Cerddoriaeth Music 100 looping video

Cerddoriaeth 100

Yn 2021-22 cafwyd dathliad canmlwyddiant o gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor

Yn ystod 2021-22, dathlodd Prifysgol Bangor 100 Mlynedd o Gerddoriaeth, a ddechreuodd yn ôl ym 1920 gyda phenodiad Cyfarwyddwr Cerdd gyntaf y Brifysgol, Evan Thomas Davies.

Roedd yn foment o arwyddocâd sylweddol yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru, gan feithrin gwerthoedd sy'n parhau i fod yn allweddol i genhadaeth y Brifysgol heddiw.

Roedd dathliadau’r canmlwyddiant yn gyfle i edrych yn ôl dros ganrif o greu cerddoriaeth, gan rannu cerrig milltiroedd cerddorol - mawr a bach - ac yna ymlaen i'r 100 mlynedd nesaf, a fydd yn gweld nifer o ddatblygiadau newydd a chyffrous.

Gyda dathliad blwyddyn o hyd a llu o ddigwyddiadau arbennig, dathlodd Cerddoriaeth 100 ddyfodol cerddoriaeth, bywyd a diwylliant yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

Myfyriwr cerdd yn chwarae'r delyn

Y 100 MLYNEDD CYNTAF

Taith trwy 100 mlynedd o gerrig milltir cerddorol, mawr a bach, sy'n rhan o ddiwylliant a hanes cyfoethog Bangor ...

Myfyrwyr yn chwarae offerynnau

Astudio Cerddoriaeth ym Mangor

Dan arweiniad cyfansoddwyr, cerddolegwyr ac ymchwilwyr byd-enwog, byddwch yn rhan o'n cymuned gerddoriaeth fywiog ym Mangor.

Rwy'n hoffi'r ffaith nad ydych chi fel cerddor yn gyfyngedig i berfformio yn unig. Rwy'n gallu teilwra fy ngradd i'r hyn rydw i eisiau ei wneud trwy'r modiwlau rydw i'n eu cymryd; felly, yn cael y cyfle i wneud y gorau o fy ngradd.  

Alys Bailey Wood, Myfyrwraig Cerdd

Cymrodyr er Anrhydedd

Cymrawd Er Anrydedd - Bryn Terfel

Canwr opera bas-bariton Syr Bryn Terfel Jones, CBE

Ganed Bryn Terfel ger Caernarfon, gogledd Cymru. Mae wedi perfformio mewn tai opera mawreddog ledled y byd, ond mae gwreiddiau ei yrfa mewn cystadlaethau yn yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol fel bachgen ysgol, cyn iddo symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerdd a Drama London Guildhall. Mae gyrfa Bryn Terfel wedi cyrraedd uchelfannau yn y maes, gan bortreadu cymeriadau fel Figaro a Falstaff yn ogystal â chael clod uchel am ei bortread o Wotan, gan Wagner.

Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Bangor ym 1994, a gwobrwywyd Doethuriaeth Anrhydeddus iddo yn 2012.

Elin Manahan Thomas - Cymrawd er Anrhydedd

Soprano a pherfformwraig baróc o Gymru Elin Manahan-Thomas

Mae Elin Manahan Thomas yn un o sopranos mwyaf eithriadol ei chenhedlaeth. Ers rhyddhau ei halbwm début ‘Eternal Light’ yn 2007, gyda Cherddorfa 'Age of Enlightenment', mae hi wedi perfformio mewn llawer o wyliau mawreddog y byd, a chyda cherddorfeydd ac arweinwyr blaenllaw. Ym mis Mai 2018 cafodd Elin yr anrhydedd i berfformio ym Mhriodas Frenhinol y Tywysog Harry a Meghan Markle.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaethau i gerddoriaeth yn 2016.

Gruff Rhys - Cymrawd er Anrhydedd

Cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd, gwneuthurwr ffilmiau ac awdur Gruff Rhys

Ganed Gruff Rhys yn Hwlffordd, cyn symud i Fethesda lle cafodd ei fagu, gan fynychu Ysgol Dyffryn Ogwen. Mae'n perfformio'n unigol a gyda sawl band, gan gynnwys y Super Furry Animals, wnaeth gyrraedd llwyddiant prif ffrwd yn y 1990au. Rhyddhawyd ei albwm diweddaraf, 'Seeking New Gods', yn 2021. Mae hefyd wedi dilyn nifer o ymdrechion creadigol uchelgeisiol, gan gynnwys prosiect amlgyfrwng 2014 'American Interio'r, sy'n cynnwys albwm, ffilm a llyfr.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i Gerddoriaeth yn 2015.

Huw Stephens - Cymrawd er Anrhydedd

Cyflwynydd radio a theledu Huw Stephens

Mae Huw Stephens yn gyflwynydd radio o Gymru, yn darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio 6 Music. Ymunodd Huw â BBC Radio 1 yn 17, y DJ Radio 1 ieuengaf erioed. Mae ei ddiddordeb brwd am gerddoriaeth newydd wedi golygu mai ef oedd yn aml y cyntaf i hyrwyddo artistiaid newydd yn gynnar. Sefydlodd ŵyl gerddoriaeth Sŵn - gŵyl aml-leoliad yng nghanol dinas Caerdydd - gyda John Rostron, ac ef sefydlodd 'Dydd Miwsig Cymru' hefyd.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am wasanaethau i Gerddoriaeth yn 2015.

Duffy - Cymrawd er Anrhydedd

Cantores, cyfansoddwraig ac actores Aimee Duffy

Wedi'i geni a'i magu yn Nefyn yng Ngwynedd, yn 2009 enillodd Duffy Wobr Grammy am yr Albwm Lleisiol Pop gorau, a thair Gwobr Brit. Hi oedd yr artist recordio benywaidd cyntaf o Gymru i gyrraedd rhif 1 yn y DU ers dros 25 mlynedd. Aeth ei halbwm cyntaf yn 2008, Rockferry, i mewn i siart albwm y DU yn Rhif 1 ac mae wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd am ei gwasanaethau i Gerddoriaeth yn 2011.

Sian James - Cymrawd er Anrhydedd

Cantores, telynores a chyfansoddwraig Siân James

Mae Siân James yn gantores a thelynores gwerin draddodiadol o Gymru, sydd wedi recordio ar gyfer Sain a BBC Records yn ogystal â’i label ei hun, Bos. Mae hi wedi rhyddhau naw albwm o'i gwaith.

Yn wreiddiol o Lanerfyl ym Mhowys, cymerodd Siân James ran mewn eisteddfodau lleol o oedran ifanc, gan chwarae'r piano, y ffidil ac yn ddiweddarach y delyn. Tra’n dal yn fyfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, dechreuodd gyfansoddi ei chaneuon ei hun a threfnu cerddoriaeth draddodiadol Cymraeg. Aeth ymlaen i ddarllen cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi hefyd yn adnabyddus am ei gwaith actio ar deledu Cymraeg.

Fe’i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Bangor yn 2007.

Bernard Rands

Enillydd Gwobr Pulitzer Bernard Rands

Pob dymuniad da o America ...

Roedd y cyfansoddwr arobryn Gwobr Pulitzer, Bernard Rands, yn fyfyriwr ym Mangor yn y 1950au, gan ddod yn ddarlithydd yn yr Adran Gerdd yn ddiweddarach.

“Mae’n gyffrous ac yn ysbrydoledig meddwl am bopeth sydd wedi digwydd yn nhwf astudio ac ymarfer cerddoriaeth yn y brifysgol. I mi, mae'n hiraethus iawn hefyd wrth i mi gofio fy mlynyddoedd yno - yn gyntaf fel myfyriwr ac yn ddiweddarach fel aelod cyfadran. Roedd Coleg ar y Bryn yn gymuned glos yn y blynyddoedd hynny ac rwy'n trysori'r profiadau o dderbyn yr addysg orau bosibl y gallai rhywun ddymuno amdano (ac nid yn unig mewn cerddoriaeth). Cafodd yr hyn yr wyf wedi'i gyflawni yn fy mywyd fel cyfansoddwr proffesiynol ei ffurfio a'i seilio yn y blynyddoedd hynny.

“Wrth imi droi tuag at fy mlwyddyn pen-blwydd yn naw deg oed (2024) rwy’n cofio’n serchog bopeth a chwaraeodd Prifysgol Bangor yn fy ieuenctid.

“Rwy’n anfon fy nymuniadau orau am Flwyddyn Canmlwyddiant llwyddiannus a gorfoleddus."

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?