Fideo - Astudio gyda ni
Dewch i glywed gan ein staff a myfyrwyr am y profiad gwych o astudio Meddygaeth ym Mangor. (Mae'r fideo yn Saesneg ond gyda is-deitlau yn Gymraeg.)
Ein Hymchwil o fewn Meddygaeth i Raddedigion
Yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddiwallu anghenion clinigol difrifol. Ymysg y 10 Uchaf am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2022) ac mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.
Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd ac ymwrthiant canserau i therapïau, ond maent hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio â'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.