Mae CAL:ON Cymru yn datblygu pecyn cynhwysfawr o adnoddau i gefnogi addysgu llythrennedd mewn ysgolion. Mae’r adnoddau’n cynnwys rhaglenni dosbarth cyfan ac ymyriadau ar gyfer dysgwyr o’r dosbarth derbynhyd at oedran uwchradd. Mae CAL:ON Cymru hefyd yn datblygu modiwlau Dysgu Proffesiynol a chanllawiau llythrennedd ar gyfer addysgwyr, ynghyd ag asesiadau i fonitro lefelau llythrennedd a chynnydd dysgwyr. O fisMedi 2027 ymlaen, bydd yr adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru drwy Hwb. Fodd bynnag, gall ysgolion gael mynediad cynnar atynt drwy gymryd rhan yn y rhaglen yn ystod 2026.
Mae CAL:ON Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer llythrennedd sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella deilliannau llythrennedd ledled Cymru.
Mae popeth y mae CAL:ON Cymru yn ei gynhyrchu wedi’i seilio ar dystiolaeth ac ar egwyddorion Gwyddoniaeth Darllen. Yn ystod y cyfnod mynediad cynnar hwn, bydd y ganolfan yn gweithio gyda data ac adborth ganysgolion, gan alluogi ei thîm o ymchwilwyr ac athrawon i fireinio’r adnoddau cyn eu cyflwyno’n genedlaethol.
Mae holl ddeunyddiau CAL:ON Cymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac wedi’u datblygu’n ddwyieithog. Mae hynny’n sicrhau eu bod wedi’u gwreiddio yn iaith a diwylliant Cymru.
I gael y cyfle i ddefnyddio’r adnoddau llythrennedd hyn o fis Medi 2026 ymlaen ac i helpu i lywio datblygiad y pecyn cymorth cenedlaethol hwn, gwahoddir eich ysgol i lenwi’r ffurflen sydd wedi’i chysylltu isod/yma. Nodwch ar y ffurflen pa brosiect yr hoffai’ch ysgol gymryd rhan ynddo. Gallwch ddewis cymryd rhan ym mhob rhaglen neu ddewis un yn unig, yn ôl eich dewis. Atebwch cyn 26ain Mehefin os ydych chi eisiau caelmynediad at adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd a 10fed Gorffennaf os ydych chi eisiau cael mynediad at adnoddau ar gyfer yr ysgolion gynradd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau CAL:ON Cymru, ewch i’r wefan. Ar gyfer ymholiadau penodol ynghylch cymryd rhan, cysylltwch â calonysgol@bangor.ac.uk
Ewch i wefan CAL:ON Cymru.