Fy ngwlad:
Pontio and Main Arts at night

Llwyddiant graddedigion

Lindsay Walker ac Enlli Fychan Owain

Rydym mor falch ein bod wedi ennill BAFTA!

Lindsay Walker ac Enlli Fychan Owain

Lindsay Walker 

Cyfarwyddwr Llawrydd a Golygydd Cynorthwyol 
Astudiodd: BA Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, 2013; MA Sinematograffeg a Chynhyrchu Ffilm/Fideo, 2014  

Enlli Fychan Owain 

Cynhyrchydd 
Astudiodd: BA Astudiaethau Creadigol, 2013

 

Mae ffilm a grëwyd gan ddwy o raddedigion Prifysgol Bangor, sy'n adrodd hanes boddi pentref Capel Celyn yng Ngwynedd yn y 1960au, wedi ennill gwobr BAFTA Cymru yn y categori Ffilm Fer. 

Mae The Welshman yn rhaglen ddogfen am fywyd Owain Williams, un o sylfaenwyr Mudiad Amddiffyn Cymru  a gafwyd yn euog am osod dyfais ffrwydrol ar safle cronfa ddŵr Tryweryn. Cafodd y ffilm ei chreu gan raddedigion Prifysgol Bangor, y cyfarwyddwr Lindsay Walker a'r cynhyrchydd Enlli Fychan Owain, sy'n ferch i Owain Williams.

Lindsay Walker

“Gwnaeth fy astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor fy helpu i fod yn rhagweithiol, y peth mwyaf a ddysgodd i mi oedd yr harddwch sydd i’w gael wrth gydweithio. Gwnaeth fy ngalluogi i archwilio fy nghreadigrwydd a rhoddodd i mi lwybr i'r diwydiant. 

“Rwyf wrth fy modd fod fy ffilm ddiweddaraf The Welshman wedi ennill BAFTA! Dysgais yn y brifysgol hefyd i fod yn ddyfeisgar - llwyddais i wneud The Welshman heb unrhyw gyllideb ac mae hynny'n bendant yn sgil y gwnes ei feistroli gyda fy nghyfoedion ym Mangor. “ 

Enlli Fychan Owain Producer 

“Wnes i fwynhau Astudiaethau Creadigol oherwydd rhoddodd gyfle i mi roi cynnig ar ychydig o wahanol elfennau a oedd i gyd yn ymwneud â fy niddordeb yn y cyfryngau. Dysgais lawer am gysylltiadau cyhoeddus ac roedd hyn yn help mawr i ni wrth hyrwyddo The Welshman ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros 25,000 wedi ei weld mewn 2 ddiwrnod, bu bron i drelar y ffilm fynd yn feirol!”