Jamie MacDonald
Enw
Jamie Macdonald
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yn Poole, Dorset. Cefais fy magu yn Swanage a Beaminster, y ddau yn Dorset. Mae'r ardal yn enwog fel man geni Thomas Hardy, lleoliad River Cottage gan Hugh Fearnley-Whittingstall a’r gyfres ddrama Broadchurch gan ITV, yn ogystal â Dorset Knobs, Clipper Teas, Henry Hoovers a Dorset Cereals, ac am fod yn sir ffermio go iawn.
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Treuliais fy mhlentyndod yn cael fy llusgo o gwmpas y bryniau lleol gan fy mam. Roeddwn wedyn yn byw drws nesaf i'r ganolfan ieuenctid leol a chefais ymgymryd â nifer o weithgareddau awyr agored a theithiau antur lleol a thramor. Datblygodd hyn fy nghariad tuag at yr awyr agored dan arweiniad llawer o arweinwyr ysbrydoledig gwych, a dwi wedi ceisio efelychu eu nodweddion gorau.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli chi i ddod yn academydd?
Ar ôl fy ngradd israddedig, roeddwn ar alldaith ddringo o amgylch Ewrop, ac wedi treulio blwyddyn gyfan yn byw oddi cartref mewn carafán (dim camperfan cŵl i mi). Sylweddolais fod arnaf angen cael fy herio’n academaidd, a gyrrais adref (yr holl ffordd o Ddwyrain Ewrop mewn prin ddeuddydd) i ddod o hyd i raglen PhD.
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi’n ei wneud?
Byddwn wrth fy modd yn gweithio fel peiriannydd yn y diwydiant moduro, neu fel peilot awyrennau. Dwi wrth fy modd â cheir, ac yn ystod fy ngradd israddedig roeddwn yn rhan o Sgwadron Awyr yr Awyrlu. Cefais hedfan yn unigol, a dwi’n difaru peidio ag ennill fy “adenydd” hyd heddiw.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Mae gen i ddiddordeb yn y rhan fwyaf o weithgareddau awyr agored, ond yn enwedig dringo, mynydda, teithiau sgïo, a beicio mynydd. Mae gen i ddiddordeb mewn beicio ffordd, canŵio a cheufadu ar y môr, ac ychydig o redeg.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Dwi’n edmygu llawer o athletwyr. Ar frig y rhestr mae Sebastien Loeb, gyrrwr ceir mwyaf llwyddiannus Rali'r Byd erioed. Mae'n ddweud mawr ond dydw i ddim yn gwybod am unrhyw athletwr arall, mewn unrhyw gamp arall, sydd â gyrfa mor llwyddiannus. Dwi hefyd yn hoff iawn o seren rygbi Cymru, George North; gwnaethom gyflwyno gradd er anrhydedd i George yn 2014, ac ef oedd yr athletwr mwyaf diymhongar ac ymroddedig i mi ei gyfarfod. Roedd Ueli Steck yn ddringwr mynyddoedd dewr a thalentog, yn dringo mynyddoedd yr Himalaia a’r Alpau, ac roedd yn gwthio ffiniau yr hyn a oedd yn bosibl yn y maes mynydda. Dwi hefyd yn edmygu fy ffrind a’r athletwr cross fit, Harri James (@harijamespt) oherwydd ei dewrder wrth siarad am gywilyddio corfforol yn agored (ac oherwydd ei bod yn gallu fy nghuro mewn gêm o reslo breichiau, hyd yn oed os ydw i’n defnyddio dwy law!)
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?
Ffilm: mae’n agos, ond mae The Matrix yn un o fy ffefrynnau. Mae’r ffilm James Bond newydd hefyd yn fy nghyffroi.
Rhaglen Deledu: The Wire. Drama drosedd Americanaidd ar ei gorau.
Cerddoriaeth: Dwi wrth fy modd â cherddoriaeth Radio Six ar hyn o bryd, yn enwedig sioe Cerys Matthews. Mae Smooth Chill ar DAB yn ffefryn arall.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Heb os, yr her fwyaf i fyfyrwyr yw pontio’n llwyddiannus o ddiwylliant hynod gefnogol yr Ysgol/Coleg sy’n canolbwyntio ar asesu, i natur hunan-dywysedig y Brifysgol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Dwi wir yn credu, waeth beth fo’ch gallu academaidd, fod yr hyn rydych yn ei gyflawni yn eich gyrfa yn uniongyrchol gysylltiedig â faint o ymdrech rydych yn ei wneud.
Fideos
beicio mynydd
Dr Ross Roberts
Enw
Ross Roberts
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghaerwrangon. Deuthum i Fangor ym 1998 yn hogyn ifanc bochgoch 18 oed i astudio Gwyddorau Chwaraeon a mynd i ddringo heb edrych yn ôl byth…
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?
Gwell peidio â gwybod hynny! Mae fy nhad yn gyfrifol am lawer o bethau, er nad oes gennyf ei ddawn adeiladu...dim eto!
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?
Lew Hardy, Nicky Callow a Tim Woodman. Ydw i’n swnio fel crafwr? Ond o ddifrif...rwy'n cofio darlith yn y drydedd flwyddyn gan Lew a wnaeth imi feddwl y byddai MSc yn syniad da. Dechreuais ar fy MSc ac yna trwy drafod â Nicky penderfynais fy mod i eisiau gwneud PhD gyda hi, ac yna ar ddiwedd y PhD dechreuais weithio gyda'r tri. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i’w cael fel mentoriaid, cydweithwyr a ffrindiau (mae gan Lew hefyd straeon dringo doniol am ein hanturiaethau gyda’n gilydd ond mae’n debyg mai’r peth gorau yw gadael y rheini am y tro.....)
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi'n ei wneud?
Treulio amser gyda’r teulu, rhedeg yn y mynyddoedd gyda ffrindiau, gwneud bara, hyfforddi rygbi iau (ar gyfer tîm rygbi gorau'r byd - Bethesda o dan 13!), chwarae'r piano, bwyta a mynd â’r ci am dro... gorau oll ar yr un pryd.
A oes gennych chi unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?
Rwyf ar ben fy nigon yn rhedeg mynyddoedd ac rwy'n mwynhau gwneud hynny mor aml â phosib. Dwi hefyd yn hyfforddwr cynorthwyol i dîm rygbi dan 13 Bethesda sy'n un o'r pethau gorau y gallaf ei wneud ac sy'n llawer o hwyl. Rwy'n treulio oriau lu’n gyrru fy mhlant i lefydd!
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?
Hawdd, tri o bobl. Joss Naylor, Nicky Spinks a Jasmin Paris. Tri o fawrion y byd rhedeg mynyddoedd sydd wedi goresgyn anawsterau ofnadwy yn eu bywydau ac sy’n dal i gyflawni ar y lefel uchaf.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?
Er nad ydw i'n wyliwr mawr ar y teledu (mae'n well gen i wneud rhywbeth), mae'n debyg mai The West Wing yw fy hoff sioe deledu, un o’r rhaglenni teledu gorau erioed. Gwyliais bob un o'r 7 tymor droeon a thro ac nid yw byth yn pylu. Mae The Office yn ail agos serch hynny. Rwyf hefyd yn hoff iawn o Taskmaster ac Eight out of Ten Cats does Countdown (geiriau, rhifau a chomedi – pleser pur?!). Dydw i ddim yn un o selogion mawr byd y ffilmiau ond mae The Shawshank Redemption a Dead Poets Society yn wych. Clasur arall yw Withnail and I. O ran cerddoriaeth rwy'n hoffi'r Band, Neil Young, Joni Mitchell, John Martyn, Ben Folds a llawer o bobl eraill...collais gysylltiad â'r rhan fwyaf o bethau tua 2000 er imi daro ar Boygenius y diwrnod o'r blaen ac rwy’n hoff iawn ohonyn nhw. Rwy'n dibynnu ar fy mhlant sydd yn eu harddegau i ddweud wrthyf am bethau mwy modern.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch chi'ch hun?
Dim byd i’w adrodd wrthych chi na'r myfyrwyr!
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau sy’n wynebu’r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr mewn addysg uwch?
Mae mwy a mwy o bobl yn graddio ac mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn cael dangos sut y gallant gyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas a pha sgiliau sydd ganddynt a gwneud hynny heb orfod bod gyda’r uchaf ei stŵr yn yr ystafell.
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Ga’ i dri?
1) Nid ydych yn orffenedig eto…ewch ati i ddysgu digonedd o sgiliau i fod gyda’r gorau. Byddwch eisoes wedi dysgu llawer o'r rheini, hyd yn oed os nad ydych yn sylweddoli hynny.
2) Byddwch yn garedig â chi'ch hun ac eraill, mae bod yn fod dynol da yn bwysicach nag ennill ras.
3) Rydyn ni'n byw mewn byd sy'n gyforiog o ddata ac felly os byddwch chi'n dysgu rhai sgiliau rhaglennu sylfaenol byddwch chi'n hynod gyflogadwy (gofynnwch i ôl-raddedigion sy’n gallu defnyddio R!).
Andy Cooke
Enw
Andy Cooke
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Chesterfield, Swydd Derby.
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Mae pawb yn fy nheulu wrth eu bodd â chwaraeon. Mae gen i frodyr a chwiorydd a chefndryd a chyfnitherod o oed tebyg, felly roedd gen i blant eraill o gwmpas bob amser i gicio pêl neu rasio â nhw a phethau felly. Roeddwn yn sicr o oedran ifanc iawn y byddai fy ngyrfa ddelfrydol yn ymwneud â chwaraeon.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
I ddweud y gwir - fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Bangor - pan ddechreuais ar fy ngradd, roeddwn wedi bwriadu mynd yn athro Addysg Gorfforol neu ymuno â’r gwasanaeth tân, ond cefais flas ar ymchwil yn ystod fy mhroject Blwyddyn 3, ac roeddwn wrth fy modd. Gwnes gais am ysgoloriaeth PhD ar ôl gorffen fy nghwrs gyda Phrifysgol Bangor, ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael cynnig swydd ym Mhrifysgol Birmingham. Treuliais 5 mlynedd braf yn astudio ac yn gweithio fel ymchwilydd yn Birmingham cyn dychwelyd i Fangor i ddechrau ar fy ngyrfa fel darlithydd. Y bobl allweddol a oedd wedi fy ysbrydoli fwyaf ar hyd y ffordd oedd yr Athro Tim Woodman (fy ngoruchwyliwr project Blwyddyn 3), yr Athro Lew Hardy (a arweiniodd fy nghynnig project pan oedd Tim ar gyfnod sabothol) a’r Athro Chris Ring (fy ngoruchwyliwr PhD o Brifysgol Birmingham).
Pe na baech yn academydd, beth fyddech yn ei wneud?
Athro Addysg Gorfforol efallai, neu’n gweithio gyda’r gwasanaeth tân.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Dwi’n mwynhau’r rhan fwyaf o chwaraeon - tenis bwrdd oedd fy mhrif gamp pan oeddwn yn yr ysgol, ond roeddwn hefyd yn chwarae pêl-droed a chriced ac ychydig o golff. Roeddwn yn chwarae llawer o denis pan oeddwn yn y Brifysgol. Erbyn hyn, rhedeg fyddaf yn ei wneud gan amlaf (am resymau ffitrwydd). Dwi hefyd yn dysgu Cymraeg.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Roger Federer am ei hirhoedledd a’i safon.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Ffilm Brydeinig, nad yw’n hynod o boblogaidd, yr oeddwn wrth fy modd â hi yn ystod fy mhlentyndod yw “When Saturday Comes” - mae Sean Bean yn cael ei sgowtio o’i dîm pêl-droed Cynghrair Sul ac yn cael ei ddewis i chwarae (a sgorio) dros Sheffiled United yn erbyn Man United yng nghystadleuaeth Cwpan yr FA. Bûm yn breuddwydio am fod yn bêl-droediwr am flynyddoedd, nes i mi sylweddoli, o’r diwedd, mai dwy droed chwith sydd gen i.
Dwi’n mwynhau sioeau teledu comedi clasurol - mae Only Fools and Horses yn ffefryn.
Mae gen i hen albymau indie yn y car, ond dwi’n gwrando ar y radio gan amlaf.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Dwi’n aelod balch o Sefydliad Ymchwil Seicoleg Perfformiad Elît Prifysgol Bangor. Ni yw un o'r grwpiau mwyaf yn y byd o seicolegwyr chwaraeon sy'n canolbwyntio ar berfformiad! Cymerwch gip ar ein gwefan yma: https://ipep.bangor.ac.uk/
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Mae hwn yn gwestiwn anodd, oherwydd mae’r heriau’n newid o hyd, ac mae pobl wahanol yn wynebu heriau gwahanol. Mae’r seicolegydd ynof yn dweud bod modd goresgyn y rhan fwyaf o heriau os ydych yn gweithio’n ddigon caled, ac yn eu troi’n gyfleoedd gwerthfawr.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Ewch ati i weithio’n galed, a chofiwch ddathlu eich llwyddiannau!
Dr Stuart Beattie
Enw
Stuart Beattie
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni a'm magu yn ninas deg Glasgow.
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?
Ymddengys imi wynebu cyfran deg o adfyd pan oeddwn yn ifanc. Rwy'n meddwl i hynny fy ngwneud i’n fwy gwydn, yn benderfynol o lwyddo mewn bywyd, ac yn barod i helpu pobl eraill.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?
Y byd academaidd oedd fy ail broffesiwn fel gyrfa (bûm yn gweithio ym maes Coedwigaeth a bûm i'n goedwigwr llawn amser am 3 blynedd cyn dychwelyd i fyd addysg). Cyfarfûm â’r Athro Lew Hardy pan wnes fy modiwl cynnig project israddedig yr ail flwyddyn yma ym Mangor ym 1998. Arweiniodd fy niddordeb innau mewn ymchwil a'i oruchwyliaeth ysbrydoledig yntau at ble rydw i heddiw.
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi'n ei wneud?
Fy uchelgais gyntaf fel gyrfa oedd bod yn beilot. Bwriodd swyddog gyrfaoedd yr ysgol y meddyliau hynny allan o fy mhen yn llwyr. Dywedodd wrthyf am ganlyn rhywbeth llai academaidd! Beth wyddai hwnnw?
A oes gennych chi unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?
Dwi wrth fy modd yn sgïo! Sgïo oddi ar y piste a theithiau sgïo yw un o'r chwaraeon mwyaf cyffrous imi ei wneud erioed. Mae teithio i fyny mynyddoedd yr Alpau a sgïo’n ôl i lawr mewn eira powdr ffres lle na fu neb arall yn un o'r pethau brafiaf i'w wneud. Roeddwn i'n arfer rhedeg y clwb canŵio ac rydw i wedi caiacio ar y rhan fwyaf o afonydd Gogledd Cymru. Hyd yn oed Afon Nant Peris ar ôl 2 ddiwrnod o law (Gwglwch). Rwyf yn chwarae gitâr ers dros 30 mlynedd ac wedi ymddangos ar y teledu a’r radio dros y blynyddoedd. Mae'r band rydw i ynddo’n gwneud llawer o briodasau, felly pan ddaw'r amser rhowch wybod!
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?
Dewis anodd! Roedd Stephen Hendry’n arwr pan oeddwn i’n tyfu i fyny a bu Andy Murray’n fabolgampwr anhygoel i'w wylio dros y blynyddoedd. Albanwyr ill dau wrth gwrs.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?
Roedd Young Guns yn ffefryn gen i pan oeddwn i'n ifanc. Dwn i ddim faint o weithiau y gwelais i’r ffilm honno. Does gen i ddim hoff sioe deledu mewn gwirionedd ond mae gen i'r casgliad cyfan o Red Dwarf ar DVD. Y 6 cyngerdd diwethaf y bûm iddynt oedd Def Leppard, AC/DC, Iron Maiden, Mumford and Sons, Foo Fighters, The Killers ac rwy'n un o selogion Gŵyl Download. Digon amrywiol?
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Rhoddaf ddau ddarn o gyngor ichi. Yn gyntaf, pan aiff pethau i’r diawl, peidiwch â gorboeni. Cadwch ben clir a daw’r ateb i chi bob tro. Yn ail, peidiwch â gadael i’r cyfryngau cymdeithasol reoli na difetha'ch bywyd. Nid yw o bwys (dim ond pan fyddwch chi'n hŷn y byddwch chi'n sylweddoli hynny).
Yr Athro James Hardy
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Enw
James Hardy
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yn Lerpwl a’m magu yn Ynys Môn.
Sut wnaeth eich amgylchedd cynnar lywio pwy ydych chi heddiw? Roeddwn i’n gymnastwr ar lefel genedlaethol ers i mi fod yn ifanc iawn ac mae hynny wedi dylanwadu ar faint rydw i’n gwerthfawrogi gwaith caled a dyfalbarhad.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Roedd fy ngoruchwyliwr israddedig, yr Athro Rich Masters, yn hynod ddylanwadol; roedd o’n frwdfrydig ac yn ysbrydoledig – dipyn o arwr mewn gwirionedd.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Rydw i’n hyfforddi gymnasteg dynion.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Daily Thompson.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Gladiator ond nid yr ail un. Rhaglenni teledu cyffro troseddol fel Criminal Minds. Cerddoriaeth tŷ.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Roedd fy Nhad yn un o sefydlwyr y staff Addysg Gorfforol/Gwyddorau Chwaraeon yma ym Mhrifysgol Bangor, a fy swyddfa i oedd ystafell wely Thomas Telford pan oedd Pont Grog Menai yn cael ei hadeiladu.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Ar hyn o bryd, rydw i’n credu bod dwy her gyffredin; sut i ymdopi'n llwyddiannus â phwysau ariannol (e.e. gweithio wrth astudio) a phwysau o ran llesiant meddyliol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Does arno’r byd ddim i chi, ni waeth pa mor galed rydych chi wedi gweithio yn ystod eich gradd. Mae dal angen i chi wireddu eich breuddwydion!
Dr Jonathan Moore
Enw:
Jonathan Moore
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Lisburn, County Antrim, Gogledd Iwerddon
Sut wnaeth eich magwraeth ddylanwadu ar bwy ydych chi heddiw?
Dysgais y byddai cymryd rhan mewn addysg a chwaraeon yn fy helpu i wneud y mwyaf o fy mhotensial a manteisio ar gyfleoedd newydd.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Gormod i'w henwi. Athrawon gwyddoniaeth hynod yn fy ysgol. Hefyd, mae yna lawer o athrawon yn fy nheulu.
Ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw ddiddordebau neu chwaraeon cyffrous?
Roeddwn i'n arfer nofio'n gystadleuol. Chwaraeais rygbi'r undeb yn yr ysgol a thrwy'r brifysgol. Rydw i’n rhedwr mynydd brwd ac wedi cymryd rhan mewn rhai digwyddiadau pellter hir diddorol a heriol.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Muhammad Ali
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
The Princess Bride, Blackadder, Cerddoriaeth Radio 6
Oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Dim byd y gellir ei gynnwys yma.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Ansicrwydd ariannol; anhawster cydbwyso astudio, gwaith rhan amser ac amser hamdden.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Marathon yw eich llwybr gyrfa ac nid sbrint. Ac mae angen gwthio y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus i chi er mwyn darganfod sgiliau a phrofiadau newydd.
Yr Athro Tim Woodman
Enw:
Tim Woodman
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yn Norwich. Doedd dim bryncyn i’w weld, heb sôn am fynydd… Pan oeddwn i’n 14 oed, fe symudon ni i Dde Ffrainc, sy’n agos at yr Alpau – Nefoedd.
Sut wnaeth eich magwraeth ddylanwadu ar bwy ydych chi heddiw?
Dw i’n un o bedwar a dw i wastad wedi teimlo y bu’n rhaid i mi gystadlu am fy lle. Cefais fy anfon i ysgol breswyl hefyd pan oeddwn i'n 6 oed, felly dysgais yn gynnar i wneud pethau drosof fy hun. Serch hynny, rydw i bob amser wedi ymdrechu i fod y gorau y gallaf fod. Roedd fy mam yn Ffrances, a fy nhad yn Brydeiniwr, felly rydw i wedi elwa o'r ddeuoliaeth honno gan fy mod i'n teimlo'n gartrefol ym mhobman.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Dw i wrth fy modd yn dysgu, dw i wrth fy modd â chwaraeon, a dw i wrth fy modd yn deall pobl. Mi wyddwn i o hyd mai Seicoleg Chwaraeon fyddai fy maes. Mae fy chwilfrydedd bob amser wedi fy arwain i ofyn y cwestiwn “pam” (na, wir, pam?). Fe helpodd yr Athro Lew Hardy fi i droi’r chwilfrydedd hwnnw yn yrfa academaidd ystyrlon.
Pe na baech yn academydd, beth fyddech yn ei wneud?
Dydw i ddim yn ystyried fy hun yn academydd; mae gen i syched anniwall am wybodaeth, a dw i’n ystyried y byd academaidd yn ffordd wych o gael adnewyddiad. Yn yr un modd, dydw i ddim wedi penderfynu eto beth rydw i eisiau ei wneud pan fydda i'n tyfu i fyny, ond rydw i'n mwynhau'r chwilio...
Ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw ddiddordebau neu chwaraeon cyffrous?
Dw i wrth fy modd yn symud. Dw i'n dringo ac yn sgïo ac yn mynd am y bryniau a'r mynyddoedd pan alla i (ddim mor hawdd y dyddiau hyn gyda dau o blant ifanc), dw i'n chwarae sboncen (ydw, dw i'n gystadleuol…), dw i'n gwneud rhywfaint o ioga pan alla i (o leiaf dau gyfarchiad i’r haul bob bore). Gyda dau o blant ifanc, dw i’n cael llawer o bleser o'u gwylio nhw'n cyflawni pethau. Mae dysgu’ch plentyn i reidio beic yn bleser ac yn fraint.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Dw i’n eu parchu nhw i gyd. Roeddwn i'n edmygu Brian Clough; yr hyn a wnaeth gyda Nottingham Forest yw'r enghraifft orau o fyd chwaraeon o gael y gorau o bawb wrth ymgyrraedd at nod cyffredin – roedd yn enghraifft wych o arweinyddiaeth. Dylai fod wedi bod yn rheolwr Lloegr - enghraifft glasurol o reolaeth anwybodus, wan, ac osgoi risg yn rhwystro rhagoriaeth wirioneddol.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Mae'n well gen i fod yn egnïol na gwylio'r teledu. Dw i wrth fy modd gyda The Big Blue gan Luc Besson. Dw i'n newid rhwng Radio 1 a Radio 4. Cerddoriaeth heddiw yw'r gorau bob amser; rydym yn byw mewn cyfnod o gerddoriaeth wych, a bydd hynny bob amser yn wir.
Oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Dim un nad oes modd ei chyhoeddi yma... 😊
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Mae'n ymddangos bod cymaint o bwysau i "ganfod swydd" a "symud ymlaen," ac ati. Cefais fy ngradd BSc yn 26 oed, fy MSc yn 29, fy PhD yn 34 oed. Treuliais beth amser i ddod i adnabod fy hun yn iawn, a dw i’n credu bod hynny'n amser a ddefnyddiwyd yn werthfawr. Dw i’n deall nad yw hynny mor hawdd y dyddiau hyn, ond eto, dw i’n ei ystyried hi hyd yn oed yn bwysicach heddiw oherwydd hynny'n union.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Ti yw'r nawr a'r dyfodol; peidiwch â gwrando arna i! 😊
Dr Eleri Jones
Enw
Eleri Jones
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni yn Inverness, a threuliais flwyddyn gyntaf fy mywyd mewn pentref bach iawn o’r enw Lochcarron, ar arfordir gorllewin yr Alban. Symudais i Langefni, Ynys Môn, pan oeddwn yn 5 oed ac arhosais yno tan oeddwn yn 18 oed.
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Gan fy mod wedi byw mewn dwy ardal hynod wledig ac anghysbell o’r Deyrnas Unedig, roedd yr awyr agored yn rhan fawr o fy mhlentyndod. Mae chwaraeon hefyd wedi chwarae rôl fawr yn fy mhlentyndod. Mae’r ddau beth yma wedi llywio pwy ydw i heddiw, a dyna ydy’r dewis cyntaf pan mae arna i eisiau ymlacio!
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Dwi wedi bod yn angerddol dros ddeall sut mae pobl yn ymddwyn ac yn rhyngweithio erioed, sydd wedi fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y byd gwyddoniaeth. Mae fy mam hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr. Treuliodd sawl blwyddyn yn gweithio fel athrawes Addysg Gorfforol a hyfforddwr chwaraeon, a byddwn yn aml yn ei gwylio wrth ei gwaith. Cefais hefyd ddarlithydd gwych ar fy nghwrs gradd israddedig, Dr Martin Eubank, a oedd yn fy herio i feddwl yn wahanol bob amser.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Dwi’n hoffi bod yn heini, a dwi’n chwarae pêl-rwyd mewn cynghrair lleol. Dwi hefyd wedi bod yn gwneud CrossFit dros y blynyddoedd diwethaf, a dwi wir yn mwynhau dysgu sgiliau newydd a phrofi fy hun mewn gwahanol ffyrdd. Yn fwy diweddar, mae gen i blentyn bach sy’n fy nghadw’n brysur!
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Mae’r rhestr yn hirfaith, ond dwi’n edmygu Billie Jean King yn fawr am yr holl waith mae hi wedi’i wneud dros gydraddoldeb rhyw yn y byd chwaraeon. Yn yr un modd, mae Serena Williams yn fodel rôl ac yn ysbrydoliaeth am herio normau cymdeithasol o ran beth mae bod yn athletwr benywaidd yn ei olygu.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Mae’n siŵr mai fy hoff ffilm yw Remember the Titans, mae’n ffilm y dylai pawb ei gwylio!
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Dwi’n lliwddall… dim ond i 0.5% o ferched mae hyn yn digwydd!
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Yn fy marn i, un her y mae myfyrwyr yn ei hwynebu yw gwneud yn siŵr eich bod yn ymddangos yn wahanol i bawb arall. Dwi’n annog fy myfyrwyr i feddwl yn greadigol bob amser, ac i beidio â bod ofn meddwl yn wahanol. Dyma sut fydd gwyddor chwaraeon yn datblygu, ac mae gan raddedigion gyfle gwych i fod yn rhan o hyn.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Peidiwch â bod ofn camu ymlaen a defnyddio eich llais, os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, ewch ati i’w herio mewn ffordd adeiladol.
Gav Lawrence
Enw
Gav Lawrence
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy neor o Wy ar gopa Mynydd. O leiaf, dyna’r stori fyddai fy ffrind ‘Pigsy’ sy’n ffermio moch wedi fy narbwyllo ohoni yn ystod fy mhlentyndod yn Evesham, Swydd Gaerwrangon. Dychmygwch pa mor hapus oeddwn i pan des i wybod bod yr unig ‘glwb nos’ go iawn sydd i’w gael yno (Marylyn’s) yn berchen ar y ‘clwb nos’ yma ym Mangor!
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Cefais fy magu yn nhref wledig hardd Evesham, sy’n lle hollol ddifywyd i bobl ifanc. Oherwydd hynny, roedd fy mhlentyndod yn hollol ‘arbrofol’. Dwi’n blentyn canol, ac roedd yn rhaid imi ymladd dros bopeth. Dysgais yn fuan y gallai fy chwaer fod yn ddieflig ar y naw, ac roedd gan fy mrawd allu digynsail i ymladd heb i bobl eraill weld... Yng ngeiriau'r diweddar anhygoel Johnny Cash, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi 'get tough or die.'
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli chi i ddod yn academydd?
Mae hwn yn ateb cymhleth oherwydd doedd fy siwrnai i'r byd academaidd ddim wedi'i chynllunio nac yn un llyfn. Yn gyntaf, doeddwn i erioed yn 'academydd', roeddwn i'n athletwr ac yn artist. Yn hytrach, roeddwn yn athletwr aflwyddiannus, a oedd yn angerddol dros ddylunio graffeg. Wedi chwarae Pêl-fasged a Rygbi ar y lefel uchaf, roeddwn yn credu fy mod i'n mynd i gael gyrfa fel athletwr proffesiynol. Ond dim dyna fu. Roeddwn yn cael fy nhalu, ond dim digon i wneud bywoliaeth, ac roeddwn i eisiau gwybod pam... beth wnes i'n anghywir a beth oedd y bobl o'm cwmpas yn ei wneud yn iawn? Felly, fe wnes i faglu fy ffordd ymlaen at radd mewn Gwyddor Chwaraeon, ac roeddwn i wedi gwirioni. Fe wnaeth yr angerdd newydd hwn, a fy narlithwyr yn y brifysgol, helpu i droi fy marciau Safon Uwch 'ofnadwy' yn Radd Dosbarth Cyntaf. Es ati wedyn i droi’r radd honno’n PhD yn 2004, a rhywsut neu’i gilydd, dod yn ‘academydd’…
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi’n ei wneud?
Ymhyfrydu yn fy nghyn-gyrfa fel chwaraewr Rygbi neu Bêl-fasged proffesiynol, ac efallai’n rhoi cynnig ar fod yn byndit ac ar gefnogi a datblygu'r talent newydd.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Mae hobïau pawb yn gyffrous. Yr eithriad yw pan fydd yn rhaid i rywun arall wrando arnoch chi'n siarad amdanyn nhw... ond os oes rhaid i chi wybod, dwi’n ddrymiwr brwd iawn, fel mae fy nghymdogion yn siŵr o dystio.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Dwi bob amser yn edmygu'r mawrion sy’n arloeswyr yn eu maes. Dyma ambell un o’r byd chwaraeon:
Michael Jordan
Dick Fosbury
Ellen McCarthy
Lauren Jackson
Rob Andrew
Roger Federer
Denise Lewis
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Dwi wrth fy modd â’r ffilm Jaws. Mae bron yn hanner can mlwydd oed, ond mae’n dal i gynnig rhywbeth i mi bob tro dwi’n ei wylio. Dwi’n hoffi amrywiaeth eang o gerddoriaeth, ond dwi’n arbennig o hoff o gerddoriaeth soul clasurol a Motown. Ond beth bynnag ydi’r gerddoriaeth, mae'n rhaid gwrando arni ar Finyl, a’i chwarae'n uchel mewn ystafell sy’n ddigon mawr i ddawnsio fel taw chi yw'r person cyntaf a'r person olaf ar y llawr!
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
O ystyried fy hanes, mae'n bosib bod y rhan fwyaf o'm straeon yn rhai 'doniol', ond dim dyma’r fforwm cywir i’w rhannu. Byddai angen i ni fod mewn 'man diogel', gyda digon o ddiod. Yn ddelfrydol, rhywle gyda hen offeiriad ac offeiriad ifanc wrth law…
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Dwi’n ifanc (neu’n ddigon ifanc) ond yn dal yn rhy hen i ddeall yr heriau mae myfyrwyr yn eu hwynebu heddiw. Mewn gwirionedd, gallai hynny fod yn un o'r heriau mawr y mae myfyrwyr heddiw yn eu hwynebu; y ffaith bod pobl llawer hŷn na nhw’n penderfynu beth yw eu heriau. Gadewch i ni droi pethau ben i waered a gofyn i'r myfyrwyr eu hunain beth yw eu heriau, ac yna gofyn i'r genhedlaeth hŷn eu cefnogi i ddatrys yr heriau hynny. Oni fyddai hynny'n braf?
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Mae hyn yn hawdd. Beth bynnag rydych chi’n ei wneud yn ystod eich bywyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi 100%. Oni bai eich bod yn rhoi gwaed, bryd hynny efallai y byddai’n syniad ichi anwybyddu’r fath gyngor.
Dr Vicky Gottwald
Enw
Vicky Gottwald
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Dwi’n dod o dde Lloegr. Fe ges i fy ngeni a’m magu yn Swydd Rhydychen.
Sut mae eich amgylchedd cynnar wedi llywio pwy ydych chi heddiw?
Dwi’n un o efeilliaid, a dyna pam fy mod mor gystadleuol. Aeth y ddwy ohonom i ysgol fechan a dewis union yr un pynciau TGAU yn ddiarwybod i’n gilydd. Roedd yr athrawon yn arfer darllen eich marciau’n uchel i’r dosbarth bryd hynny, ac felly roeddem o hyd yn cael ein cymharu’n gyhoeddus, a oedd yn eithaf anodd i mi ar y pryd. Fodd bynnag, mae wedi llywio pwy ydw i, sy’n rhywbeth dydw i ddim yn ei ddifaru. Roeddwn hefyd yn arfer beicio i’r ysgol a rasio unrhyw un arall oedd ar eu beic. Doedden nhw ddim yn gwybod eu bod yn rhan o’m ras, ac roeddwn wedi blino’n lân erbyn cyrraedd yr ysgol! Roeddwn hefyd yn arfer gosod fy larwm i ganu yng nghanol y nos fel fy mod yn gallu bod y person cyntaf yn fy nheulu i fod yn barod yn fy nillad ysgol (roeddwn yn un o bedwar o blant). Eto, fi oedd yr unig berson oedd yn cymryd rhan yn y ras ryfedd hon yn y bore, a chefais ambell i fore cynnar iawn!
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli chi i ddod yn academydd?
Roeddwn eisiau bod yn athrawes Addysg Gorfforol erioed, ac ar ôl gorffen fy ngradd israddedig, es ymlaen i gwblhau cwrs TAR i addysgu Addysg Gorfforol uwchradd. Fodd bynnag, pan gyflwynais yr Athro Michael Khan (a oedd wedi goruchwylio fy mhroject israddedig ym Mangor) i fy rhieni yn fy seremoni raddio israddedig, dywedodd wrthynt y dylwn ddod yn ôl i gwblhau PhD un diwrnod. Felly dyna'n union wnes i, a hwn oedd y penderfyniad gora i mi ei wneud erioed!
Pe na baech yn academydd, beth fyddech chi’n ei wneud?
Pe na byddwn yn academydd, mae’n debyg y byddwn yn hyfforddi pêl-fasged yng Nghanada - dydy hi byth yn rhy hwyr!
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Byddwn yn ei alw’n fwy o ‘obsesiwn’ na ‘hobi’, ond roeddwn yn rhan o Dîm Pêl-fasged Cenedlaethol Merched Hŷn Cymru am nifer o flynyddoedd, a chefais gyfle i deithio a chwarae mewn gwledydd anhygoel ledled Ewrop (yn ogystal ag mewn ambell i wlad go dlawd). Fodd bynnag, dwi wedi cyfnewid fy esgidiau chwarae am chwiban a dwi bellach yn Hyfforddwr Lefel 4 UKCC. Dwi wedi bod ynghlwm â hyfforddi nifer o Raglenni Pêl-fasged Tîm Cenedlaethol Cymru, fel Hyfforddwr Cynorthwyol ac fel Prif Hyfforddwr i dimau dan 12 oed hyd at dimau dan 18 oed. Dwi hefyd wedi hyfforddi Rhaglen Merched y Brifysgol, gan chwarae yn Adran 1 Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Billie-Jean King, heb os. Yn ogystal â bod yn chwaraewr tennis anhygoel (wedi ennill 39 teitl Camp Lawn), mae hi hefyd yn eiriolwr ysbrydoledig dros gydraddoldeb rhyw a chyfiawnder cymdeithasol.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Hoff Ffilm: Glory Road
Sioe Deledu: Does gen i ddim teledu, ond mae gen i Netflix ac rwyf wrth fy modd â Queer Eye! Yn enwedig Antoni!
Hoff Gerddoriaeth: Less than Jake, Green Day, Reel Big Fish, Jimmy Eat World. Dydw i ddim yn or-hoff o wrando ar y radio.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Mae gen i ofn clowniau.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Cwestiwn da. Dwi’n meddwl bod y cyfryngau cymdeithasol yn her fawr i bobl ifanc ar hyn o bryd. Mae’n amlwg bod y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig manteision go iawn o ran rhwydweithio a rhannu gwybodaeth, ond maent hefyd yn cyflwyno heriau sylweddol i bobl ifanc, e.e. caethiwed, problemau iechyd meddwl a cholli allan ar brofiadau bywyd go iawn. Dwi’n meddwl, fel popeth, mai’r her yw dod o hyd i'r cydbwysedd cywir, a gallu ymdopi hebddo yn ogystal â'i ddefnyddio er daioni.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Dwi’n dweud hyn wrth athletwyr dwi’n gweithio â nhw’n rheolaidd, ond mae’n hynod bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud amser i fwynhau’r daith! Mae'n hawdd iawn cael eich llethu gan aseiniadau a gwaith, hyd nes eich bod yn anghofio pam eich bod yn gwneud y radd yn y lle cyntaf. Cymerwch gam yn ôl o bryd i'w gilydd i fyfyrio ar y darlun ehangach ac i fwynhau’r presennol.
Dr Julian Owen
Enw
Julian Owen
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni ym Mangor, yn hen Ysbyty Dewi Sant (lle mae Fitness First a Go Outdoors bellach) a bûm yn byw yn Harlech tan oeddwn i’n 14. Yna symudon ni i Gaerhirfryn fel teulu nes imi fynd i’r Brifysgol yn Lerpwl yn 18 oed.
Sut gwnaeth eich amgylchedd cynnar eich siapio i fod y person rydych chi heddiw?
Roedd tyfu i fyny yn Harlech yn rhan bwysig o fy natblygiad. Roedd yn blentyndod bywiog iawn. Roedd yna bwll nofio, cwrs golff y Bencampwriaeth (The Royal St Davids’), tîm pêl-droed da, clwb seiclo, clwb sboncen a thraethau a thwyni tywod hirfaith.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i fynd yn academydd?
Roeddwn bob amser yn hoff iawn o’r gwyddorau biolegol ac euthum i Lerpwl i astudio gradd mewn bioleg a biocemeg. Ar ôl graddio bûm yn gweithio mewn ymchwil biolegol moleciwlaidd am gyfnod ond teimlwn fod rhywbeth ar goll. Trawais ar y datblygiadau yn nisgyblaeth y gwyddorau chwaraeon mewn sgwrs rhyw ddiwrnod. Roedd yn sylweddoliad mawr imi: 'Dychmygwch gyfuno’r gwyddorau biolegol a fy mrwdfrydedd dros chwaraeon!'. Dechreuais astudio gwyddorau chwaraeon ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl ac yn y cyfnod hwnnw bu’r diweddar Athro Tom Reilly yn ysbrydoliaeth fawr.
A oes gennych chi unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous rydych chi'n cymryd rhan ynddynt?
Bûm yn chwarae pêl-droed i safon eithaf da yn nyddiau fy ieuenctid ac yn y Brifysgol. Roeddwn hefyd yn chwaraewr rygbi brwd, yn golffiwr a bûm yn chwarae rhan mewn amrywiol grefftau ymladd. Mae gen i ormod o hen anafiadau hirsefydlog erbyn hyn a bellach rwy’n mwynhau gweithgareddau anghystadleuol fel codi pwysau, ymarfer cylch a rhedeg.
Pa fabolgampwr ydych chi'n ei barchu a'i edmygu fwyaf?
Gormod a dweud y gwir – ond roeddwn bob amser yn edmygu Ed Moses a oedd yn rhedwr 400m dros y clwydi yn y 70au a'r 80au. Enillodd bob ras am 9 mlynedd ar un adeg! Mae Eric 'Y Brenin' Cantona’n ail agos.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a cherddoriaeth?
Un o fy hoff ffilmiau yw Delicatessen (comedi dywyll o Ffrainc-Gwlad Belg) ac mae Breaking Bad ymhlith fy hoff sioeau teledu. Mae fy chwaeth gerddorol braidd yn eang, gan gynnwys trance y 90au ar yr un llaw a thrash metal ar y llall, ac ychydig o SKA, reggae ac indie yn y canol.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch chi'ch hun?
Ychydig flynyddoedd yn ôl, roeddwn yn gweithio fel ffisiolegydd gyda thîm Hoci dynion hŷn Cymru yn ystod Pencampwriaethau EwroHoci. Roeddem yn aros mewn gwesty yng nghyffiniau Lisbon ac ar y noson gyntaf bûm yn ymweld â'r cyfleusterau hyfforddi. Ar ôl dychwelyd i'r gwesty roeddwn yn aros am y lifft ar y llawr gwaelod. Dechreuodd dau ddyn mawr siarad yn ddig â mi mewn Portiwgaleg a dechrau fy hebrwng i ffwrdd. Credwn fy mod yn cael fy nghipio a hynny mor amlwg â’r dydd! Wrth i'r lifft agor gwelwn Cristiano Ronaldo’n sefyll yno. Mi ymddiheurodd ar ran ei 'ofalwyr'. Trwy gyd-ddigwyddiad, roedd tîm Portiwgal yn aros yn yr un gwesty â ni, a’r diwrnod wedyn gwahoddwyd carfan Cymru a’r staff i wylio’r gêm rhwng Portiwgal a Serbia (gyda llaw, roedd Ronaldo ym mhoced Vidic trwy gydol y gêm).
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau sy’n wynebu’r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr mewn addysg uwch?
Yn yr ysgol mae pwysau ar fyfyrwyr i ganolbwyntio ar ennill tystysgrifau a marciau. Mae rhywbeth o’i le ar hynny, rwy’n meddwl, oherwydd y gwir amdani yw ein bod ni (y prifysgolion) a’r cyflogwyr yn chwilio am gymhwystra mewn dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau. Golyga hynny y dylai dysgu fod yn ffactor allweddol, ni waeth a yw hynny’n gysylltiedig ag asesiad neu farc.
Pa gyngor neilltuol fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Peidiwch ag ofni mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus. Dyma lle mae dysgu’n digwydd!!!
Yr Athro Sam Oliver
Enw
Sam Oliver
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Dorchester, Dorset.
Sut wnaeth eich amgylchedd cynnar lywio pwy ydych chi heddiw?
Fy nghariad cyntaf yn yr ysgol oedd chwaraeon, ac roeddwn i'n ddigon ffodus i fyw'n agos at y traeth, felly roeddwn yn mwynhau llawer o oriau yn y môr - yn nofio, snorcelu a hwylio.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd? Y cyffro a'r mwynhad o ddysgu pethau newydd.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Rydw i hapusaf yn yr awyr agored, ac felly gellir dod o hyd i mi yn aml yn heicio, beicio mynydd a syrffio ym mryniau a môr Gogledd Cymru. Yn ddiweddar, dechreuais ffoilio adain, a all fod yn eithaf cyffrous pan fyddwch chi'n crasio, a dyma'r agosaf y gallaf ddod at hedfan.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Kelly Slater. Ychydig iawn o bobl sydd wedi ennill cymaint o deitlau byd mewn unrhyw gamp, ac mae'n dal i gystadlu a syrffio tonnau mawr yn ei 50au.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Mae'n rhy anodd dewis un genre o gerddoriaeth, ond petawn i'n sownd ar ynys bellennig, byddwn i'n gobeithio y gallwn i wrando ar BBC 6 Music, sydd â chymysgedd da.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Treuliais Nadolig yn Zambia yn helpu mewn cartref plant amddifad. Ar ddiwedd yr ymweliad, treuliais ddiwrnod yn archwilio Rhaeadr Victoria, ac yn corff-fyrddio i lawr afon Zambezi – roeddwn i’n falch mai dim ond wedyn y dywedodd y tywysydd wrtha i fod yr afon yn llawn crocodeiliaid y Nîl!
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Er nad yw'n her newydd, mae dysgu sut i gydbwyso astudiaethau academaidd â gweithgareddau allgyrsiol yn dod yn anoddach gan fod cymaint o glybiau a chymdeithasau i ddewis ohonynt. Byddwn yn annog pob myfyriwr i ddod draw i serendipedd yn yr wythnos groeso ac ymuno â rhai o'r clybiau a chymdeithasau, gan eu bod yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Byddwch yn ddysgwr gydol oes. Mae rhoi cynnig ar bethau newydd yn arwain at gyfleoedd mwy rhyfeddol, ac mae llawer ohonynt yn annisgwyl cyn i chi ddechrau – felly ewch amdani, cymerwch y cam cyntaf!
Dr Germano Gallicchio
Enw:
Germano Gallicchio
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Taranto, yr Eidal
Sut wnaeth eich amgylchedd cynnar lywio pwy ydych chi heddiw?
Rydw i’n ddiolchgar i fy rhieni am roi'r hyder i mi i ddilyn fy mreuddwydion, i beidio byth â setlo, a bob amser i ymdrechu am fwy.
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Des i’n academydd er mwyn gwneud ymchwil. Ers i mi fod yn ifanc rydw i bob amser wedi bod â diddordeb yn y syniad o wthio ffiniau ac archwilio tir newydd.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous? Rydw i’n ymarfer capoeira, sef ffurf gelfyddydol o oes drefedigaethol Brasil sydd â'i gwreiddiau mewn gwrthsafiad ac sy'n gyfoethog o ran hanes, cerddoriaeth a diwylliant.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Rydw i’n edmygu Umberto Pelizzari, a oedd yn gyfrifol am boblogeiddio deifio rhydd yn yr 1990au ac a ddangosodd lefelau o reolaeth ffisiolegol yr oedd gwyddoniaeth ar un adeg yn ei ystyried yn amhosibl.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Ffilmiau: Rydw i'n mwynhau ffilmiau ffuglen wyddonol. Fy ffefrynnau yw Back to the Future ac Interstellar. Cerddoriaeth: Offerynnol (e.e., Ludovico Einaudi, Yann Tiersen, Hans Zimmer), Lladin (e.e., Tribalistas, Gipsy Kings), Electronig (e.e., Gigi D’Agostino, Swedish House Mafia).
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Dydw i ddim yn meddwl bod gen i synnwyr cyfeiriad gwych. Rydw i’n mynd ar goll yn rheolaidd ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau’r Brifysgol.
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Yr her fwyaf yw dewis eu llwybr eu hunain mewn byd sy'n llawn opsiynau a phethau sy'n tynnu eu sylw.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Dilyn yr hyn y maen nhw’n angerddol amdano a bod yn uchelgeisiol.
Gethin Thomas
Enw:
Gethin Thomas
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Cefais fy ngeni ym Mangor a'm magu yn Llangefni, Ynys Môn, ar stad cyngor eithaf caled. Roedd fy nhad yn blymwr a fy mam yn glerc ysgrifenyddol. Roedd fy nhad yn credu mewn llafur plant ac felly roeddwn yn mynd gydag ef i wneud tasgau yn ystod y gwyliau, penwythnosau ac weithiau gyda'r nos ar ôl ysgol - os oedd y dasg yn ddigon agos i mi reidio fy meic yno. Dysgais sut i adeiladu systemau gwres canolog a chylchedau trydanol mewn lleoliadau domestig a masnachol pan oeddwn yn 12 oed. A phan nad oedd digon o waith i'r ddau ohonom, byddai'n fy 'mhimpio' allan at saer neu doiwr a allai fod wedi bod ar y contract hefyd.
Sut wnaeth eich amgylchedd cynnar lywio pwy ydych chi heddiw?
Roedd fy nhad yn ddyn cryf, mae'n dal yn gryf ac yng nghanol ei 80au. Pan nad oedden ni'n gweithio, roeddem yn mynd i gerdded, sgramblo a dringo. Aeth fy nhad a minnau i farbeciw ar drothwy fy arholiad Mathemateg TGAU. Roedd y barbeciw’n cael ei gynnal mewn canolfan adeiladu leol. Fe wnaeth fy nghofrestru mewn cystadleuaeth codi brics. Enillais y gystadleuaeth - yn 16 oed! Roeddwn yn erbyn llafurwyr, bricwyr a rhai collwyr drwg iawn! Roedd fy mam yn cefnogi fy angerdd dros chwaraeon a gweithgareddau awyr agored o oedran cynnar iawn. Cefais fy nghyflwyno i Gymnasteg yn gyntaf – rhywbeth eithaf prin ar Ynys Môn ar y pryd. Yna nofio, cyn symud ymlaen at rygbi. Ond pan oeddwn yn chwarae Rygbi i'r chweched dosbarth yn 15 oed (rhywbeth nad yw'n cael ei gynghori y dyddiau hyn), dysgais y gallwn redeg – yn gyflym! Mae'n debyg mewn ofn o gael fy nal gan fechgyn mawr â barfau! Mae llawer o fy recordiau gogledd Cymru dros 200 a 400 yn sefyll hyd heddiw. Rhedais dros Stretford, Manceinion ac roeddwn yn athletwr rhyngwladol yn rhedeg dros Gymru ar lefel iau ac uwch. Enillais fedal Aur gyntaf Ynys Môn yng Ngemau Rhyngwladol yr Ynysoedd hefyd.
Beth sydd wedi llywio’r person ydw i heddiw? Yr ateb syml – y bobl o’m cwmpas!
Beth (neu bwy) wnaeth eich ysbrydoli i ddod yn academydd?
Dydw i erioed wedi gweld fy hun fel academydd traddodiadol mewn gwirionedd. Dwi’n meddwl amdanaf fy hun yn fwy fel ymarferydd, rhywun sy'n helpu i bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac ymarfer yn y byd go iawn. Dwi’n mwynhau cefnogi pobl eraill i ddeall ymchwil ac i ddefnyddio tystiolaeth mewn ffyrdd ystyrlon ac ymarferol. Un nod syml sydd wrth wraidd fy ngwaith: helpu cymdeithas i ddod yn fwy egnïol a gweld y manteision eang y gall ffordd o fyw egnïol eu dwyn.
Er fy mod yn gweithio o fewn yr Ysgol, dwi hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd ar draws addysg, chwaraeon ac iechyd, yn bennaf yng Nghymru a Lloegr, ond weithiau y tu hwnt. Mae fy ngyrfa wedi fy arwain trwy sawl rôl; athro, uwch arweinydd, gweithio o fewn gwasanaeth gwella ysgolion, a chyfrannu at ESTYN (cyfwerth Cymru ag OFSTED). Pennod arbennig o ddylanwadol oedd fy nghyfnod fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, gan helpu i ddatblygu Cwricwlwm i Gymru. Agorodd y profiad hwnnw ddrysau newydd, ac yn y pen draw, arweiniodd at gyfleoedd megis cynrychioli AfPE ar Banel Arbenigwyr Llythrennedd Corfforol Sport England.
Pan fydda i'n meddwl am bwy sydd wedi fy ysbrydoli, mae dau berson yn dod i'r meddwl: Yr Athro Lew Hardy a Dr Dave Markland. Mae'r ddau yn arweinwyr yn eu maes ac mae ganddynt ddawn wirioneddol am wneud syniadau cymhleth yn hygyrch ac yn berthnasol. Mae eu gallu i gysylltu ymchwil â chymhwysiad ymarferol wedi cael dylanwad parhaol ar sut dwi’n mynd ati i wneud fy ngwaith fy hun.
A ydych chi’n cymryd rhan mewn unrhyw hobïau neu chwaraeon cyffrous?
Dwi’n dal i fwynhau codi pwysau, bron i 40 mlynedd ar ôl prynu fy set gyntaf. Mae hyfforddiant cryfder wedi bod yn llinyn cyson drwy gydol fy mywyd, rhywbeth sy'n fy ngwreiddio ac yn rhoi lle i mi ymlacio. Dwi hefyd yn rhoi cynnig ar feicio ffordd, yn bennaf am yr ymdeimlad o ryddid y mae'n ei gynnig a'r cyfle i archwilio lleoedd newydd.
Fy angerdd go iawn, fodd bynnag, yw'r mynyddoedd. Dwi wrth fy modd bod mewn mannau uchel a phrofi fy hun mewn gwahanol amgylcheddau. Dwi wedi cymryd rhan mewn cerdded bryniau, sgramblo, dringo a dringo iâ dros y blynyddoedd. Yn fwy diweddar, dwi wedi cael fy nenu at fynydda, gan fynd i'r afael â llwybrau ar greigiau, iâ, a thirwedd alpaidd. Mae'r cymysgedd o her gorfforol, sgil dechnegol, a symlrwydd bod yn yr awyr agored yn dal i fy nenu'n ôl.
Ar wahân i chwaraeon, dwi hefyd yn mwynhau adeiladu a DIY yn fawr iawn. Mae gen i bron bob amser broject ar y gweill, boed hynny yn golygu trwsio rhywbeth, yn gwella gofod, neu'n ymgymryd â her greadigol newydd. Mae'n fath gwahanol o ddatrys problemau, ond un dwi’n ei chael yr un mor werth chweil. Mae’n siŵr fy mod i’n cael hynny gan Dad! Ac mae Dad yng nghanol y cyfan gyda fi pob cyfle sydd.
Pa athletwr ydych chi’n ei barchu a’i edmygu fwyaf?
Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn. Dydw i erioed wedi cael un arwr chwaraeon yn unig, a dwi’n tueddu i edmygu athletwyr am wahanol resymau. Er enghraifft, roedd cyflymder, cywirdeb ac ymrwymiad Ueli Steck yn y mynyddoedd yn eithriadol. Roedd ei gyflawniadau’n gwthio ffiniau'r hyn yr oedd llawer yn ei feddwl oedd yn bosibl mewn dringo alpaidd. Mae Jenson Button yn rhywun dwi’n ei edmygu am ei agwedd dawel a deallus at rasio a'r ffordd y bu'n ymddwyn drwy gydol ei yrfa hir yn Fformiwla 1. Mae Jamie Baulch yn sefyll allan am ei egni, ei bositifrwydd, a'r ffordd y mae wedi defnyddio ei broffil i gefnogi pobl eraill ymhell y tu hwnt i'w ddyddiau cystadleuol. Ac mae Syr Chris Hoy yn enghraifft wych o ymroddiad a disgyblaeth ddi-baid, gan ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy flynyddoedd o waith caled cyson.
Yn ogystal â’u perfformiad, yr hyn sy'n eu cysylltu i mi yw eu hagwedd: gostyngeiddrwydd, gwytnwch, angerdd, a pharodrwydd i barhau i wella. Mae’r rhain yn rhinweddau dwi’n eu parchu'n fawr mewn unrhyw chwaraewr.
Beth yw eich hoff ffilm, sioe deledu a math o gerddoriaeth?
Defnyddiais Spotify i'm helpu i ateb y cwestiwn cerddoriaeth, ac yn ôl pob golwg mae fy "hoedran cerddoriaeth" yn 55, ac electronica yw fy hoff genre. Wedi dweud hynny, mae fy chwaeth yn eithaf eclectig. Gallaf symud yn hapus o The Pet Shop Boys i Mumford & Sons, ac yna i mewn i gerddoriaeth trance a house heb golli curiad.
O ran ffilmiau, dwi’n hoff iawn o gyfres Bond ac mae gen i feddwl mawr o arddull gwneud ffilmiau Guy Ritchie.
A oes gennych chi stori ddiddorol neu ddoniol amdanoch eich hun?
Roeddwn yn arfer bod yn DJ, yn bennaf mewn partïon a phriodasau ac ambell glwb nos, yn teithio ar draws gogledd Cymru ac weithiau i Gilgwri (y Wirral). Un tro, roeddwn yn gwneud set mewn clwb nos bach, sydd bellach wedi cau, cyn y prif fand, a oedd yn fand newydd. Daethant ar y llwyfan a chwarae eu trac cyntaf, cân o’r enw ‘Charlie’. Pwy oedd y band newydd? Neb llai na The Prodigy!
Yn eich barn chi, beth yw’r heriau mae’r to presennol o fyfyrwyr addysg uwch yn eu hwynebu?
Mae myfyrwyr heddiw yn llywio byd sy'n gynyddol gymhleth a chysylltiedig. Un o'r heriau mwyaf yw dod o hyd i'w ffordd drwy'r sŵn, rheoli gofynion bywyd, manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd, a gwneud hynny ar adeg pan all perthnasoedd ystyrlon a rhyngweithio dynol dilys deimlo'n danbrisiedig weithiau.
Her sylweddol arall yw dysgu sut i ddefnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg mewn ffordd gyfrifol. Gall deallusrwydd artiffisial, er enghraifft, fod yn declyn hynod bwerus pan gaiff ei ddefnyddio mewn ffordd dda. Gall wella dysgu, cefnogi creadigrwydd, a gwella effeithlonrwydd. Yr allwedd yw ei gofleidio fel ffordd o ddyfnhau dealltwriaeth, yn hytrach na dibynnu arno i gymryd llwybrau byr neu wneud penderfyniadau peryglus sy'n tanseilio twf personol.
Ar y cyfan, mae angen i fyfyrwyr heddiw gydbwyso rhuglder digidol â meddwl beirniadol, gwytnwch a sgiliau rhyngbersonol cryf, a bydd y cyfan yn eu helpu i ffynnu yn eu hastudiaethau a'u gyrfaoedd yn y dyfodol.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd ar fin graddio eleni?
Peidiwch â chynhyrfu os nad ydych wedi darganfod eich cynllun bywyd erbyn graddio, does neb wedi gwneud hynny, mae rhai pobl yn well am flyffio nag eraill. Yr hyn sy'n bwysig yw cymryd y cam nesaf, hyd yn oed os yw'n gam bychan iawn.
Cofiwch fod yn chwilfrydig, byddwch yn ostyngedig, a daliwch ati i ofyn cwestiynau, yn enwedig y cwestiynau hynny rydych chi'n meddwl y “dylech” wybod yr ateb iddynt eisoes. A chofiwch, anaml y daw cyfleoedd gyda goleuadau'n fflachio. Mae'r cyfleoedd gorau’n aml yn dechrau'n dawel, ymhell cyn i chi sylweddoli eu bod yn bwysig.
Felly symudwch ymlaen gyda phwrpas, hyd yn oed os yw'r llwybr o'ch blaen yn edrych ychydig yn niwlog. Dyna lle mae'r pethau mwyaf diddorol fel arfer yn dechrau.