladu ar eu gwybodaeth o’r diwydiant pwysig yma – gan ddefnyddio’r casgliad ar y cyd â phapurau eraill sydd yng ngofal Prifysgol Bangor, yn arbennig, Papurau Mona Mine a chofnodion Cwmni smeltio copr Williams a Grenfell.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2019

Yn ystod 2019 byddwn yn dathlu “Blwyddyn Darganfod” ac yn achub ar y cyfle i :

  • edrych ar unigolion arloesol sydd wedi gweithio ym meysydd awyrenneg, archaeoleg, mathemateg, astudiaethau Celtaidd a.y.y.b.
  • ddod o hyd i wybodaeth am anturiaethwyr o Gymru sydd wedi teithio’r byd fel ymfudwyr neu genhadon
  • ddarganfod mwy am yr adnoddau newydd a chyffrous sydd ar gael i ymchwilwyr yn yr Archifau a Chasgliadau Arbennig

Bydd y “Flwyddyn Darganfod” yn ein galluogi i adeiladu darlun amryliw o’n casgliadau – i gyflwyno ein cryfderau a’r hyn sy’n ein gwneud yn unigryw i sefydliadau eraill yng Nghymru.

Phot of A handmade advent calendar created by the children of the Wynne Family of the Garthewin Estate

Calendr Adfent wedi’i wneud â llaw gan blant y Teulu Wynne o Ystâd Garthewin, Llanfair Talhaiarn, 1950au

Mae’r calendr adfent yn tarddu o’r Almaen o ganol yr bedwaredd ganrif ar bymtheg ond yn ddatblygiad o’r arfer Protestanaidd o wneud marciau mewn sialc ar ddrysau neu o oleuo cannwyllau i gyfri’r dyddiau a oedd yn arwain at y Nadolig. Cynhyrchwyd y calendrau adfent printiedig cyntaf o gwmpas 1905.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Williams, Archifydd

ARCHIF Y MIS: IONAWR 2018

 

Photo of images taken from an illuminated coming of age album, presented to Edward Owen Vaughan Lloyd of Berth (Merionethshire) and Rhagatt (Denbighshire) in 1878.
Photo of images taken from an illuminated coming of age album, presented to Edward Owen Vaughan Lloyd of Berth (Merionethshire) and Rhagatt (Denbighshire) in 1878.
Daw'r delweddau hyn o albwm addurniedig a gyflwynwyd i Edward Owen Vaughan Lloyd o Berth (Sir Feirionydd) a Rhagatt (Sir Ddinbych) yn 1878 ar achlysur ei ben-blwydd yn 21ain. [Llsgr Bangor 40222]

 

Mae’r albwm yn cynnwys 7 tudalen gyda chloriau melfed. Mae’n cynnwys anerchiad, rhestr o denantiaid a rhestr o ffrindiau sy’n dymuno’n dda iddo.

Fe olynodd Edward Owen Vaughan Lloyd (1857-1914) ei ewythr, John Lloyd, fel perchenog stad Rhagatt. Daeth yn Ustus Heddwch Sir Feirionydd ac yn Uchel Siryf yn siroedd Meirionydd a Dinbych. Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes a diwylliant ei wlad ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ac o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Rhoddwyd ar fenthyciad hir i’r Archifau a Chasgliadau Arbennig fis Hydref 2017 gan Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Dr Shaun Evans.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

 

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2018

 

Plan of Triumphal Arch or Admiralty Arch which is situated on Salt Island, Holyhead
Plan of Triumphal Arch or Admiralty Arch which is situated on Salt Island, Holyhead

 

PORTH CAERGYBI

Dau cynllun llia : y cyntaf (ar y chwith) yn gynllun gwreiddiol y pensaer o Gaer, Thomas Harrison, ar gyfer y Porth Buddugoliaeth neu Borth y Morlys sydd ar Ynys Halen, Caergybi. Wrth ochr cynllun Harrison (ar y dde) ceir un o'r cynlluniau ar gyfer y porth a gynigiwyd gan John Rennie, a oedd yn beiriannydd y project ac yn gyfrifol am ddatblygu a gwella'r porthladd.

Adeiladwyd y porth yn 1822-24 i gofio ymweliad y brenin George IV â Chaergybi ar 7 Awst 1821 pan oedd ar ei ffordd i Iwerddon.  Talwyd amdano drwy danysgrifiad cyhoeddus ac mae'n nodi pen gogleddol yr A5.  Gellir ystyried bod y porth yn cyfateb i'r Marble Arch yn Llundain, a adeiladwyd yn 1828 ac a symudwyd i'w safle presennol ym mhen deheuol yr A5 yn y 1850au.

Bu galwadau'n ddiweddar i symud y porth i le mwy amlwg yng Nghaergybi.

ARCHIF Y MIS

: MAWRTH 2018

 

Photo of the Prince Madog research vessel

Dyma long ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Eigion, y Prince Madog.

Y mae hwn yn lun o’r llong wreiddiol, a gomisiynwyd gan y Brifysgol ym mis Rhagfyr 1965, ac a gyrhaeddodd yma yn Chwefror 1968 – hanner can mlynedd yn ôl. Fe’i defnyddir gan Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor ac adrannau prifysgolion eraill yn y DU fel platfform dysgu, gan hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr eigion. Cafodd y llong ei henwi ar ôl y cymeriad chwedlonol, Madog ab Owain Gwynedd, a ddarganfu America yn ystod y ddeuddegfed ganrif, yn ôl y sôn. Digomisiynwyd y llong hon yn 2001 pan gafwyd llong newydd o’r un enw.

Byddwch yn clywed mwy o sôn am y Prince Madog yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i’r dathliadau hanner can mlynedd.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams, Cynorthwy-ydd Archifau

ARCHIF Y MIS: EBRILL 2018

 

Photo of the notebook that contains various random figures dated between 1850 and 1902,

“Weight of Everybody” : Llyfr nodiadau diddorol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg

 

Daw'r ddelwedd yma o lyfr nodiadau sy'n cynnwys nifer o wahanol ffigurau ar hap dyddiedig rhwng 1850 a 1902, sydd ar ôl eu harchwilio'n fanylach yn ddata am daldra a phwysau gwahanol unigolion. Ymddengys bod llawer o'r cofnodion yn cyfeirio at aelodau o deulu Pennant, Castell Penrhyn, ond mae enwau nifer o unigolion pwysig mewn cymdeithas wedi eu cofnodi hefyd. Er enghraifft, ar y tudalennau cyntaf mae pwysau a thaldra Duges Caerloyw, Tywysoges Mary a Thywysog Adolphus wedi eu cofnodi ar gyfer y flwyddyn 1850. Mae'r rheswm pam y crëwyd cofnod o'r fath, dan y pennawd syml "Pwysau pawb", yn parhau i fod yn ddirgelwch, ynghyd ag enw'r awdur. O ystyried yr amrywiaeth o enwau a nodwyd yn y llyfr, mae'n hawdd dod i'r casgliad y cofnodwyd mesuriadau y rhan fwyaf o'r ymwelwyr â'r castell.

Nid yw'r gadair bwyso bellach i'w chanfod yng Nghastell Penrhyn, ond gweler yma lun o'r glorian a ddefnyddiwyd ar stad Goodwood, Gorllewin Sussex.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Lynette Hunter, Archifydd

ARCHIVE OF THE MONTH: MAY 2018

The Archive of the Month feature raises awareness amongst students and staff about the variety of material that we hold. In particular, the old Bangor photographs appear to spark a lot of interest and debate on the University’s Facebook pages.

Every month, an item is selected to be showcased. The item is scanned and a short piece of text written about its history.

BEETLE-MANIA!

Photo of a plate from “Penser’s [sic.] Plates of beetles and weevils
Photo of a plate from “Penser’s [sic.] Plates of beetles and weevils

The Archive of the Month for May has attracted quite a lot of attention from University staff and those on the Archives and Special Collections mailing list.

As a result, we looked again at the large volume of coloured plates of various genera of beetles and weevils and discovered an accession number pencilled in the front cover.

Thankfully, the Archives houses the early accession books for the Library of the University College of North Wales and these revealed that the book was received by the University back in 1945 and that it was one of 2 volumes described as “Penser’s [sic.] Plates”.

The search was on for the missing second volume, which was soon discovered amongst the rare science books.

Loosely inserted into the first volume of plates was a note stating :
“Illustrations of German Coleoptera from ‘Fauna Insectorum Germanicae’ by G.W.F. Panzer being 1343 coloured plates of beetles taken mainly from the first edition of 1793-1809 and arranged alphabetically by genera and species in two volumes”.

A letter and invoice revealed further that the items were purchased by an F. Talfourd Jones Esq. of Llanfairfechan in 1930 from Bernard Halliday, Bookseller of Leicester for the princely sum of £5 5 shillings along with 2s 4d for carriage.

The two volumes of “Panzer’s Plates” were later donated to the University in 1945.

This "Archive of the Month" was created by Elen Wyn Simpson, Archivist

ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2018

 

Photo of 3 programmes of Shakesperean productions, staged in the 1940's and 1950's, belong to the Alun Owen Papers.

Daw'r rhaglenni yma o gynhyrchiadau o ddramâu Shakespeare a lwyfanwyd yn y 1940au a'r 1950au o gasgliad Papurau Alun Owen.

Cyn iddo gychwyn ar yrfa lwyddiannus fel dramodydd, bu Alun Owen yn teithio’r wlad fel actor. Sylwer fod ei enw yn ymddangos yn y rhaglenni, ond mae'n fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r sgript ar gyfer y ffilm Beatles, "A Hard Day's Night" yn y 1960au.

Mae gan yr Archifau a Chasgliadau arddangosfa ar thema Shakesperaidd i gyd-fynd ag ymweliad Theatr y Glôb â Pontio.

                                                                               

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: GORFFENAF 2018

 

Photo of the cover of the Seren y Dwyrain magazine

Yng nghasgliad papurau’r bardd, Cynan mae cyfres o’r papur bro, Seren y Dwyrain i’w chanfod (CYN/228). Roedd y papur Cymraeg yn gwasanaethu Cairo a’r Dwyrain Canol a’i fwriad oedd bod yn ddolen gyswllt rhwng sefydliadau Cymreig a’i gilydd, ac i gryfhau y cysylltiad rhwng Cymru a’r bechgyn a wasanaethai yn y lluoedd arfog hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

 

Y gŵr a oedd yn gyfrifol am sefydlu’r papur oedd T. Elwyn Griffith, a fu farw yn ddiweddar, ac yntau’n gant oed. Cafodd y syniad tra’n Swyddog Hedfan gyda’r Llu Awyr Brenhinol yng Nghairo a bu’r papur wedyn yn symbyliad i sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn ddiweddarach yn 1948 (sef Undeb Cymru a’r Byd heddiw).

 

Roedd T. Elwyn Griffith (1918-2018) yn wreiddiol o Landybïe, Sir Gaerfyrddin, ond treuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn byw yng Nghaeathro, Sir Gaernarfon.                                                                                

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: AWST 2018

 

Old photo of Yr Wyddfa (Snowdon) summit

Llun o gopa’r Wyddfa
 

Ymysg papurau’r Brigadydd Arthur Pelham Trevor (1909-1984) o Fiwmares mae albwm o luniau a fu unwaith ym meddiant un o’i hynafiaid, sef Enviqueta Bokenham Trevor. Mae’r ffotograff yma o’r albwm yn un hynod iawn gan iddo gael ei dynnu o bosib cyn i Reilffordd yr Wyddfa agor yn 1896. Cyn y dyddiad yma, byddai merlod yn cael eu defnyddio i hebrwng ymwelwyr i’r copa.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: MEDI 2018

 

Photo taken from the Dam busters film

 

DAM BUSTERS

Mae’n 75 o flynyddoedd er yr ymosodiad Ail Ryfel Byd ar gronfeydd dŵr yr Almaen gan Sgwadron 617 o’r Awyrlu Brenhinol. Galwyd yr ymosodiad yn “Operation Chastise” ond fe’i adwaenir hefyd fel y “Dam Busters”. 

Tynnwyd y llun yma ar set y ffilm, “The Dam Busters”, 1955. Yn sefyll ger y bwrdd, y trydydd o’r dde, mae’r actor Alun Owen (1925-1994) a ddaeth yn ddramodydd  toreithiog ac sy’n fwyaf enwog am ei sgript ar gyfer y ffilm Beatles, “A Hard Day’s Night”. Mae ei gasgliad o bapurau sy’n cynnwys llyfrau nodiadau, sgriptiau, rhaglenni theatr a lluniau ar gael yma ym Mhrifysgol Bangor. 

Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig hefyd yn gartref i Bapurau’r Rhingyll Ivor Glyn Jones (1921-1943) a oedd yn Ynnwr Awyr gyda Sgwadron 617 (Llawysgrifau Bangor 38009-38057)        

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: HYDREF 2018

 

Photo of an item from the African Institute in Colwyn Bay

SEFYDLIAD AFFRICANAIDD (BAE COLWYN)

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn rhoi cyfle i ni arddangos dogfen sydd yng ngofal yr Archifau a Chasgliadau Arbennig sy’n cysylltu Bae Colwyn ag Affrica.

Dyma gyfarchiad a gyflwynwyd i’r Parch. Williams Hughes, Bae Colwyn ar ei drydedd ymadawiad i’r Affrig yn 1917.

Ganed Williams Hughes yn 1856 yn Rhoslan, Eifionydd a daeth yn genhadwr yn Affrica cyn sefydlu coleg i hyfforddi dynion ifanc o’r cyfandir hwnnw ym Mae Colwyn. Yn ôl ei lyfr, “Dark Africa and the way out” a gyhoeddwyd yn 1892, bwriad y coleg oedd dychwelyd dynion ifanc i’w mamwlad fel cenhadon, ysgolfeistri neu grefftwyr megis saeri, gofaint, bricwyr, saeri troliau, saeri maen, teilwriaid etc.

Mae’r ddogfen yn sôn am wasanaethau’r Parch. William Hughes i dref Bae Colwyn gyda chyfeiriad at gychwyn y Sefydliad Affricanaidd. Ymysg yr enwau ar waelod y cyfarchiad mae gweinidogion, cynghorwyr, ynadon a meddygon. Hefyd, ceir 2 lun – un o’r Parch. William Hughes ar ei ben ei hun, a’r llall ohono gyda dau o’i ddisgyblion, Kinkasa (11 oed) a Nkanza (8 oed).      

 

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2018

 

Photo of The Diaries of Dr. Gwilym Pari Huws, 1916-1919

Dyddiaduron Dr Gwilym Pari Huws, 1916–1919

Tri dyddiadur poced bach a oedd yn eiddo i Dr Gwilym Pari Huws, a ysgrifennwyd tra oedd yn gwasanaethu gydag Adran B, Cwmni Cymreig, Y Corfflu Meddygol Brenhinol (RAMC) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent yn cofnodi’n fyr ei ddyletswyddau, symudiadau a digwyddiadau o bwys, gan roi cipolwg ar fywyd pob dydd Preifat yn gwasanaethu yn yr RAMC yn ystod y rhyfel. Mae llawer o’i gofnodion yn ymwneud â’r adeg y bu’n gweithio ar y llongau ysbyty, HMAT Valdivia a HMAT Warilda. Roedd ar fwrdd yr olaf pan gafodd ei tharo gan dorpedos o’r llong danfor Almaenig UC-49 ar 3 Awst 1918. Roedd hynny er gwaethaf bod y Groes Goch yn amlwg arni.

Ganed Gwilym Pari Huws ym Mlaenau Ffestiniog, Meirionnydd, yn 1894, yn fab y Parch William Pari Huws, gweinidog gyda’r Annibynwyr, yn wreiddiol o Ddolwyddelan, ac yn ŵyr i William Hughes, a adwaenid hefyd fel Gwilym Prysor.

Ymunodd Gwilym â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, i astudio am radd yn y celfyddydau, ond torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei gwrs. Ar ôl gwasanaethu yn y Dwyrain Canol, dychwelodd i addysg a bu’n astudio yn Lerpwl i ddod yn feddyg. Bu’n gweithio fel meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog a Hen Golwyn.

Roedd yn fardd, ond hefyd mwynhai gasglu cerddi ac englynion a gyfansoddwyd gan eraill. Roedd yn ddiacon yn Eglwys Salem, Bae Colwyn a bu farw ar 21 Mehefin 1979.

Cyhoeddwyd casgliad o’i farddoniaeth yn 1983 o’r enw Awen y Meddyg.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Lynette Hunter, Archifydd

ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2018

 

Photo of theatre Gwynedd Christmas programe
Photo of a Theatre Gwynedd Christmas Programe
Rhaglen Nadolig Theatr Gwynedd, 1987–1988

Y sioe Nadolig y flwyddyn honno oedd cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Hwyl a Fflag ‘Codi Stêm’ a ysgrifenwyd gan Gwen Ellis a Gruffudd Jones. Roedd Cwmni Theatr Hwyl a Fflag yn rhedeg rhwng 1981 a 1995 gyda’i bencadlys yn Nghapel y Tabernacl ym Mangor o 1984 hyd 1992.

Yn y rhaglen hefyd gweler fod Cwmni Whare Teg hefyd ar daith efo’r pantomeim ‘Jiw Jiw Jeifin Jenkins’ a’r Bangor Panto Co. yn perfformio ‘Jack and the Beanstalk’.

Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Ann Hughes, Uwch Gynorthwyydd Archifau

ARCHIF Y MIS: IONAWR 2017

yma ffotograff prin o ddyn yn sefyll y tu allan i dŷ Penrallt ym Mangor Uchaf o gasgliad Papurau Castell Penrhyn.

Photo of the Penrallt building in Upper Bangor

Y ffotograffydd pedd C. Richard o  Stryd Fawr, Bangor ac ar waelod y ffotograff ceir y geiriau, “Penrallt, Eiddo'r Arglwydd Penrhyn gyda chyfarchion boneddigaidd y Tenantiaid”.

Ym 1902 gwerthodd George Sholto Gordon, yr ail Arglwydd Penrhyn, dŷ Penrallt a’r tiroedd o’i amgylch i Gyngor Tref Bangor. Ym 1904, cyflwynwyd y tir yma, ynghyd â rhan o ystad yr Esgob, gan Gyngor y Dref i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru a daeth y safle yn gartref parhaol i’r coleg.

Yn ôl yr hanesydd, J. Gwynn Williams, ym 1907, pan ymwelodd Edward VII â dinas Bangor er mwyn gosod y garreg sylfaen ar gyfer adeilad newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, “Chwiliodd lawer o bobl am lecyn manteisiol ar y clegyrau uwchben y ddinas a’r llecyn gwastad islaw Penrallt. Lle tyfai’r coed ynn, ffawydd, masarn a derw roedd yna lannerch ar gyfer mil a dau gant o blant oedd yn barod i ffurfio Jac yr Undeb Byw.”

Credir fod y tŷ, Penrallt, wedi’i leoli lle y saif tŵr prif adeilad y Brifysgol heddiw. Enw’r ffordd sy’n arwain o Ffordd y Coleg heibio adeilad Brigantia yw Ffordd Penrallt.

 Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Callum Parry

ARCHIF Y MIS: CHWEFROR 2017

 

Photo of the Siliwen Baths in Bangor

Darlun, gan J.J. Dodd, yn portreadu pyllau nofio awyr agored Siliwen, a leolwyd gynt ym Mangor Uchaf.

Sefydlwyd y pyllau'n wreiddiol yn 1856 gan berchnogion preifat, a bu i'r Cyngor lleol eu prynu a'u hadnewyddu'n ddiweddarach ar ôl iddynt weld eu potensial fel atyniad i dwristiaid. Adeiladwyd cytiau newid a gwnaed addasiadau i ymyl y traeth er mwyn hwyluso nofio. Er eu bod yn boblogaidd â'r trigolion lleol, nid oeddent heb eu problemau. Oherwydd natur eu cynllun, cyfyngwyd ar eu defnydd i'r oriau o gwmpas penllanw, ac roedd amgylchedd naturiol Y Fenai yn golygu eu bod yn tueddu i hel mwd a llaid.  

Ar ôl i'r cytiau gael eu difrodi yn ystod storm yn 1899, penderfynodd y Cyngor gywiro'r problemau hyn ac, yn 1902, ail-agorodd y pyllau, gan gynnwys gwell cyfleusterau a chaniatáu’r arfer o nofio cymysg. 

Yn 1958, bu i ddirywiad yn niddordeb y cyhoedd a chynnydd mewn lefelau llygredd dŵr yn Y Fenai arwain at gau'r pyllau. Yn eu lle, comisiynodd y Cyngor gyfleuster dan do, wedi'i leoli ar Ffordd Garth, a agorodd i'r cyhoedd yn Hydref 1966, a lle saif hyd heddiw.

 Crewyd yr “Archif y Mis” yma gan Callum Parry.

ARCHIF Y MIS: MAWRTH 2017

 

Photo of the Menu of a St. David's Day Lunch at the British Hotel, Bangor, 1921

Bwydlen Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn y British Hotel, Bangor yn 1921

Am flynyddoedd lawer roedd yn arferol ar Fawrth y 1af i hoelion wyth y Brifysgol ddathlu dydd gŵyl nawddsant Cymru gyda phryd o fwyd ysblennydd.

Dyma fwydlen hardd o wledd a gynhaliwyd ym 1921 yng Ngwesty Brythonaidd Bangor (British Hotel). Ymysg y gwahoddedigion roedd Syr John Morris-Jones a’i wraig, Y Parch Thomas Shankland, Lewis Valentine a’r Uwchgapten Wheldon.

Mae’r eirfa a ddefnyddir yn y fwydlen yn chwithig a chyntefig i’n clustiau ni heddiw :

Eog brwd (warm salmon)

Ais eidion (rib of beef)

Ceulfwyd  (jelly)

Afrlladennau (wafer biscuits)

ARCHIF Y MIS: EBRILL 2017

 

Photo of School exercise book belonging to Sir John Morris-Jones, when he was a pupil at Friars School, Bangor.

Llyfr ymarferion ysgol a oedd yn eiddo i Syr John Morris-Jones tra'n ddisgybl yn Ysgol Friars.

Bu Morris-Jones yn ddisgybl yn Ysgol Friars o 1876-1879 ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn ysgolhaig, bardd ac Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. 

Yn y llyfr ceir ei gyfieithiad pan oedd yn fyfyriwr o Lyfr II, Pennod 1 Anabasis gan Xenophon.  Gwelir wynebddarlun wedi'i wneud â llaw o rai ffigurau o'r gwaith. 

Sefydlwyd Ysgol Friars yn 1568 a'i diben fel y pennwyd yn ewyllys y cyfreithiwr Geoffrey Glynne oedd 'rhoi gwell addysg neu fagwraeth i blant dynion tlawd'. Roedd tŷ'r brodyr ym Mangor wedi dod i feddiant Glynne yn 1552-3 ar ôl iddo gael ei feddiannu gan y Goron yn 1538-9 ac fe wnaeth ei roi, ynghyd â thir ac arian ychwanegol, yn benodol i'r diben o fod yn gartref i ysgol ramadeg.

Nodir safle gwreiddiol yr ysgol ar fap John Speed o Fangor yn 1610. Ceir copi ohono yn archifau Prifysgol Bangor.  Adleolwyd yr ysgol yn 1798 gan fod yr adeiladau gwreiddiol wedi mynd yn wael iawn eu cyflwr.  Mae plac, a luniwyd i goffau'r symudiad, yn disgrifio eu bod yn wreiddiol ‘stood near the river, but in course of time, being nearly in ruins, […] were removed and happily restored’.

Bu epidemig o'r teiffoid ym Mangor yn 1882 a pharodd hynny i'r llywodraethwyr symud yr ysgol i Benmaenmawr dros dro.  Symudodd yn ôl i Fangor yn fuan ond bu'r digwyddiad yn gyfrwng i archwilio ei chyfleusterau yn fwy manwl, a daeth y llywodraethwyr i'r casgliad eu bod bellach yn anaddas i ofynion ysgol breswyl fodern.

Symudwyd yr ysgol i adeilad newydd ar Ffordd Ffriddoedd yn 1900, lle'r arhosodd yn ddigyfnewid tan 1971 pan fabwysiadodd yr ysgol bolisi cyd-addysgol ac ehangu i adeiladau newydd ar safle ychwanegol ar Ffordd Eithinog.  Adnewyddwyd safle Eithinog yn 1999 a symudwyd yr ysgol yn llwyr i'r safle hwnnw, lle mae'n parhau o hyd. 

Bydd y llyfr yn cael ei arddangos yn Storiel hyd y 29ain o Ebrill 2017 mewn arddangosfa ar "Atgofion Ysgol Friars".

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Callum Parry.

ARCHIVE OF THE MONTH: MAY 2017

 

Photograph of a laden carriage taken outside a hire firm in Upper Bangor around the end of the 19th century.

Llun a dynnwyd y tu allan i gwmni llogi bysus a breciau ym Mangor Uchaf tua diwedd y 19eg ganrif. Roedd y cwmni wedi'i leoli ar ben Ffordd y Coleg, ger y gyffordd â Ffordd Caergybi. Gwelir tafarn y Belle Vue ar y dde.

Mae’r bobl ar y cerbyd wedi eu gwisgo’n drwsiadus i fynd ar drip – ar eu ffordd yn ôl o fferi’r Garth efallai?

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams

ARCHIF Y MIS: MEHEFIN 2017
A photograph of a class in Cefnfaes School, Bethesda, in April 1922

Llun o ddosbarth yn Ysgol y Cefnfaes ym Methesda ym mis Ebrill 1922 gyda’r athrawes, Jennie Thomas. Hi a greodd Wil Cwac Cwac. Fe’i ganwyd ym Mhen Bedw i rieni o Gymry Cymraeg; a bu’n astudio ym Mhrifysgol Lerpwl cyn dod i fyw i Fethesda. Hi, ynghyd â J. O. Williams, oedd awduron Llyfr Mawr y Plant. Crëwyd Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch ar gyfer y gyfrol gyntaf, a gyhoeddwyd ym 1931. Bu’r ddau gymeriad yn diddanu cenedlaethau o blant Cymru, ac fe’u trowyd yn gymeriadau cartŵn yn y 1980au.    

 

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams

ARCHIF Y MIS: GORFFENNAF 2017
Photo of Hedd Wyn

Ganed 'Hedd Wyn' neu Ellis Humphrey Evans yn Yr Ysgwrn, sef fferm y teulu yn Nhrawsfynydd, ar 13 Ionawr 1887, yn fab i Evan Evans a Mary Morris. Cafodd ei addysg yn yr ysgol gynradd leol ac yn yr ysgol Sul, ond ni roddodd y gorau i'w addysgu ei hun. Wrth adael yr ysgol yn 14 aeth Ellis i helpu ei dad ar y fferm gan weithio'n bennaf fel bugail, ond daliodd ati i'w addysgu ei hun. Daeth ei ddawn i farddoni i'r amlwg yn gynnar iawn a bu'n cystadlu mewn cystadlaethau ac eisteddfodau lleol, gan ennill y gyntaf o'i 6 chadair yn y Bala yn 1907, ac yntau'n 20 oed, am ei awdl 'Y Dyffryn.'

Ym mis Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn gyfansoddi ei awdl 'Yr Arwr' gyda'r bwriad o'i chyflwyno i gystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol a oedd i'w chynnal ym Mhenbedw (Birkenhead) yn 1917.   Cyn y gallodd orffen y darn cafodd ei gonsgriptio i 15ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwyliodd am Ffrainc ym Mehefin 1917.  Ddechrau Gorffennaf roedd yng nghyffiniau Ypres ac yno ym mwd y ffosydd y gorffennodd yr awdl.  Gyda'r ffugenw 'Fleur de Lys', postiodd ei waith yn ôl i Gymru ar 15 Gorffennaf 1917.

Ar 31 Gorffennaf aeth Hedd Wyn 'dros y top' gyda'i gatrawd mewn ymosodiad mawr i gipio 'Cefn Pilckem', ynyrhyn a fyddai'n cael ei galw wedyn yn Frwydr Passchendaele. Roedd dynion ynsyrthio ym mhob man ar faes y frwydr, yn eu plith Hedd Wyn a glwyfwyd yn angheuol.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Lynette Hunter, Archifydd

ARCHIF Y MIS: AWST 2017
famous verses of remembrance to Hedd Wyn in the hand of the poet responsible for their composition, R. Williams Parry.
Photo of Albert Evans-Jones (Cynan) as Archdruid of the National Eisteddfod

Cafwyd hyd i’r tamaid papur yma mewn llyfr nodiadau yn y casgliad o Bapurau Cynan a dderbyniwyd gan yr Archifdy llynedd. Bellach mae’r casgliad wedi cael ei gatalogio gan fyfyrwraig o’r ail flwyddyn a fu’n gweithio ar gynllun interniaeth dros yr Haf yn yr Archifdy.

Bu Cynan yn gwasanaethu fel dyn ambiwlans ac fel gweinidog yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn ffigwr blaenllaw yn broses o foderneiddio’r Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd y goron yn y Genedlaethol dair gwaith a’r gadair unwaith.

Bydd yr Athro Gerwyn Williams yn traddodi darlith yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng nghwmni'r soprano Marian Roberts, ar y 6ed o Awst am 1.15 y.h. dan y teitl “Môn Mam Cynan?”

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Elen Wyn Simpson, Archifydd

ARCHIF Y MIS: MEDI 2017
Plan of ‘Proposed National School at Tregarth Bangor’  from 1896

Cynllun 'Ysgol Genedlaethol arfaethedig yn Nhregarth, Bangor', gan gynnwys blaenluniau a thrychluniau. Cymeradwywyd y cynllun ar y 18fed o Fehefin, 1896 ac arwyddwyd gan J. Williams ac Watkin Jones. 

Daw’r cynllun yma o gasgliad Castell Penrhyn sydd bellach ar gael yn ei gyfanrwydd i’r cyhoedd yn Archifdy’r Brifysgol, ar ôl i ni gwblhau prosiect catalogio llynedd. Mae modd pori drwy’r catalog ar lein yma.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Ann Hughes, Swyddog Archifau

ARCHIF Y MIS: HYDREF 2017

Daw'r delweddau yma o ddyddiadur a dyddlyfr William Owen Stanley, cyn AS dros Ynys Môn (1837-1847), dinas Caer (1850-1857) a Biwmares (1857-1874), sy'n cynnwys ei nodiadau ymchwil ar löynnod byw a gwyfynod, ynghyd â brasluniau lliw a phaentiadau ysblennydd.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd astudio entomoleg yn beth poblogaidd, ac roedd ysgolheigion amatur ymroddgar, a oedd yn aml yn casglu enghreifftiau helaeth o sbesimenau, yn cyfrannu llawer at y maes.

Roedd Stanley yn arbennig o enwog fel hynafiaethydd, gan iddo gyfrannu nifer o erthyglau at  Archaeologia Cambrensis. Mae'r dyddlyfr hefyd yn cynnwys rhai o'i frasluniau a'i arsylwadau ar botiau claddu a chreiriau eraill a ddarganfuwyd ar Ynys Môn. Rhoddwyd ei gasgliad o hen bethau i'r Amgueddfa Brydeinig, ac mae lluniau ar gael ohonynt ar eu gwefan.

Priododd Stanley ag Ellin Williams, merch Syr John Williams o Fodelwyddan, Sir y Fflint ym 1832. Ef oedd etifedd ystâd Penrhos yn Ynys Môn ble bu'n byw trwy gydol ei oes.

Mae'r ddogfen hon yn rhan o gasgliad ystad Penrhos sy'n cynnwys dros 5500 o eitemau o ddechrau'r 15fed ganrif hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd Penrhos, ger Caergybi ar Ynys Môn, yn gartref i'r teulu Owen yn wreiddiol ac yn ddiweddarach bu'n gartref i'r teulu Stanley.

Mae'r brifysgol wedi bod yn gyfrifol am ofalu am y casgliad hwn ers 1928 gydag  adneuon ychwanegol yn cael eu gwneud dros y degawdau. Ymunodd 2 warchodwr dan hyfforddiant â ni yn ystod yr haf a buont wrthi'n glanhau, yn ail-becynnu ac yn ail-focsio casgliad Penrhos. Yn ystod y broses, buont hefyd yn cofnodi cyflwr y dogfennau a nodi unrhyw eitemau sydd angen eu gwarchod.

 

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Callum Parry, Gwirfoddolwr

images taken from the diary and journal of William Owen Stanley, former MP for Anglesey

 

images taken from the diary and journal of William Owen Stanley, former MP for Anglesey
images taken from the diary and journal of William Owen Stanley, former MP for Anglesey

 

ARCHIF Y MIS: TACHWEDD 2017
Photo of Marie Curie and a letter signed by her

LLYTHYR MARIE CURIE

Cafwyd hyd i'r llythyr hwn, a lofnodwyd gan Marie Curie, ymhlith papurau'r Athro Edwin Augustus Owen, cyn-fyfyriwr, ac aelod staff amlwg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru.

Ar ôl astudio ym Mangor, aeth Edwin Owen ymlaen i Labordy Cavendish i weithio ar belydr-x ac ymbelydredd dan J.J. Thomson. Caiff ei ddarganfyddiad, sef bod ‘cyfernod amsugno màs deunydd ar gyfer pelydr-x yn amrywio'n groes fel pumed pŵer pwysau atomig y rheiddiadur’ ei adnabod fel cyfraith Owen. Ar ôl 1918, roedd yn gallu ymroi ei holl amser i ymchwilio i belydrau-x a ffiseg atomau.  Penodwyd ef yn athro ym Mangor yn 1926. Yn fuan ar ôl ei benodiad, derbyniodd Wobr Rontgen ac erbyn ei farwolaeth yn 1973, roedd wedi cyhoeddi ymhell dros ddau gant o bapurau.

Ymddengys i'r llythyr hwn gan Marie Curie gael ei anfon at Edwin Owen yn 1925, cyn ei benodi'n aelod staff ym Mangor. O'i gyfieithu'n llac, mae'n ymddiheuro am fethu â derbyn gwahoddiad i'r 'Congress of Radiology' oherwydd ei bod wedi ymrwymo i ymweld â Gwlad Pwyl a Gwlad Tsiec ym mis Mehefin. Mae'n cynnig edrych ar y posibilrwydd gyda Dr Regaud o anfon cyfraniad am un o'r materion y bydd y gynhadledd yn ymdrin â nhw, ond teimla na all ysgrifennu unrhyw beth ei hun, o ystyried nad oedd llawer o amser cyn ei thaith.

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Ann Hughes, Swyddog Archifau

 

ARCHIF Y MIS: RHAGFYR 2017
Photo of a Christmas dinner menu, held on Tuesday evening, 12 December 1922 at the British Hotel, Bangor

Bwydlen cinio Nadolig y Brifysgol, a gynhaliwyd ar nos Fawrth, 12 Rhagfyr 1922, yn y British Hotel, Bangor. Ar ôl bwyta, cafwyd llwncdestunau: i’r brenin, i’r coleg, i’r gwesteion eu hunain, i’r merched, ac i’r aelodau newydd. Ymysg y rhai oedd yn galw’r llwncdestunau oedd y bardd R. Williams Parry, ac y mae ei lofnod ef ymhlith y llofnodion ar gefn y fwydlen. Sylwer ar y gorchmynion ar ddechrau’r pryd bwyd, ac ar ei ddiwedd – ’Steddwch – y Diawliaid, a Codwch – y Diawliaid!

 

Crewyd yr "Archif y Mis" yma gan Heledd Haf Williams, Cynorthwy-ydd Archifau

ARCHIVE OF THE MONTH: JULY 2016
Photo image of an original 1916 map of Mametz Wood with notes on the terrain and enemy locations.

This month the world remembers the Battle of the Somme which took place between 1 July and 18 November 1916.

It was one of the bloodiest battles in history in which over one million men were wounded or killed.

Here is an image of an original 1916 map of Mametz Wood with notes on the terrain and enemy locations. 

The Archives and Special Collections of Bangor University is responsible for the care and storage of the early College Records as well as archival and rare printed material. All of our manuscript collections are bound by one common factor, their relevance to the history, people and topography of North Wales. However, their subject areas are wide ranging and are of national as well as local historical interest.

 

ARCHIVE OF THE MONTH: OCTOBER 2016
Photo of Adela Douglas Pennant (1858-1955), who is standing in the middle of the picture with her arms around the shoulders of her companions

This photograph was discovered in a scrap book in the Penrhyn Castle collection of papers. The photographer has captured an informal moment in the life of Adela Douglas Pennant (1858-1955), who is standing in the middle of the picture with her arms around the shoulders of her companions and looking dotingly at the puppy held by Mabel de Grey.

If you’d like to read more about Adela, and see a Welsh poem dedicated to her, click here /archives/sugar_slate.php.en#updates

This “Archive of the Month” was created by Sarah Vaughan, our Sugar and Slate Project Archivist

ARCHIVE OF THE MONTH: NOVEMBER 2016
A photograph showing Belmont, home of Sir Henry Lewis, weeks prior to its demolition in 1967.

A photograph showing Belmont, home of Sir Henry Lewis, weeks prior to its demolition in 1967.

A prominent figure in Bangor’s history, Lewis, a flour merchant by profession, played a variety of roles in local politics, serving on the city council for thirty-three years, and acting as mayor from 1900-02.

Being a principled, socially conscious man, he was an active participant in the issues of his day. Nora, his daughter, was involved in the Suffragette movement. A fact which, no doubt, influenced Lewis in his decision to entertain one Mrs Pankhurst at Belmont, and host numerous garden parties in support of her cause – accounts of which can be read in his journal, held by the Bangor University Archives in their Belmont collection.

Having suffered a disrupted and often unhappy education in his boyhood, Lewis was acutely aware of the failings of the local school system, and its reformation proved to be one of the main preoccupations of his life. He served as chairman of the Bangor district elementary schools, chairman of the governing body of Friar’s school, and was one of the founders of the Bangor school for girls.

Chosen as secretary of the Committee formed to present the city of Bangor’s case as location for the University College of North Wales, Lewis played an integral role in the founding of the institution.

Photo of Sir Henry Lewis who lived in Belmont

Sir Henry Lewis

When the original site of the university – the old Penrhyn Arms building – proved unsuitable to house both the arts and science departments together, the future of the university was called into question.  Lewis, who recognised its social and cultural value, fought to persuade the city councillors not only to provide six acres of land, but to purchase an additional plot of land – the Penrallt site - from Lord Penrhyn, thus enabling the university to expand and ensuring that its future remained with the city.

This “Archive of the Month” was created by Callum Parry

ARCHIVE OF THE MONTH: DECEMBER 2016
Photo of Christmas Card from Harold Williams to Major W.P. Wheldon of the 14th Battalion, Royal Welsh Fusiliers (1916)

Christmas Card from Harold Williams to Major W.P. Wheldon of the 14th Battalion, Royal Welsh Fusiliers (1916)

Major W.P. Wheldon was born in 1879, Bronycraig, Ffestiniog, Meirioneth. He took charge of the Royal Welsh Fusiliers, 14th Battalion, 113th Brigade, 38th Welsh Division, where the 14th Battalion fought on the Somme between ,1916-1918.

The 14th (Service) Battalion, formed at Llandudno on 2nd November, 1914 by the Welsh National Executive Committee. In 28th April, 1915, the formation became the 113th Brigade, 38th (Welsh Division). They moved to Winchester for final training in August 1915, proceeded to France in December 1915. In July 1916, there was action at Mametz Wood on the Somme suffering severe casualties, and action in the Third Battles of Ypres in 1917, and action on The Somme in the Battles of the Hindenburg Line and Final Advance in Picardy in 1918, where Major Wheldon was received a gunshot wound to the left knee on the 7th November of that year. Demobilisation of the 14th RWF Battalion commenced in 1918, which was completed by June 1919.

He was Secretary and Registrar of the University College of North Wales from 1919 until 1933 when he was appointed Permanent Secretary of the Welsh Department of the Board of Education.

Major W.P. Wheldon received an award for Distinguished Service Order (DSO) in 1917. In 1948 he presented to the University of Wales Bangor, a collection consisting of war diaries 1916-1918 of the 14th (Service) Battalion, Royal Welsh Fusilliers, with a majority hand written by Major Wynn Wheldon, giving a day-to-day of the activities of the battlefield on the Western Front including reports on operations and actions, particulars of casualties, etc. He died on November 10th 1961, Prestatyn, North Wales.

The collection is available at Bangor University Archives, reference no: BMSS/7059-7060

This “Archive of the Month” was created by our volunteer, Louise Williams.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?