Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

 Jemima Letts

'Roeddwn i'n dysgu gan bobl oedd ar y rheng flaen mewn ymchwil newydd ym maes coedwigaeth.

Jemima Letts

Jemima Letts

Coedwigaeth (BSc), 2019
Coedwigwr Cynorthwyol yn Ystâd Chatsworth

Rwy'n gweithio fel rhan o'r tîm Coedwigaeth a Choedyddiaeth i reoli'r bron i 4,000 erw o goetir ar yr ystâd. 

Jemima Letts

Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mangor?
Pan ddes i Fangor ar Ddiwrnod Agored, syrthiais mewn cariad â’r campws a’r lleoliad ar unwaith. Dyma'r prif reswm i mi ddewis astudio ym Mangor ac nid prifysgol arall a oedd yn cynnig cwrs coedwigaeth. Bu gan Fangor raglen gradd coedwigaeth ers amser maith ac roedd maint yr ymchwil a wnaed yn y Brifysgol yn golygu fy mod yn dysgu gan bobl sydd ar flaen y gad ym meysydd ymchwil newydd a datblygol ym maes coedwigaeth. Mae Bangor ei hun yn lleoliad gwych, gyda chysylltiadau trafnidiaeth anhygoel ac yn agos i Barc Cenedlaethol Eryri. Roedd gan y cwrs coedwigaeth y dewis o ychwanegu blwyddyn lleoliad rhyngosod, sy'n golygu fy mod yn gallu cymryd blwyddyn i ffwrdd o astudio i roi'r hyn yr oeddwn yn ei ddysgu mewn cyd-destun ymarferol.

Pam ddewisoch chi eich cwrs penodol?
Yn y diwedd fe wnes i astudio coedwigaeth trwy gamgymeriad! Pan ddes i i orffen fy amser yn yr ysgol, roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau swydd a oedd yn cynnwys gweithio y tu allan ac roedd gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn rheoli amgylcheddau naturiol. Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil i gyrsiau rheoli cefn gwlad ehangach, deuthum ar draws y radd coedwigaeth ym Mangor ar UCAS drwy hap a damwain. Penderfynais fynd i ddiwrnod agored a dechreuais ymddiddori mewn coedwigaeth ar unwaith - roedd y syniad o dreulio pedair blynedd yn byw oddi cartref yng Nghymru, yn dysgu popeth am goed, yn swnio'n anhygoel i mi ac fe wnes i gais i Fangor ar gyfer ei chwrs coedwigaeth a chadwraeth gyda choedwigaeth. Ar ôl cael fy nerbyn i astudio coedwigaeth, darganfyddais yn fuan fod llawer mwy i reoli coed a choetiroedd nag y mae pobl yn sylweddoli!

Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor? 
Mae cymaint o bethau yn aros yn fy nghof o fy nghyfnod yn astudio ym Mangor. Fel rhan o fy nghwrs, fe aethom ni ar nifer enfawr o deithiau maes, yn lleol o amgylch gogledd Cymru, ac ymhellach i ffwrdd, ac roedd yn brofiad gwych cwrdd â choedwigwyr yn y byd go iawn a dysgu am yr heriau roedden nhw’n eu hwynebu a beth oedd swm a sylwedd eu swyddi. 
Roedd y gweithgareddau allgyrsiol oedd ar gael ym Mangor mor amrywiol - cefais gyfle i ddechrau dringo fel rhan o Gymdeithas Ddringo Bangor a hefyd ymwneud â Gerddi Botaneg y Brifysgol yn Nhreborth. Yn ystod fy ail flwyddyn, deuthum yn arweinydd cyfoed i helpu i groesawu myfyrwyr coedwigaeth newydd a mwynheais fy amser yn helpu pobl i ymgartrefu a threulio amser gydag arweinwyr cyfoed o feysydd pwnc eraill. Mae'r bobl y gwnes i gyfarfod â nhw ar fy nghwrs yn bobl rydw i'n dal i gadw mewn cysylltiad â nhw nawr. Mae coedwigaeth yn broffesiwn mor glos fel y dof ar draws bobl a astudiodd ym Mangor ym mhob man, gan gynnwys fy mhennaeth!

Sut wnaeth Bangor eich helpu i gael y swydd/gyrfa sydd gennych chi nawr?
Cefnogodd Prifysgol Bangor fi i gyflawni fy ngradd israddedig mewn coedwigaeth a alluogodd i mi wneud cais am swyddi reoli yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae'r enw da sydd gan y radd goedwigaeth ym Mangor hefyd yn help mawr! Roedd y gefnogaeth a gefais yn ystod fy astudiaethau yn ddi-fai ac rwy'n amau y byddwn wedi cael marc mor dda yn fy ngradd hebddi. Yn ystod fy amser yn astudio, roeddwn yn dioddef o broblemau iechyd eithaf difrifol, ond fe wnaeth cefnogaeth fy narlithwyr a staff cymorth o bob rhan o’r Brifysgol fy ngalluogi i barhau â’m gradd a gwneud newidiadau i’m galluogi i raddio! 
Dechreuais fy musnes fy hun hefyd pan oeddwn yn astudio, a rhoddodd y timau Cyflogadwyedd a Byddwch Fentrus ym Mangor gefnogaeth ac anogaeth aruthrol i mi - rhywbeth y byddwn wedi bod ar goll hebddo!

Beth ydy’ch gwaith yn eich swydd bresennol?
Ar hyn o bryd fi yw'r Coedwigwr Cynorthwyol ar Ystâd Chatsworth yn Swydd Derby. Rwy'n gweithio fel rhan o'r tîm Coedwigaeth a Choedyddiaeth i reoli'r bron i 4,000 erw o goetir ar yr ystâd. Rydym yn cynnal rhaglen dorri coed flynyddol, gan gynaeafu tua 7,000 tunnell o goed bob blwyddyn gyda'n busnes cynaeafu mewnol. Rydym yn plannu tua 90,000 o goed bob blwyddyn ar gyfartaledd, i ddisodli’r rhai a dorrwyd, a thros y 10 mlynedd diwethaf rydym ni hefyd wedi creu 96 hectar o goetir newydd. Rwy’n gyfrifol am reoli busnes coed tân yr ystâd, gan gynhyrchu a dosbarthu coed tân i denantiaid, trigolion lleol a busnesau drwy gydol y flwyddyn. Mae fy ngwaith hefyd yn cynnwys llawer o waith allgymorth, gan greu adnoddau i esbonio coedwigaeth i ymwelwyr, trigolion a grwpiau lleol. Rwy’n wirioneddol angerddol am dechnoleg mapio a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hyn yn rhywbeth rwy’n gwneud llawer ohono fel rhan o’m swydd, gan gwblhau arolwg coedwigoedd a gwaith mesur, gan fapio fy nghanlyniadau i greu data coedwigaeth cywir.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Ewch amdani! Roedd astudio ym Mangor yn brofiad gwych ac yn rhywbeth y byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n ei ystyried. Mae'r cyfleusterau academaidd a'r addysgu yn wych, yn enwedig mewn Coedwigaeth a Gwyddorau Naturiol. Mae'r lleoliad yn ysblennydd ac mae'r amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau i gymryd rhan ynddynt yn aruthrol! Mae’r rhwydweithiau cymorth sydd ar gael yn golygu os aiff unrhyw beth o’i le, mae wastad rhywun i helpu, ac mae’r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud ym Mangor yn ffrindiau oes.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?