Pontio a Phrif Adeilad y Celfyddydau yn y nos

Llwyddiant graddedigion

Luke Barrett

Gwnaeth Prifysgol Bangor fy mharatoi i lwyddo.

Luke Barrett

Luke Barrett 

Rheolwr Adnoddau Dynol y DU ac Iwerddon yn Wayfair
Astudiodd: BSc Cadwraeth Amgylcheddol gyda Phrofiad Rhyngwladol, 2016

Pan ddewisais fy nghwrs, roeddwn yn gwybod bod gen i ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a sbarduno newid, ac roeddwn eisiau dilyn fy niddordeb. Gwelais, wrth i'r cwrs esblygu, ei fod yn daith i raddau helaeth, nid yn unig i ddysgu ond hefyd o ran hunan-wireddu a darganfod.

Luke Barrett

"Mae'n anodd dweud beth oedd y rhan orau am fy nghyfnod ym Mangor. Roeddwn wrth fy modd nid yn unig gyda fy nghwrs, yr hyblygrwydd, fy nhiwtor a’r darlithwyr, ond manteisiais hefyd ar lawer o gyfleoedd eraill a gynigiwyd. Astudiais dramor yn Vancouver; fe ges fynd i Dde Korea ar raglen iaith a diwylliant; gweithiais gydag aelodau anhygoel o’r tîm ar interniaeth yn Lab Cynaliadwyedd y Brifysgol. Gwnaeth Prifysgol Bangor fy mharatoi go iawn i lwyddo! Wnes i hefyd gyfarfod â fy mhartner pan o’n i yn y brifysgol, roedd o newydd orffen MSc ym Mangor pan wnaethon ni gyfarfod. 

"Er nad ydw i’n gweithio mewn swydd nac yn y sector roeddwn wedi ei ddisgwyl i ddechrau, dwi'n gallu tynnu ar y sgiliau a'r wybodaeth a'u defnyddio nhw’n gyson. Yn fy swydd flaenorol yn Amazon, cyflwynais fenter gynaliadwyedd yn canolbwyntio ar ddull economi gylchol o weithredu rheoli gwastraff. Rwy’n defnyddio damcaniaethau amgylcheddol yn gyson wrth gwblhau cynlluniau yn ymwneud â phobl, gan edrych ar ddulliau cynaliadwy o welliant parhaus.

"Rwyf yn awr yn Rheolwr Adnoddau Dynol ar gyfer y DU ac Iwerddon yn Wayfair. Rwy'n cefnogi'r adrannau gwerthu a gwasanaeth trwy bartneriaeth effeithiol i integreiddio egwyddorion a blaenoriaethau busnes i bolisïau yn ymwneud â phobl, i ehangu'r farchnad Ewropeaidd, yn ogystal ag arwain fy nhîm a'u cynorthwyo yn eu datblygiad. Mae fy swyddi blaenorol yn cynnwys swyddi Rheoli ac Adnoddau Dynol yn Amazon, a swydd fel Partner Busnes Adnoddau Dynol ar gyfer TikTok, ar ôl cael fy nenu i’r swydd gan benhelwyr.

“Mae ysgrifennu hyn wedi dod â llu o atgofion yn ôl am yr amser gwych ges i a’r bobl anhygoel wnes i eu cyfarfod ym Mangor. Fydda i byth yn gallu diolch digon iddyn nhw am fy rhoi i ar ben ffordd. Ni allwn fyth ddychmygu sut beth fyddai bywyd yn awr pe bawn heb ddewis Prifysgol Bangor; heb amheuaeth mae'n un o'r penderfyniadau gorau i mi eu gwneud erioed." 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?