Fy ngwlad:

Ymyriadau Iaith a Llythrennedd 

Pecyn Gwaith 2 
Mae Pecyn Gwaith 2 yn cynnig rhaglenni iaith a llythrennedd seiliedig ar dystiolaeth sy’n addas i’w defnyddio mewn dosbarth cyfan ac mewn ymyriadau grŵp bach. Bydd y rhain yn cael eu gwerthuso’n llawn drwy hap-dreialon dan reolaeth i’w defnyddio ar raddfa fawr ledled Cymru ac maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg.  

O dan arweiniad Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad ag Oxford Education & Assessment, a Phrifysgol Efrog, bydd y gwaith treialu hwn yn profi effeithiolrwydd rhaglenni grŵp bach a dosbarth cyfan, gan ddarparu tystiolaeth gadarn a mesuradwy o’u heffaith ar iaith lafar, cywirdeb a rhuglder darllen, a dealltwriaeth wrth ddarllen.  

Y nod yn y pen draw yw sefydlu cyfres o ymyriadau rhaglenni iaith a llythrennedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg i bob ysgol yng Nghymru, er mwyn sicrhau mynediad teg i adnoddau o ansawdd uchel, seiliedig ar dystiolaeth i bob dysgwr.