Fy ngwlad:

Canllawiau Dysgu a Llythrennedd Proffesiynol 

Pecyn Gwaith 1 
Mae Pecyn Gwaith 1 yn canolbwyntio ar adeiladu gallu cenedlaethol mewn addysgu llythrennedd seiliedig ar dystiolaeth drwy ddysgu proffesiynol (DP), canllawiau llythrennedd, ac integreiddio o fewn Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). O dan arweiniad Prifysgol Efrog, gyda chyfraniadau gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, UCL, a BookTrust Cymru, bydd y maes hwn yn cynnig datblygu proffesiynol dwyieithog i athrawon ac arweinwyr ysgol ledled Cymru. 

Mae gweithgareddau’n cynnwys datblygu a threialu modiwlau DP ar ddarllen cynnar (yn cynnwys ffoneg systematig), rhuglder darllen, dealltwriaeth a llafaredd; gwreiddio’r rhain mewn rhaglenni AGA; a chyd-greu deunyddiau canllaw dwyieithog i ysgolion ac awdurdodau lleol. Erbyn diwedd y project, bydd Pecyn Gwaith 1 yn cynnig model dysgu proffesiynol dwyieithog graddadwy sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru.