0:00 [Cerddoriaeth]
0:08 Do mae o wedi bod yn brofiad eithaf diddorol gweld sut mae set yn gweithio ac mae o falle bod yma yn gwneud i mi um
0:16 sylweddoli sut mae set yn gweithio os mae hynny'n gwneud synnwyr o ran oni ddim rili wedi oni'n gwylio fo ar deledu
0:23 ond dim rili wedi ystyried sut maen nhw'n ffilmio a lle mae'r camerâu a sut mae set yn gweithio gydai gilydd efallai
0:29 bod sut maen nhw'n symud y setiau o gwmpas. Dwi'n meddwl bod o'n eithaf diddorol i weld.
0:35 [Cerddoriaeth]
0:45 Bendant wedi bod yn werthfawr yn enwedig efallai am rhywun fel fi sydd yn y flwyddyn olaf efallai yn edrych am swydd
0:53 blwyddyn nesaf mae o efallai wedi bod yn rhyw agoriad llygaid efallai i edrych beth sydd ar gael
0:58 efallai be ydych yn gallu gwneud ar ol graddio efallai.
1:10 [Cerddoriaeth]
Pam Astudio Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth?
Mae astudio at radd israddedig yn yr Ysgol yn brofiad cyfoethog ac ysgogol. Yma mae’r pwyslais ar ymchwilio creadigol a dealltwriaeth feirniadol. Os dewiswch fodiwlau ymarferol, mae gennym adnoddau arbenigol i gefnogi gwaith cynhyrchu i'r cyfryngau. Os dewiswch fodiwlau beirniadol, cewch eich arwain gan ddadansoddwyr o'r radd flaenaf yn y cyfryngau, hysbysebu, polisi a thechnoleg. Wrth reswm, cewch ddewis gwneud y ddau!
Yn ogystal â'n gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel offer recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy, mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau o safon y diwydiant:
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac
- Mannau dysgu Ysgrifennu Creadigol, Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau Newydd
- Awditoria
- Ystafell Sinema gyda Sain Dolby Surround
- Neuadd John Phillips sydd â gofod perfformio mawr a goleuadau theatr proffesiynol
- Offer proffesiynol a chyfarpar cyfrifiadurol
- Offer fideo a radio i'w defnyddio ar leoliad ym maes radio a theledu
- Ystafell gyfrifiaduron aml-gyfrwng
Mae Pontio, y buddsoddwyd miliynau ynddi, yn ganolfan gymdeithasol bwysig i'r myfyrwyr ac yn ganolfan o safon ryngwladol ar gyfer dysgu, arloesi a’r celfyddydau perfformio.
Ein Hymchwil o fewn Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth
Mae'r Ysgol yn rhyngddisgyblaethol, yn gydweithredol, yn greadigol ac yn feirniadol. Yn yr asesiad cenedlaethol diweddaraf o ansawdd ymchwil (REF 2014), roedd holl ymchwil yr Ysgol naill ai gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran ansawdd.
Cryfderau/Arbenigeddau'r Ymchwil
Ein cryfderau allweddol yw gwaith y staff yn y diwylliant digidol; y cyfryngau a chyfathrebu perswadiol; a theori ac ymarfer creadigol (ymarfer-fel-ymchwil).
Mae gennym berthynas arbennig o gryf yn sector diwydiannau'r cyfryngau a chreadigol yng Nghymru, ac rydym hefyd yn ymwneud â'r economi creadigol yn fwy cyffredinol, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae hyn yn cyfrannu at nifer o agweddau o'n gweithgareddau ymchwil, ac yn gymorth i hyrwyddo ein gwaith hefyd. Yn gymunedol, rydym yn cymryd rhan mewn projectau a datblygiadau'n rheolaidd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r myfyrwyr, ac mae hefyd yn gymorth i gynyddu effaith gyffredinol ein gweithgareddau a chodi ymwybyddiaeth amdanynt. Ymhlith y cwmnïau a'r sefydliadau y buom yn cydweithio â hwy'n ddiweddar mae BAFTA Cymru, cwmni teledu annibynnol Cwmni Da, NoFit State Circus a'r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr.
Digwyddiadau Ymchwil
Mae gennym ddiwylliant ymchwil bywiog a chyfeillgar. Mae ein cyfres ymchwil wythnosol yn cynnwys cydweithwyr o Fangor, myfyrwyr ôl-radd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt, mewn awyrgylch cefnogol, os beirniadol. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion arbennig, ysgolheigion ar ymweliad ac eraill i roi cyflwyniadau ar eu gwaith ymchwil a'u hymarfer.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.