Ein Sylfaen Tystiolaeth: Gwyddoniaeth Darllen a Llythrennedd Strwythuredig
Mae CAL:ON Cymru wedi’i seilio ar Wyddoniaeth Darllen a Llythrennedd Strwythuredig - corff mawr o ymchwil o feysydd gwyddoniaeth wybyddol, ieithyddiaeth, ac addysg sy’n esbonio sut mae plant yn dysgu darllen ac ysgrifennu, a sut i’w haddysgu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Wrth gymhwyso hyn i’r ystafell ddosbarth, cyfeirir at y dull hwn weithiau fel llythrennedd strwythuredig.
Mae ein gwaith felly yn cefnogi ysgolion i:
Addysgu darllen ac ysgrifennu yn eglur ac yn systematig.
Meithrin gwybodaeth am y sgiliau a’r cynnwys sy’n sail i lwyddiant llythrennedd. Meithrin cymhelliant, hyder, a chariad at ddarllen drwy helpu pob dysgwr i brofi llwyddiant ac ystyr yn yr hyn y maent yn ei ddarllen.
Defnyddio asesu parhaus i lywio addysgu a monitro cynnydd.
Mae ein rhaglenni, ein dysgu proffesiynol, a’n hasesiadau wedi’u cynllunio i gefnogi addysgu penodol:
Iaith lafar a llafaredd: Datblygu iaith lafar a geirfa fel sylfaen ar gyfer llythrennedd.
Ffoneg systematig (gan gynnwys ffoneg synthetig): Addysgu perthnasoedd llythyren-sain mewn ffordd gronnus, wedi’i dilyniannu’n glir.
Rhuglder: Meithrin cywirdeb, awtomatigrwydd a mynegiant wrth ddarllen.
Sillafu ac ysgrifennu: Addysgu amgodio, morffoleg, gramadeg a chyfansoddiad.
Darllen a deall: Cefnogi disgyblion i wneud ystyr o destun drwy ddatblygu gwybodaeth, geirfa a sgiliau rhesymu.
Gyda’i gilydd mae’r cydrannau hyn yn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc – gan gynnwys y rhai sy’n cael trafferth – yn derbyn cyfarwyddyd penodol, cronnol, wedi’i seilio ar dystiolaeth, sy’n meithrin llwyddiant mewn darllen ac ysgrifennu. Ein nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn dod yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog, sy’n mwynhau darllen ac ysgrifennu at ddiben ac at bleser.