Ein Ffocws

Prif ganolbwynt theoretig y Ganolfan dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd yw natur y berthynas rhwng dwy iaith siaradwyr dwyieithog mewn cymunedau dwyieithog. Y prif ganolbwynt ymarferol fydd goblygiadau’r canfyddiadau hyn ar gyfer polisïau a chynlluniau iaith mewn sefyllfaoedd dwyieithog, a sut mae eu gweithredu.

Mae ymchwil ym maes dwyieithrwydd yn seiliedig ar sawl disgyblaeth, gan gynnwys ieithyddiaeth, seicoleg, niwrowyddoniaeth, addysg, cymdeithaseg, economeg a gwyddor wleidyddol.  Mewn blynyddoedd diweddar gwelwyd ymchwil yn y maes hwn yn blodeuo, ac o ganlyniad i hyn mae’n dealltwriaeth o natur y meddwl dwyieithog unigol, o sut mae iaith yn cael ei defnyddio ac yn datblygu, o sut mae hunaniaeth yn cael ei ffurfio yn ogystal â dealltwriaeth o gymunedau dwyieithog ac amlieithog yn camu ymlaen yn sylweddol.

Mae astudiaethau niwrowyddonol ac arbrofol newydd wedi datgelu llawer mwy o ryngweithiad prosesu rhwng ieithoedd person dwyieithog nag a dybiwyd o’r blaen, hyd yn oed pan fydd siaradwr yn defnyddio un iaith yn unig ar y tro. Mae astudiaethau datblygu diweddar wedi pwysleisio effeithiau gwybyddol cadarnhaol medru mwy nag un iaith. Mae gwaith gan ieithyddion yn dangos nad yw defnyddio dwy iaith yn yr un sgwrs yn digwydd ar hap, ond ei fod yn digwydd o fewn cyfyngiadau yr ydym megis dechrau eu deall. Yn olaf, mae ymchwil arsyllol ac ethnograffig bellach yn dechrau cynnig golwg cyfannol ar y defnydd o ddwy iaith a dau lythrennedd wrth ryngweithio yn y cartref a’r ysgol. Mae'r Ganolfan dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd yn fenter ddigynsail i wneud cynnydd yn yr holl feysydd hyn trwy gyfuno sawl dull methodolegol gwahanol gan gynnwys gweithdrefnau niwrowyddonol, arbrofol ac arsylwadol.

Un o fanteision bod wedi ei lleoli mewn ardal ddwyieithog yng ngogledd orllewin Cymru yw bod gan y Ganolfan Ymchwil fynediad rhwydd at bobl ddwyieithog a gellir canolbwyntio ein hymdrechion ar bobl ddwyieithog Cymraeg-Saesneg yn ogystal ag edrych ar gymunedau dwyieithog ac amlieithog eraill.

 

Prif amcanion

  Gwella dealltwriaeth o ddwyieithrwydd trwy’r byd i gyd, mewn perthynas â’r unigolyn a’r gymuned
 

  Gwella gallu’r Deyrnas Unedig i wneud ymchwil i ddwyieithrwydd trwy ddatblygu 'labordy' egnïol i astudio dwyieithrwydd ar waith a hwnnw’n llwyfan ar gyfer rhyngweithio rhwng arbenigwyr ar ddwyieithrwydd ac ymchwilwyr llai profiadol
 

  Datblygu cysylltiadau cryf gydag ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi sy’n ymwneud â dwyieithrwydd yn y Deyrnas Unedig, er mwyn perthnasu ymchwil a theori i anghenion y defnyddwyr hynny a sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu lledaenu
 

  Datblygu cynlluniau cydweithredu newydd rhwng ymchilwyr i ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor ac arbenigwyr ar ddwyieithrwydd ledled y byd.