- Peryn Clement Evans: Clarinét
- Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
- Blaenwr: Chris Atherton
- Arweinydd: Gwyn L Williams
Bydd hanner cyntaf y cyngerdd hwn yn drosiad perffaith ar gyfer y deunaw mis diwethaf, wedi’i ddominyddu fel ni, gan y pandemig. Am flwyddyn a hanner, mae’r pandemig wedi talwelu cerddorion o bedwar ban, a dim ond yn ddiweddar, dan oleuadau llwyfannau mae’r cerddorion yn dychwelyd i berfformio. Llunia Haydn y tywyllwch cynoesol ar ddechrau’r bydysawd yn y rhagarweiniad godidog ac yno i’r oratorio’r Greadigaeth. Wedi’r cord agoriadol sy’n cyfleu’r ‘Big Bang’, mae’r gerddoriaeth yn disgrifio natur cynnar cosmoleg gyda’r offerynnau chwyth yn ganolbwynt i’r cyfan. Mae’r gerddoriaeth yn gorffen mewn tywyllwch llwyr. Mae Concerto Clarinét yn A Fwyaf disglair Mozart yn cynnig gwres a golau yn y byd newydd. Ysgrifennodd y darn i’w gyfaill Anton Stadler, oedd yn gerddor yn y llys ac yn chwareuwr arbennig.
Mae’r cyngerdd yn gorffen gyda gwaith arall a gyfansoddwyd ar ddiwedd bywyd Mozart, ei ddarn adnabyddus sy’n un o ffefrynnau’r gynulleidfa, Symffoni Rhif 40. Dim ond ychydig fisoedd sydd rhwng y ddau gwaith, ond wrth i’r Concerto ddod a gobaith a direidi, mae ei Symffoni gobennol yn waith llawer yn fwy blinderus ac ansefydlog. Beth bynnag yw neges Mozart yn ei waith, ni allwn amau perffeithrwydd na gosgeiddrwydd Mozart.
Unawdydd Clarinét - Peryn Clement Evans
Peryn Clement-Evans yw prif glarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru.
Bu Peryn yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) ac wedi hynny yn Rotterdam’s Conservatorium gyda’r unawdydd rhyngwladol o wlad Belg, Walter Boeijkens. Yn ystod y cyfnod hwnnw, enillodd ysgoloriaethau i fynychu’r American Conservatoire yn Fontainebleau yn Ffrainc.
Mae Peryn wedi cynnal perfformiadau cyntaf nifer o ddarnau i’r clarinét a’r piano gan gyfansoddwyr o Gymru, megis Hoddinott, Jeffrey Lewis, Christopher Painter a John Metcalf, am y tro cyntaf. Yn 2008, cafodd wobr Leo Abse and Cohen gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru. Perfformiodd fel prif clarinetydd gyda nifer o gerddorfeydd gan gynnwys Northern Ballet, Manchester Camerata, Orquesta Sinfonica de Galicia (Sbaen), ac Opera Canolbarth Cymru. Yn fwy diweddar, perfformiodd Peryn fel rhan o genhadaeth diwylliannol Llywodraeth Cymru yn Hong Kong a Shanghai gan gynnwys perfformiad o flaen gwr gwadd, Syr Tom Jones.
Yn dilyn gwahoddiad gan 2 hyrwyddwr rhyngwladol blaenllaw o gerddoriaeth siambr, Chamber Music New Zealand a Musica Viva Australia, treuliodd Peryn ddau fis yn ymchwilio ffyrdd gwahanol o wneud cerddoriaeth siambr yn fwy perthnasol i fwy o bobl mewn cymunedau lleol a datblygu cyfleoedd proffesiynol i gyfansoddwyr, a cherddorion yn Awstralia a Seland Newydd.
Ganwyd Peryn yn Lerpwl yn 1968. Mae’n briod gyda phedwar o blant ac yn byw ym Mangor, gogledd Cymru.
Arweinydd: Gwyn L Williams
Cerddor a chyfansoddwr ar ei liwt ei hun oedd Gwyn L Williams ar ddechrau ei yrfa broffesiynol. Yna bu’n ddarlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor cyn ymuno â’r BBC yn 1980 a dod yn Uwch-gynhyrchydd Cerdd Cymru. Newidiodd trywydd ei yrfa yn 1998 pan aeth i’r UDA yn Athro
Astudiaethau Corawl ar Ymweliad yn Ninas Oklahoma.
Yn 2001 fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr cyntaf Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Yna daeth cyfle yn sgil London 2012 i ddod yn Rhaglennydd Creadigol Cymru ac yn y swydd honno bu’n gyfrifol am guradu a datblygu rhaglen bedair blynedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol.
Yn 2013, penodwyd Gwyn yn Gyfarwyddwr Tŷ Cerdd – Canolfan Cerddoriaeth Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd. Rhan annatod o’r gwaith oedd hyrwyddo perfformiadau o gerddoriaeth gyfoes Cymru, drwy rannu arian loteri i gymdeithasau cerdd a datblygu partneriaethau clòs â gwyliau a Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC.
Penodwyd Gwyn yn Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Bangor yn 2021.
Ymhlith ei ddiddordebau y tu allan i fyd cerdd y mae cadw moch a gyrru motobeics. Y mae, yn ddiweddar, fel petai’n mynd yn iau wrth fynd yn hŷn, yn hoffi codi ei bac a chrwydro Affrica, India a De-ddwyrain Asia.