Ar gyfer pwy mae hwn? Derbyn - y dosbarth cyfan
Pa mor hir yw'r rhaglen? 20 wythnos
Pa adnoddau a ddarperir? Gweithgareddau iaith a darllen sy'n canolbwyntio ar ddatblygu geirfa, sgiliau gwrando a sgiliau naratif.
Rhaglen iaith a’i ddatblygwyd gan awduron y rhaglen Ymyrraeth Iaith Gynnar Nuffield (NELI). Mae’r rhaglen dosbarth gyfan yn cael ei chyflwyno i blant yn y Dosbarth Derbyn ar draws ysgolion yng Nghymru.
Bydd y rhaglen yn cael ei dysgu i'r dosbarth cyfan fel rhan o wersi arferol. Bydd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau iaith a darllen byr, difyr, bob dydd dros tua 20 wythnos. Mae'r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu geirfa, sgiliau gwrando a sgiliau naratif.
Bydd y rhaglen hon yn darparu rhaglen addysgu iaith strwythuredig i ddosbarthiadau cyfan i gryfhau datblygiad a sgiliau iaith cynnar plant.
Byddwn yn sicrhau bod ein holl adnoddau ar gael ym mis Medi 2026, a byddwn yn treialu eu heffeithiolrwydd ar yr un pryd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mynediad i unrhyw un o'n hadnoddau a chymryd rhan yn y cyfnod prawf ym mis Medi 2026, cysylltwch â calonysgol@bangor.ac.uk