Blog: Beth yw Darllen i Ddysgu a sut y bydd o gymorth?
gan Sarah Loader
Oherwydd bod tua thraean o bob dosbarth Blwyddyn 7 yng Nghymru angen cymorth ychwanegol – cyfran uwch nag yng ngweddill y DU – mae CAL:ON Cymru (Canolfan Addysgu Llythrennedd Cymru: Offer tuag at Newid) yn creu rhaglen lythrennedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ysgolion uwchradd (Blynyddoedd 7–11). Y meysydd pryder mwyaf yw gwybodaeth am eirfa a sgiliau deall – yn enwedig meddwl ar lefel uwch, yn hytrach na dim ond dadgodio syml. I'r perwyl hwnnw, mae Darllen i Ddysgu yn ddatrysiad dwys, un tymor, i'r dosbarth cyfan sy'n darparu datblygiad geirfa a sgiliau deall arwahanol i helpu i gau'r bwlch gwybodaeth sy'n bygwth mynediad at gwricwlwm arbenigol yr Uwchradd. Bydd cynnydd i bawb wrth wraidd y rhaglen – o'r rhai sy'n cael yr anhawster mwyaf gyda llythrennedd, i'r rhai sydd angen eu hymestyn.
Yr Heriau
Mae angen – os yw Darllen i Ddysgu am fod yn effeithiol – cael dealltwriaeth wirioneddol o ddarllenwyr yn eu harddegau, yr heriau penodol maen nhw'n eu hwynebu, a'r gyrwyr sy'n eu cymell. Yn rhwystredig, wedi'u datgysylltu a'u difreinio; mae angen mwy o resymau ar y garfan hon i ddarllen a mynediad at destunau ystyrlon, deniadol sy'n addas i'w hoedran. Rydym yn gwybod hyn. Fodd bynnag, mae'r anghenion hyn wedi'u clymu o fewn cyd-destun uwchradd cymhleth, lle mae'r her llythrennedd yn fwy a'r datblygiad sgiliau sylfaenol yn llai. Os nad yw'r sgiliau craidd ar waith erbyn Blwyddyn 7, ychydig o gyfle sydd i ddal i fyny ac mae'r bwlch gwybodaeth yn ehangu. Yn wir, gwelir y diffyg geirfa a sgiliau dealltwriaeth ar draws y bwrdd ym Mlwyddyn 7 ac mae'n ymestyn yr holl ffordd hyd at TGAU. Nid oes prinder angen, ond mae prinder rhaglenni sy'n ymateb yn uniongyrchol i'r angen hwnnw ac i'r wyddoniaeth sy'n ymwneud â darllen yn ehangach.
Yr Ateb
Gyda hynny mewn golwg, mae Darllen i Ddysgu yn cefnogi'n strategol y dulliau canlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer caffael iaith gan fyfyrwyr hŷn:
- astudio geiriau (ffonoleg, morffoleg, etymoleg, cystrawen, semanteg, a chyd-destun)
- rhuglder (awtomatigrwydd a chyflymder)
- geirfa (ymwybyddiaeth geiriau)
- dealltwriaeth (sgiliau meddwl uwch a metawybyddiaeth)
- cymhelliant ac ymgysylltiad.
Mae pob dull yn gyd-ddibynnol ar eraill: mae dealltwriaeth yn dibynnu ar ruglder, mae rhuglder yn dibynnu ar wybodaeth geirfa, mae gwybodaeth geirfa yn dibynnu ar ddealltwriaeth. Maent wedi'u cydblethu â'i gilydd ac mae methu â chydnabod hynny yn tanseilio'r adnodd darllen effeithiol i ddysgwyr hŷn. Nod Darllen i Ddysgu yw datblygu'r sgiliau ar yr un pryd, gan gynnig dull cadarn, holistig gyda chyfarwyddyd penodol ar gyfer pob maes.
Mae Darllen i Ddysgu yn defnyddio fformat ffuglen fflach i wrth-ddweud unrhyw ragdybiaethau negyddol posibl am ddarllen. Mae’r fformat yn cipio ennyd o stori fwy nas adroddir - pob testun yn neidio’n syth i mewn i’r digwyddiadau ac yn aros yn benagored. Mae hyn nid yn unig yn cynnig testunau gafaelgar, dramatig y gellir eu darllen ar un eisteddiad, ond maent yn galluogi trafod testun ar lefel uchel. Mae’r arddulliau yn amrywio o straeon ditectif i’r ffeithiol, yn cynnwys testunau sy’n mynd i’r afael â phynciau fel niwroamrywiaeth, cydsyniad a hunaniaeth rywiol, ac felly’n sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at gynnwys sy’n berthnasol, yn ystyrlon ac yn golygu rhywbeth iddynt.
Gwahaniaethu â Chymorth
Fodd bynnag, nid oes gan bob dysgwr yr un gallu – mae ysgolion uwchradd yn wynebu ystod eang o alluoedd, yn aml o fewn un dosbarth. Felly, mae gwahaniaethu sy'n cael ei yrru gan ddiagnosis yn ganolog i elfennau darllen ac ysgrifennu'r rhaglen. Mae Darllen i Ddysgu yn cynnig pedwar cam darllen gwahanol gyda thestunau pwrpasol a chanllawiau athrawon wedi'u hysgrifennu ar gyfer pob cam. Er bod y testunau'n mynd yn fwy heriol yn raddol o ran geirfa, hyd, cystrawen a thema, mae'r nodiadau athrawon yn darparu nifer llai o sgaffaldiau wrth i fedr y dysgwyr wella, gan fynnu mwy o annibyniaeth ganddynt. Mae'r gefnogaeth i athrawon wedi'i hysgrifennu gyda dealltwriaeth o'r diffyg posibl o arbenigedd mewn caffael iaith ymhlith gweithwyr proffesiynol yn y sector uwchradd (hyd yn oed ar gyfer arbenigwyr Cymraeg).
Llafaredd wrth Graidd Popeth
Daw’r dosbarth ynghyd drwy elfen darllen yn uchel sydd yn gynaliadwy a strwythuredig – dan arweiniad yr athro/athrawes, a gynlluniwyd i gynyddu amlygiad i eirfa a ffurfioli thema ganolog o lafaredd. Gyda dealltwriaeth gwrando yn rhagori ar y gallu i ddadgodio , mae hyn yn cynnig datblygiad sgiliau meddwl uwch gyda llai o bethau i dynnu sylw. Gydag effaith mor amlwg ar eirfa a dealltwriaeth, mae gan lefaredd le sylfaenol yn y cwricwlwm uwchradd Cymraeg, ond gall fod yn anodd ei ddatblygu mewn ffordd gydlynol a systematig. Mae Darllen i Ddysgu yn darparu fframwaith ar gyfer trafodaeth a dadansoddi, o fewn y cyd-destun darllen ar y cyd a thrwy gymhwyso’r Model Darllen Cilyddol.
Ennyn Cariad at Ddarllen
Er bod yr holl ffactorau hyn yn helpu i adeiladu menter ddarllen strategol ac effeithiol, mae angen ffactor cymhelliant wrth wraidd adnoddau darllen llwyddiannus – oherwydd beth yw pwynt sgiliau darllen os nad yw’r cynnwys yn un y mae’r dysgwyr wir eisiau mynd i’r afael ag ef? Dylai profiad darllen cadarnhaol fod yn ganlyniad eithaf Darllen i Ddysgu, oherwydd os ydym am gael unrhyw effaith sylweddol a chynaliadwy, mae angen i ni newid canfyddiad pobl ifanc o ddarllen, yn enwedig i'r rhai sydd wedi cael trafferth teimlo'n rhan o'r byd hwnnw.