Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Jake Sallaway Costello

Gall gwyddorau cymdeithas fod yn rhan o ddatrys unrhyw broblem.

Jake Sallaway-Costello

Jake Sallaway-Costello 

Cyd-gyfarwyddwr The Real Junk Food Project Central
Astudiodd: BSc Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd, 2015

Roedd cynnwys y cwrs ym Mangor yn amrywiol o ran pynciau ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i astudio meysydd seicoleg nad oeddwn wedi ymdrin â nhw wrth wneud Lefel A.

Jake Sallaway-Costello

"Wnes i arbenigo mewn seicoleg iechyd, ac ar ôl hynny wnes i ganolbwyntio fwy ar seicoleg maethol, gan weithio i Food Dudes Health yn rhan amser yn ystod fy mlwyddyn olaf. 

"Ar ôl graddio, gweithiais i'r Ganolfan Ymchwil Bwyta a Gweithgaredd, a arweiniodd at symud i Birmingham i wneud PhD mewn iechyd cyhoeddus. 

“Pan oeddwn ym Mangor, cymerais ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor a manteisio’n helaeth ar yr holl gefnogaeth a gweithgareddau a gynigiwyd gan y tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd, a oedd yn hynod galonogol. 

“Hefyd, cefais wersi Cymraeg wythnosol yng Ngholeg Menai a mwynheais gymryd rhan yn y gweithgareddau i 'ddysgwyr' a gynhaliwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

“Ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Nottingham, lle rwy’n gweithio yn yr Is-adran Bwyd, Maeth a Deieteg fel arweinydd y cwricwlwm ar gyfer maeth cymdeithasol ac ymddygiadol. Fel yr unig seicolegydd yn fy nhîm, rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghydweithwyr - biocemegwyr maethol, dietegwyr a gwyddonwyr bwyd yn bennaf - i gysylltu fy addysgu gyda "pham" mewn perthynas ag ymddygiad bwyta, a "beth" o ran maetholion a'r system fwyd. 

“Hefyd, sefydlais fenter gymdeithasol o’r enw ‘The Real Junk Food Project Central’ yn 2017, gan roi canfyddiadau fy astudiaethau ar waith yn y byd go iawn, ac mae’n dal i redeg yn llwyddiannus ac yn cynhyrchu dros 150,000 o brydau bwyd y flwyddyn ar gyfer pobl sy’n agored i niwed yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

“Cefais ddarlithwyr gwych yn yr Ysgol Seicoleg a ddylanwadodd yn uniongyrchol ar sut rwy’n dysgu a chefnogi fy myfyrwyr heddiw. Mae gan yr ysgol gymuned frwd o ysgolheigion sy'n gweld y potensial enfawr mewn seicoleg, ac rwy'n credu mai dyma pam fy mod bellach yn 'gweld seicoleg ym mhopeth', ac yn gwerthfawrogi posibiliadau swyddogaeth gwyddorau cymdeithas yn datrys unrhyw broblem."

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?