Logo y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn du ar gefndir melyn

Rydym yn hynod o falch o ennill y wobr hon. Roedd yna fwlch enfawr o ran adnoddau cyfrwng Cymraeg deniadol ac unigryw i Gymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Coleg Cymraeg am noddi’r gwaith. Mae o’n wych clywed bod yr adnoddau hyn bellach yn cael eu defnyddio mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws Cymru.
Dr Rhian Hodges,  Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas

Mae’r wobr hon am fod o gymorth mawr wrth i ni hyrwyddo'r adnodd i ddisgyblion ac athrawon. Hoffwn weld rhagor o bobl yn dewis dysgu ac astudio cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ein gobaith yw bod y gyfres hon yn cyfrannu, mewn ffordd fach, at roi hyder i bobl wneud dewisiadau positif dros y Gymraeg, a thrwy hynny, cyfrannu at dwf y Gymraeg o fewn y sector addysg a thu hwnt.
Dr Cynog Prys,  Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor

Meddai’r Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb am Addysg ym Mhrifysgol Bangor, “Hoffwn longyfarch Cynog, Rhian a’r tîm ar ennill Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol  y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n ben llanw gwych ar eu gwaith ar y pecyn.

“Rydym yn lwcus iawn i gael darlithwyr fel Cynog a Rhian ym Mangor, sy’n fodlon cyfrannu cymaint o ran ehangu’r adnoddau sydd ar gael er mwyn astudio eu maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae adnoddau fel hyn yn tanio diddordeb myfyrwyr mewn pwnc trwy sbarduno syniadau ac wrth fod yn berthnasol i’r byd o’u cwmpas, ac yn helpu i adeiladu gweithlu’r dyfodol fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r ardal a thu hwnt.”

Bydd Prifysgol Bangor yn arddangos yr adnoddau ar ein stondin yn y Brifwyl eleni.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?