Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Trawsnewid iechyd meddwl

Effaith ein hymchwil

Mae Prifysgol Bangor wedi cael effaith fyd-eang ar ein lles ac rydym yn enwog yn rhyngwladol am ein heffaith ar ansawdd rhaglenni sy’n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar.

Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor oedd y ganolfan brifysgol gyntaf a sefydlwyd yn Ewrop, a hi hefyd oedd yn arwain rhaglen Meistr gyntaf y byd yn y maes hwn. Bellach mae technegau a ddatblygwyd gan ein hymchwilwyr yn cael eu defnyddio gan y mwyafrif o ganolfannau Ymwybyddiaeth Ofalgar ledled y byd, gan gael effaith fyd-eang.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau ein Prifysgol yng Nghymru yn benodol, mae’r Cwricwlwm i Gymru bellach yn caniatáu i Ymwybyddiaeth Ofalgar gael ei wreiddio yn y cwricwlwm a chaiff ei ddefnyddio fel dull ysgol gyfan.

Bu’r Ganolfan ar flaen y gad o ran darpariaeth hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar yn y gwasanaeth iechyd, gweithleoedd, y system gyfiawnder, mewn cyd-destunau polisi ac mewn addysg. Mewn gwirionedd mae Cwricwlwm Cymru bellach yn caniatáu ar gyfer Ymwybyddiaeth Ofalgar wrth addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac i'w ddefnyddio ym mhobman yn yr ysgol.

Yr Athro Rebecca Crane,  Athro mewn Seicoleg a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor

Am ddim!

Mae'r Brifysgol yn darparu sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar am ddim i fyfyrwyr

Ar ôl gweithio ym myd Addysg fel athrawes ysgol ac arweinydd am y rhan fwyaf o’m gyrfa, newidiodd fy nghyfeiriad yn llwyr ar ôl cwblhau’r MSc ym Mangor. Ymunais â thîm ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen a oedd yn edrych ar bob agwedd ar ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion. Gwnaeth y gefnogaeth a’r anogaeth ragorol a gefais gan Brifysgol Bangor y cyfle hwn yn realiti i mi ac ni allaf ddiolch digon i’m tiwtoriaid a’m cydfyfyrwyr. Profiad sy'n newid bywyd yn sicr!

Liz Lord MSc Adran Seiciatreg,  Graddedig o Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?