Prosiect Egni
- Lleoliad: M-SParc, Ynys Môn
Mae'r cynllun i godi ail adeilad yn cymryd cam ymlaen wrth i ddyluniadau’r adeilad newydd gael eu datgelu am y tro cyntaf. Nod y project yw defnyddio cryfder academaidd Prifysgol Bangor ac arbenigedd busnes M-SParc i greu sylfaen economaidd amrywiol a ffyniannus, i helpu’r rhanbarth sicrhau dyfodol carbon isel. Mae’r ffocws ar greu swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i uwchsgilio. Bydd y project, sef Project Egni, yn sbarduno datblygiad economaidd.
Bydd yr ail adeilad yn ganolbwynt i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) a gweithgynhyrchwyr mwy o faint yn y sector carbon isel. Mae llwyddiant M-SParc yn deillio o allu rhoi cefnogaeth bwrpasol ac arbenigol i’w cwmnïau tenant i’w helpu nhw dyfu, ac yn ei dro eu helpu nhw i greu gyrfaoedd sy’n talu cyflogau da yn y rhanbarth. Cafodd dros 200 o gyfleoedd cyflogaeth newydd a 60 o leoliadau uwchsgilio gwaith eu creu ers i’r parc agor yn 2018.
Agwedd allweddol ar y project yw twf ymchwil carbon isel y Brifysgol, gan gynnwys y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI). Bydd y buddsoddiad yn creu ecosystem arloesi bwerus i bontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd a chymwysiadau’r byd go iawn, a bydd yn denu’r doniau gorau a buddsoddiadau pellach trwy gynnwys neuadd arloesi fawr a labordy dadansoddi deunyddiau pwrpasol.
Dywedodd Michael Flanagan, Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Bangor ac arweinydd y project Egni, “Trwy fanteisio ar gryfder academaidd ac arbenigedd busnes, bydd yr adeilad newydd yn creu swyddi o ansawdd uchel, cyfleoedd uwchsgilio, ac yn meithrin ecosystem arloesol sy’n pontio ymchwil academaidd â chymwysiadau’r byd go iawn, ac yn sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth”.
Ychwanegodd Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel M-SParc, “Mae'n wych gallu rhannu dyluniadau cychwynnol yr ail adeilad fel hyn. Bu tîm y project yn gweithio'n galed i ddylunio adeilad ymarferol sy'n cyd-daro â phrif adeilad eiconig M-SParc ond sy’n meddu ar ei hunaniaeth ei hun. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â chyfleoedd newydd i'r rhanbarth i sicrhau gyrfaoedd cyffrous sy'n talu cyflogau da i bobl Gogledd Cymru.”
Mae Egni yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru - Rhaglen Ynni Carbon Isel. Bydd y datblygiad yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd gwerth uchel, gan ddenu buddsoddiad i'r rhanbarth, yn ogystal â chyfrannu at gyrraedd targedau sero-net. Mae £3.94m wedi'i ddyrannu gan Uchelgais Gogledd Cymru i gefnogi'r prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol ar ôl caffael.
Disgwylir i'r gwaith o adeiladu adeilad Egni ddechrau yn 2026 ac mae disgwyl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2027.
Ysgol Fusnes Albert Gubay
- Lleoliad: Adeilad Friars, Ffordd Ffriddoedd
- Cyllid: Albert Gubay Foundation
Subject to planning permission.
Crynodeb o’r Project
Estyniad newydd arfaethedig i hen adeilad Ysgol Friars ar gyfer Ysgol Fusnes newydd, sy'n cynnwys 2 ddarlithfa fawr, 2 ystafell addysgu fawr, ystafell fasnachu, 2 ystafell gymdeithasol fawr, ystafelloedd grŵp, swyddfeydd gweinyddol, ystafelloedd ategol, storfa allanol i feiciau a llwybr newydd i adeilad Reichel.
Ardal i’w Adnewyddu: 1,329m²
Amcangyfrif o ddyddiad dechrau’r gwaith ar y safle: Q2 2026
Amcangyfrif o ddyddiad agor yr adeilad: Medi 2027
Mae’n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi rhodd nodedig o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay, sef y rhodd fwyaf yn hanes y sefydliad.
Bydd y cyfraniad hael hwn yn galluogi’r Brifysgol i sefydlu Ysgol Fusnes Albert Gubay, a fydd yn gyfleuster o’r radd flaenaf wedi’i leoli ar safle hen Ysgol Friars. Mae’r gwaith i drawsnewid y safle ar y gweill, a fydd yn cadw cymeriad allanol a chyfanrwydd hanesyddol yr adeilad gwreiddiol. Bydd y datblygiad newydd yn cysylltu'n uniongyrchol â'r campws presennol, sy'n cynnwys adeilad Reichel a safle Ffriddoedd y Brifysgol. Bydd caffael, adnewyddu a datblygu’r adeilad a’r safle hanesyddol hwn yn cynnig cyfle cyffrous iawn i greu ysgol fusnes sy’n arwain y sector, yn ogystal ag adnewyddu adeilad ac iddo arwyddocâd hanesyddol ym Mangor.
Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn esiampl o arloesedd, gan ddarparu cyfleusterau modern i fyfyrwyr mewn lleoliad gwych a fydd yn ysbrydoli ac yn arfogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arweinwyr.
Bydd y rhodd hon yn golygu y gall Ysgol Busnes y Brifysgol symud i gyfleuster deinamig a modern. Bydd Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay yn meithrin rhaglenni arloesol a fydd yn paratoi myfyrwyr i ffynnu yn yr economi fyd-eang sy'n datblygu'n gyflym. Bydd yn cynnwys mannau dysgu blaengar a hybiau cydweithredol a ddyluniwyd i annog creadigrwydd, meddwl beirniadol ac entrepreneuriaeth.
Diolchodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke, am y rhodd hael, gan ddweud: “Mae’r weithred ryfeddol hon o haelioni yn adlewyrchu ymrwymiad Albert Gubay drwy gydol ei oes i rymuso entrepreneuriaid y dyfodol. Mae’n briodol iawn y bydd yr Ysgol newydd yn dwyn ei enw, gan sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol.”
Aeth yr Athro Burke yn ei flaen i ddweud: “Bydd y rhodd hon nid yn unig yn dyrchafu enw da Prifysgol Bangor fel canolfan o ragoriaeth academaidd ond hefyd yn cynnig cyfleoedd pellach i fyfyrwyr gael effaith sylweddol ym myd busnes.”
Ychwanegodd “Er bod y dirwedd ariannol yn heriol i brifysgolion ar hyn o bryd, mae buddsoddi’n strategol mewn meysydd allweddol fel hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a thwf hirdymor ein sefydliad.”
Wrth siarad ar ran Sefydliad Elusennol Albert Gubay, dywedodd Mrs C Gubay: “Mae ein Sefydliad yn falch o gefnogi’r project hwn sy’n llawn gweledigaeth. Bydd Ysgol Fusnes Albert Gubay yn fan lle gall myfyrwyr dyfu, arloesi, a dod yn entrepreneuriaid y dyfodol. Credwn y bydd yn helpu i lunio dyfodol addysg fusnes, yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Rhan annatod o’r penderfyniad hwn i gefnogi Prifysgol Bangor oedd ei hymrwymiad i geisio denu myfyrwyr Cymru i aros yn eu mamwlad i astudio.”
Ers i Goleg Menai adleoli o safle’r Ffriddoedd a Friars i gampws newydd ym Mharc Menai, mae’r ffaith fod y Brifysgol wedi prynu adeilad hanesyddol Friars yn golygu mai addysg fydd prif swyddogaeth yr adeilad o hyd.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Rydym yn falch o allu gwerthu adeilad Friars i Brifysgol Bangor, partner strategol Grŵp Llandrillo Menai, i sicrhau bod tirnod mor hanesyddol ym Mangor Uchaf yn parhau i gael ei ddefnyddio at ddibenion addysgol. Rydym yn croesawu'r newyddion y bydd yr adeilad yn cael ei adnewyddu i greu ysgol fusnes o'r radd flaenaf."
Disgwylir i'r gwaith o adeiladu Ysgol Fusnes newydd Albert Gubay ddechrau yn 2026 ac mae disgwyl y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2027. Unwaith y bydd wedi'i orffen, bydd y Brifysgol yn cynnal seremoni agoriadol i ddathlu'r achlysur pwysig hwn, a chaiff y gymuned o fyfyrwyr a rhanddeiliaid lleol eu gwahodd i ddod ynghyd i nodi lansiad y cydweithio arwyddocaol hwn yn hanes Prifysgol Bangor.
Wedi’i eni a’i fagu yn y Rhyl, roedd Albert Gubay yn ddyn eithriadol ac yn entrepreneur â gweledigaeth a gafodd effaith barhaol ar y sector busnes a’r sector elusennol. Wrth gael ei ryddhau o’r fyddin yn 1948, roedd gan Gubay siwt a £80, ac aeth ati, gyda chymorth benthyciad o £100 yn erbyn gemwaith ei fam, i ddechrau gwerthu “losin di-siwgr” (ar adeg pan oedd siwgr yn dal wedi ei ddogni), ac yna’n ddiweddarach roc Blackpool a melysion eraill, gan wneud hynny o gefn fan ac o stondinau marchnad yng Ngogledd Cymru. Roedd yn arloeswr mewn adwerthu, ac fe ddechreuodd y gadwyn Value Foods yn y Rhyl ym 1959. Aeth ymlaen i sefydlu Kwik Save, ac am hynny y mae'n fwyaf enwog, ac agorodd y siop gyntaf ym Mhrestatyn yn 1965.
Heddiw, mae Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn rheoli portffolio eiddo sylweddol trwy ei is-gwmni, Derwent Estates. Mae’r incwm a ddaw o'r eiddo’n cefnogi rhaglen grantiau'r Sefydliad. Ers 2016, mae’r Sefydliad wedi rhoi dros 700 o grantiau, gan ariannu amrywiaeth o brojectau cymunedol ac addysgol ledled Cymru a thu hwnt.
Prosiectau wedi'u cwblhau
Lleoliad: Parc y Coleg, Ffordd Deiniol
Cyllid: 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru a Cyngor Gwynedd
Dyddiad Cwblhau: Mehefin 2025
Agorodd Parc y Coleg i'r cyhoedd ar ddydd Gwener, 6 Mehefin 2025.
Wedi'i drawsnewid yn ardal heddychlon a hygyrch, mae Parc y Coleg bellach yn fan croesawgar i bawb ei fwynhau.
Mae'r brif fynedfa i'r Parc wedi agor man gwyrdd croesawgar i gysylltu Dinas Bangor â Bangor Uchaf. Mae’r project wedi'i ariannu drwy raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Gwynedd.
Mae'r gwelliannau allweddol i seilwaith y parc yn cynnwys:
- Creu llwybr hygyrch newydd ar draws y parc sy'n cysylltu â Pontio
- Creu mynedfa fwy diogel newydd oddi ar Lôn Deiniol sy'n cysylltu â chanol y ddinas, tra bod y giât hanesyddol wreiddiol wedi'i symud yn ofalus i leoliad gwarchodedig yng Ngerddi Treborth
- Creu ardaloedd lawnt y gellir eu defnyddio i annog gweithgareddau newydd, digwyddiadau ar raddfa fach, ymlacio, a dysgu yn yr awyr agored
- Darparu goleuadau newydd i wella diogelwch pan mae hi’n dechrau nosi
- Rheoli a theneuo detholus llystyfiant presennol i agor y golygfeydd a gwella diogelwch ar hyd y llwybrau troed.
- I annog glaswellt a phlanhigion i dyfu, gellid diogelu rhai ardaloedd gyda ffiniau am gyfnod dros dro.
Dywedodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor:
"Mae'n fraint i ni gael man gwyrdd mor sylweddol yn cysylltu'r Brifysgol â chanol y ddinas. Rhoddwyd y tir hwn i'r Brifysgol yn wreiddiol gan y ddinas dros ganrif yn ôl, ac rydym yn falch o anrhydeddu'r etifeddiaeth honno trwy drawsnewid y parc yn ofod adfywio, croesawgar.
“Wrth i Fangor ddathlu 1500 mlynedd fel dinas, credwn y bydd yr ailddatblygiad hwn yn chwarae rhan ystyrlon yn adfywio canol y ddinas ac yn darparu mwynhad i genedlaethau i ddod.
"Mae'r gwaith a wnaed wedi cynyddu gwelededd, wedi creu golygfeydd gwell, gofod mwy hygyrch a defnyddiol, ac wedi annog twf planhigion a blodau gwyllt.
"Rydym yn gwerthfawrogi amynedd y gymuned yn ystod y gwaith adeiladu, ac yn diolch i'r contractwr lleol, John Kelly Construction Services Ltd. am eu proffesiynoldeb, sylw i fanylion, ac ymrwymiad i ddarparu canlyniad o ansawdd uchel i'r gymuned a'n myfyrwyr ei fwynhau."
Lleoliad: Bloc Deiniol, Ffordd y Coleg
Dyddiad Cwblhau: Ebrill 2025
Cwblhawyd Ystafell Fferylliaeth newydd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ddechrau mis Ebrill eleni ar lawr cyntaf Bloc Deiniol ar Ffordd y Coleg. Trodd y gwaith adnewyddu le gwag yn Ystafell Fferylliaeth at ddibenion ymgynghori ac efelychu. Bu honno’n fodd i’r Brifysgol ennill achrediad y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a galluogi’r myfyrwyr i ennill gradd Fferylliaeth yng Ngogledd Cymru o fis Medi 2025 ymlaen.
Lleoliad: Henfaes, Abergwyngregyn
Dyddiad Cwblhau: Ebrill 2025
Wedi cwblhau yn Ebrill ar safle Henfaes yn Abergwyngregyn, mae'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol a Mwy (CEB+) yn ymchwilio i ensymau unigryw a sut y gallant droi’n gynhyrchion sydd â llai o effaith ar yr amgylchedd na’r deunyddiau a’r cemegau diwydiannol cyfredol.
Gobeithiwn y bydd catalog ensymau CEB yn mynd i'r afael â nifer o brosesau diwydiannol, ac y bydd eu defnydd masnachol yn gyfle i greu swyddi newydd da i economi Gogledd Cymru. Cafodd y project ei ariannu'n bennaf gan Fargen Twf Gogledd Cymru. Roedd y project yn cynnwys adnewyddu un o’r labordai, adeiladu labordy newydd, a fydd yn effeithlon o ran ynni, yn un o’r siediau presennol ac ychwanegu dôl newydd o flodau gwylltion, a gwneud yn fawr o’r gofod presennol ar y safle.