TV filming set

Pennaeth Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Bangor yn arwain galw i ddatblygu sgiliau’r gweithlu sgrin a theledu nawr ac i’r dyfodol

“Mae’r hyn o mae rhywun yn cael yn ôl, yn bersonol ac yn greadigol, yr un mor werthfawr a be mae rhywun yn rhoi i mewn.  Roeddwn yn arfer rhedeg y cwricwlwm creadigol ar gyfer ysgolion anghenion ychwanegol ac unedau cyfeirio ac rwyf wedi rhedeg project ysgrifennu mewn carchar i bobl ifanc, pan oedd gen i’r amser fel actor. Mae wedi fy ngwneud i’n well actor, yn ysgrifennwr, yn wneuthurwr ffilm ac fe agorodd yr holl ddrysau newydd ‘ma i mi. Felly, mae’n fuddiol nid yn unig i’n myfyrwyr, ond hefyd yr artist a’r person creadigol.

“Mae’n hanfodol creu’r bont yna rhwng addysg a’r diwydiant. Mae’n bwysig gadael i bobl ifanc wybod fod o’n ddiwydiant fedra nhw fod yn rhan ohono, gyda phob math o swyddi ynghlwm ag ef, a lle iddynt ynddo. Dwi’n cofio actores Gymraeg o ‘The Life of Brian’ yn dod i wneud gweithdy gyda ni yng Nghaergybi, a’r cyffro fod rhywun oedd mewn ffilm mor boblogaidd yn dod i’n gweld ni, nesh i fyth anghofio hynny.”
Celyn Jones, actor, cyfarwyddwr a sgrin-awdur

Gan gloi, dywedodd Yr Athro Ruth McElroy, “Diolch i Cymru Creadigol, mae gennym ni fel rhan o Academi Sgrîn Cymru ychydig o gyllid er mwyn cydweithio â’r diwydiant i recriwtio a hyfforddi mwy o bobl ifanc ym myd sgrîn a theledu, i gynnig cyfleoedd i gwmnïau ddatblygu eu staff, ac i blant ysgol ddod i wybod mwy am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt. Rwy’n galw ar y diwydiant i ddod atom am sgwrs anffurfiol am sut fedrwn ni helpu ein gilydd i greu gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen nawr ac i’r dyfodol.”

Dywedodd Gareth John, arweinydd y sector diwydiannau creadigol ar gyfer Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU yng Nghymru,

“Hoffwn ddiolch i Brifysgol Bangor am ein croesawu yma, mae’r digwyddiad heddiw gobeithio yn gychwyn sgwrs hirdymor rhyngom ni, chi fel aelodau o’r diwydiant, a Llywodraeth Cymru trwy Cymru Creadigol er budd y diwydiant sgrin a theledu.

Dywedodd Dyfrig Davies, Cadeirydd TAC “Mae’n gyffrous cynnal yr ail ddigwyddiad  o ‘Concro’r Byd’ a hynny yng Ngogledd Cymru. Does dim adeg fwy addas na nawr i gynhyrchwyr yng Nghymru i fanteisio ar y twf rhyngwladol sydd yna mewn ymwybyddiaeth o Gymru, a gobeithiwn y bydd hyn yn caniatáu mwy o gynhyrchwyr i greu partneriaethau a ffyrdd o gydweithio, er mwyn gwneud y mwyaf o’u cynnwys a’u fformatau yn y farchnad ryngwladol. Hoffwn ddiolch i’r Adran Busnes a Masnach, S4C, Prifysgol Bangor a phawb sydd wedi cyfrannu er mwyn neud y digwyddiad hwn mor llwyddiannus â’r cyntaf.”

I ddarganfod rhagor am Academi Sgrîn Cymru a chyrsiau yn astudio'r cyfrynau a ffilm yma ym Mhrifysgol Bangor, cliciwch yma

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?