Fy ngwlad:
Double room with focus on back wall and window

Llety 4 Seren yn Eryri | Ystafelloedd a Ensuite | Canolfan Rheolaeth - Prifysgol Bangor

Mwynhewch arhosiad hamddenol gyda golygfeydd o'r Afon Menai ac Ynys Môn, lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau, hamdden, neu archwilio Gogledd Cymru.

Archebu Nawr

Opsiynau Llety

Archebion Grŵp

Ar gyfer archebion grŵp o 10 ystafell neu fwy, cysylltwch â'r Tîm Archebu Grwpiau i dderbyn cyfraddau arbennig:

E-bost

Gwybodaeth Llety

Bydd ein tîm blaen tŷ yn sicrhau y bydd yr holl wybodaeth cyn cyrraedd yn cael ei e-bostio atoch cyn eich arhosiad. Mae'r tîm hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein mesurau iechyd a diogelwch.

Cyrraedd a Gadael

  • Cofrestru digidol a thaliad ar-lein o flaen llaw fel nad oes angen llenwi cerdyn cofrestru wrth gyrraedd
  • Defnydd o flwch allweddi a thaliadau digyswllt yn cael ei annog wrth adael

Bagiau

Yn anffodus ni allwn gadw eiddo personol a bagiau ar hyn o bryd.

Rhybudd Canslo

O fewn 24 awr, neu os ddim yn ymddangos 100% - Ni roddir ad-daliad ar gyfer cyfraddau na ellir eu had-dalu.

E-bostiwch info@themanagementcentre.co.uk gydag unrhyw gwestiynau.

Hysbysiad Canslo Archebion Grŵp

Mae taliadau canslo llety yn berthnasol: o fewn 6 wythnos, neu os ddim yn ymddangos - 100%. Hyd at 2 ystafell o fewn 24 awr.

E-bostiwch groups@themanagementcentre.co.uk gydag unrhyw gwestiynau.

Sylwch y gall telerau canslo amrywio os gwnaethoch archebu trwy asiant teithio ar-lein, am newidiadau neu ganslo, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol - fe welwch eu manylion yn eich e-bost sy'n cadarnhau eich archeb.

Ystafelloedd Gwely

  • Ar ôl cyrraedd eich ystafell, nodwch eich llythyr croeso sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i chi ar gyfer eich arhosiad, yn ogystal â rhif cyswllt y Rheolwr Dyletswydd
  • Mae gennym dîm cadw tŷ penodol a fydd yn gofalu bod pob ystafell yn cael ei glanhau a'i diheintio'n drylwyr
  • Ein nod yw darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn er mwyn i chi fwynhau eich arhosiad gyda ni; mae staff yn ein derbynfa 24 awr y dydd ac mae Rheolwr Dyletswydd ar gael ac wrth law i'ch cynorthwyo

Mannau Cyhoeddus

  • Mae gweithdrefnau glanhau amgenach yn eu lle ar gyfer yr holl fannau cyhoeddus a bydd gorsafoedd diheintio wedi’u gosod wrth bob mynedfa ac allanfa yn y ganolfan
  • Mae ein holl weithwyr wedi'u hyfforddi'n llawn yn ein rhaglen iechyd a hylendid ddiwygiedig ac yn cadw at holl ganllawiau a mesurau diogelwch y Llywodraeth
  • Rydym yn annog gwesteion i ddefnyddio’r cyfleusterau toiled sydd yn eu hystafelloedd eu hunain yn ystod eu harhosiad.

Y Ganolfan Rheolaeth, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2D

Sut i ddod o hyd i'r Ganolfan Rheolaeth?

Y Ganolfan Rheolaeth, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2D

Cyfarwyddiadau Teithio

Gellwch lacio o’r map lleoliad rhyngwladol hwn (a ddarperir gan Google map) i weld ein hunion leoliad, a’i ddefnyddio i gynllunio eich taith ar y ffordd. Ein cod post yw LL57 2DG os ydych yn defnyddio Satnav

Parcio yn Y Ganolfan Rheolaeth

Mae gan Y Ganolfan Rheolaeth parcio preifat rhad ac am ddim ar gyfer gwesteion ac ymwelwyr i'r Ganolfan.

Os gwelwch yn dda nodwch bu rhai newidiadau i'r rheolau parcio cerbydau o fewn y Brifysgol a mae system rhybudd barcio Sifil bellach yn weithredol. Mae'n bwysig, felly, bod cerbydau'n cael eu parcio yn maes parcio Y Ganolfan Rheolaeth sydd wedi ei leoli gyferbyn â Neuadd JP.

Os mae'r maes parcio hwn yn llawn, bydd angen i chi ofyn am docyn parcio dros dro o Dderbynfa Y Ganolfan Rheolaeth a byddwch wedyn yn cael eich cyfeirio at feysydd parcio eraill y Brifysgol. Os oes angen eglurhad pellach cysylltwch â ni ar 01248 365 900 neu e-bostiwch info@themanagementcentre.co.uk.

Mae Bws Arriva yn gwasanaethu Bangor yn ddyddiol; ewch i wefan Arriva.

Mae Bangor o fewn cyrraedd hwylus o’r rhan fwyaf o ardaloedd ym Mhrydain ar y trên, a cheir gwasanaeth uniongyrchol rheolaidd i Lundain trwy Crewe. Ewch i wefan i Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion am wasanaethau trên i Fangor.

 

Os ydych yn teithio o Iwerddon, mae gennych ddewis o longau fferri neu long hofran gyflym o Ddulyn neu Dun Laoghaire. Am fanylion ynglyn ag amseroedd hwylio, ewch i Irish Ferries neu Stena Line.

Dim ond 30 munud o daith yn y car yw Porthladd Caergybi oddi yma, neu cewch wasanaeth trenau uniongyrchol i Fangor sy’n cymryd rhyw 30 munud. Ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion.

Meysydd Awyr Lerpwl a Manceinion

Mae meysydd awyr rhyngwladol Lerpwl a Manceinion yn rhyw 1½ awr o daith mewn car o’r Ganolfan Rheolaeth. Ceir hefyd wasanaeth reilffordd aml o Faes Awyr Manceinion neu Lerpwl – ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol am fwy o fanylion.

Am fanylion am siwrneiau awyr i Fanceinion, ewch i wefan Maes Awyr Manceinion, ac o ran siwrneiau awyr i Lerpwl, ewch i wefan Maes Awyr Lerpwl.