Rydym yn adeiladu rhwydwaith cenedlaethol o ysgolion sydd wedi ymrwymo i’n helpu ni i ddeall sut gall adnoddau CAL:ON helpu i wella canlyniadau llythrennedd i bob dysgwr.
Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf, bydd gan ysgolion CAL:ON fynediad i:
- Rhaglenni ac ymyriadau dwyieithog sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wedi’u datblygu a’u profi drwy ymchwil cenedlaethol.
- Dysgu Proffesiynol (DP) i athrawon, cynorthwywyr addysgu ac arweinwyr ysgol, gyda ffocws ar wyddoniaeth darllen, datblygiad iaith, arferion llythrennedd cynhwysol, a dulliau addysgu effeithiol.
- Offer asesu digidol yn cynnwys Sgrîn Iaith, Sgrîn Darllen, a Sgrîn Deall i adnabod disgyblion sydd mewn perygl ac i olrhain cynnydd ar draws yr ystod gallu hwn.
- Cefnogaeth a chydweithio parhaus trwy’r Hyb Llythrennedd CAL:ON cenedlaethol ar Hwb, gyda mynediad at adnoddau, enghreifftiau a rhwydweithiau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â rhwydwaith ysgolion CAL:ON Cymru, anfonwch e-bost at ysgolcalon@bangor.ac.uk
Am ymholiadau mwy cyffredinol am y project, anfonwch e-bost at calon@bangor.ac.uk