Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Diogelu rhag trychineb naturiol

Effaith ein hymchwil

Bydd canlyniadau project ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd, y mae Bangor yn gyfrannwr allweddol ato, yn helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng ein cefnforoedd a'n hatmosffer. Bydd hyn yn ei dro yn gwella’r gallu i ddarogan tywydd eithafol, ac yn y pen draw yn cyfarwyddo llywodraethau ble i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd a pholisïau newid tir.

Mae digwyddiadau tywydd eithafol, yn enwedig stormydd y gaeaf, wedi digwydd yn amlach ac yn amlach yn y degawd diwethaf. Ar draws gogledd Ewrop ac Asia, mae ymchwilwyr wedi sylwi bod y gaeafau caletach wedi cyd-daro â gorchudd rhew môr hynod o isel yn yr Arctig Barents a Kara Seas yn yr haf blaenorol.

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Swyddfa Dywydd y DU a rhwydwaith o wyddonwyr. Mae cyfraniad allweddol Bangor yn gwerthuso’r gwahanol brosesau cefnforol sy’n gosod tymheredd arwyneb y môr ac yn effeithio ar iâ’r môr yn nwyrain yr Arctig.

Mae gan y cefnfor swyddogaeth hanfodol yng nghyswllt yr hinsawdd a thywydd ac mae cyfraniad Bangor yn allweddol i ateb y cwestiynau hyn.

Dr Yueng-Djern Lenn ,  Darllenydd mewn Eigioneg Ffisegol, Prif Ymchwilydd Prifysgol Bangor ar gyfer ArctiCONNECT

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?