Plant yn eistedd yn y dosbarth, yn gwrando ar yr athrawes

Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth - CEBEI

Gweledigaeth CEBEI yw i bob plentyn gyrraedd ei botensial.

Ein Cenhadaeth

Logo CEBEI

Cenhadaeth y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yw darparu cyfraniadau defnyddiol at y sylfaen dystiolaeth i adnoddau ac ymyriadau, sy'n cefnogi ymyrraeth gynnar i blant a theuluoedd. Mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn sy'n gweithio, wrth helpu teuluoedd.

Rydym yn gweithio i hyrwyddo’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar gyda phlant/teuluoedd drwy ofyn y cwestiynau canlynol:

  • Beth sydd yn gweithio?
  • I bwy mae'n gweithio?
  • Sut a pham mae'n gweithio?


Rydym yn cynnal ymchwil ar y cyd â sefydliadau partner sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda rhieni i wella profiadau plentyndod, gan gynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Cyllidir yr ymchwil gan gyrff dyfarnu grantiau gan gynnwys NIHR, Sefydliad Nuffield, Horizon 2020, Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS) a CEIT.

Rydym yn gweithio'n agos gydag elusen, y Children’s Early Intervention Trust (CEIT) a'i is-gwmni hyfforddi, Early Intervention Wales Training (EIWT), i uwchsgilio gweithwyr proffesiynol drwy gyflwyno hyfforddiant i ymyriadau gyda thystiolaeth o effeithiolrwydd.

Mwy am ein hymchwil

Rhieni, plentyn ac aelod o staff yn eistedd o amgylch y bwrdd

Pobl

Dysgwch fwy am staff unigol ac ymchwilwyr ôl-radd yn y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth.

Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG

Cysyllwch gyda ni

Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth

Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?