Seminar PLOCC: Mater Byd-eang, Gweithredu Lleol: Ymgysylltiad Cymunedol â Chynaliadwyedd yr Amgylchedd, Siaradwr Dr Sofie Roberts
Lleoliad: Ar-lein - LINC TEAMS YMA
Ffi: Am ddim
Tra bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn fyd-eang, mae’n rhywbeth y gellir ei deimlo’n lleol, yn y mannau lle'r ydym yn byw ac yr ydym yn teimlo'n gysylltiedig â hwy. Mae dulliau gweithredu seiliedig ar le felly yn hanfodol i liniaru effeithiau’r hinsawdd yn effeithiol. Yn y seminar hwn, bydd Sofie yn adrodd am ganfyddiadau perthnasol am ymgysylltiad cymunedol a chanfyddiadau am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn lleol, sydd wedi deillio o ddau broject byr: y naill yn dadansoddi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd ar lawr gwlad a’r llall yn ymwneud ag ymyriadau o’r brig i lawr. Bydd yn rhannu canfyddiadau diddorol, yn y ddau achos, er bod y pwnc yn newid yn yr hinsawdd, fod materion eraill wedi'u pwysleisio gan gymunedau: y Gymraeg (yng Ngogledd Orllewin Cymru), ac iechyd a lles (yn Sir Ddinbych).
Bydd Sofie yn trafod y ffyrdd y gellir gwella ymgysylltiad â’r hinsawdd drwy fanteisio ar drafodaethau cymunedol lleol, hynny yw, y pethau sy’n wir bwysig i bobl o fewn eu milltir sgwâr.