I bwy mae hwn? Dosbarth cyfan Blwyddyn 7
Pa mor hir yw'r rhaglen? Tair sesiwn yr wythnos am 12 wythnos
Pa adnoddau a ddarperir ? Adnoddau sy'n datblygu caffael geirfa a sgiliau meddwl uwch, wedi'u gwahaniaethu ar bedwar lefel i gefnogi amrywiaeth o anghenion dysgwyr.
Mae Darllen i Ddysgu yn darparu cefnogaeth ar gyfer rhuglder, geirfa, a sgiliau deall i ddysgwyr Blwyddyn 7. Mae'r rhaglen yn cynnig ateb i'r dosbarth cyfan, gydag elfen darllen mewn grwpiau bach i alluogi cefnogaeth wedi'i thargedu ac ymestynnol lle mae ei hangen fwyaf.
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar addysgu geirfa wedi'i thargedu i gefnogi caffael iaith ac ymwybyddiaeth ddyfnach o eiriau. Mae hefyd yn cefnogi datblygu sgiliau meddwl uwch-drefn trwy'r Dull Darllen Cilyddol. Mae testunau deniadol, sy'n briodol i oedran, wrth wraidd pob gwers, gyda phedwar cam allu ieithyddol gwahanol i ddiwallu gwahanol anghenion, gyda'r nod o ysgogi hyd yn oed y darllenwyr mwyaf amharod.
Bydd y rhaglen yn rhedeg am oddeutu 12 wythnos, gyda sesiynau'n cael eu cyflwyno dair gwaith yr wythnos gan staff ysgol hyfforddedig.
Byddwn yn sicrhau bod ein holl adnoddau ar gael ym mis Medi 2026, a byddwn yn treialu eu heffeithiolrwydd ar yr un pryd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad i unrhyw un o'n hadnoddau a chymryd rhan yn y cyfnod prawf ym mis Medi 2026, cysylltwch â calonysgol@bangor.ac.uk