Bydd cynllunio ymlaen llaw yn eich helpu i benderfynu ar y llwybr gorau i chi. Dyma atebion i gwestiynau cyffredin i’ch helpu i baratoi ar gyfer Clirio 2026 ym Mhrifysgol Bangor.
Gwybodaeth Hanfodol Clirio 2026
Mae Clirio yn rhoi cyfle i ymgeiswyr sydd heb gael lle mewn prifysgol wneud cais am le ar gwrs sydd heb lenwi.
Mae Clirio yn rhoi’r cyfle i chi ymuno â Phrifysgol Bangor ym mis Medi – p’un a ydych eisoes wedi gwneud cais drwy UCAS neu’n dechrau arni o’r newydd.
Efallai eich bod wedi newid eich meddwl ynghylch ble rydych am astudio, neu eich bod wedi penderfynu gwneud cais i’r brifysgol ar ôl dyddiad cau UCAS. Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae Clirio yn agor y drws i bosibiliadau newydd.
Ym Mangor byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i gwrs sy’n cyd-fynd â’ch uchelgeisiau ac yn rhoi’r hyder i chi gamu ymlaen. Dyma eich cyfle i ddod yn rhan o gymuned groesawgar a chlos lle mae pob myfyriwr yn cael cefnogaeth ac mae pob llais yn cael ei werthfawrogi.
Mae Clirio’n dechrau’n swyddogol ar ddydd Iau, 2 Gorffennaf. O’r dyddiad hwn, bydd modd i chi gofrestru eich diddordeb mewn Clirio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, neu gallwch wneud cais am gwrs drwy Clirio.
- Ymgeiswyr heb gynigion cyfredol: Gall unrhyw un sydd wedi gwneud cais israddedig UCAS ac nad oes ganddynt unrhyw gynigion ar hyn o bryd gan brifysgol wneud cais i Brifysgol Bangor drwy Clirio.
- Ymgeiswyr hwyr: Gall unigolion sydd heb wneud unrhyw geisiadau i brifysgol ar gyfer mis Medi eleni wneud cais i Brifysgol Bangor yn uniongyrchol drwy Clirio.
Efallai eich bod yn ystyried gwneud cais am gwrs ym Mhrifysgol Bangor drwy Clirio am sawl rheswm:
- Os ar ddiwrnod y canlyniadau na wnaethoch chi gyflawni'r graddau gofynnol ar gyfer eich dewis cadarn neu yswiriant, gallai Clirio ym Mhrifysgol Bangor gynnig eich cyfle nesaf.
- Hyd yn oed os gwnaethoch chi fodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad dyma'r llwybr cywir i chi, gallwch 'ryddhau eich hun i Clirio' drwy UCAS ac archwilio'r opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
- Os nad ydych wedi gwneud cais i unrhyw brifysgol eto ar gyfer mis Medi eleni, mae Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig llwybr i ddechrau eich astudiaethau yr hydref hwn.
- Gall myfyrwyr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg neu'r rheiny sy'n newid gyrfa ganfod bod Clirio ym Mhrifysgol Bangor yn ffordd effeithlon o gyflawni cwrs academaidd mewn amgylchedd cefnogol.
- Os yw amgylchiadau annisgwyl wedi arwain at ystyried mynd i'r brifysgol yn hwyrach yn y cylch ymgeisio, gall Clirio ym Mhrifysgol Bangor gynnig llwybr i addysg uwch.
Wedi Gwneud Cais I Brifysgol Cyn Adeg Clirio
Gallwch, gallwch wneud cais drwy Clirio os oes gennych gynnig gan brifysgol arall. Os ydych wedi bodloni gofynion eich dewisiadau cychwynnol ond wedi penderfynu nad ydynt yn iawn i chi, gallwch ‘ryddhau eich hun i’r system Glirio’ trwy eich cyfrif UCAS a chwilio am yr opsiynau sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Bangor yw fy Newis Cadarn
Gweld eich statws ar-lein
Unwaith rydych wedi derbyn eich canlyniadau, gellwch edrych ar-lein i weld a ydyw eich lle gyda ni wedi cael ei gadarnhau drwy UCAS Hub.
Fodd bynnag, os nad oes penderfyniad i’w weld eto ar UCAS Hub, neu os ydych eisiau siarad â ni am eich cynnig amodol, yna byddwn yn cynnal Llinell Gymorth arbennig i ddelio ag unrhyw gwestiynau a all fod gennych ynghylch eich lle amodol ym Mangor.
Os ydych wedi cyflawni amodau ein cynnig:
- Cewch eistedd yn ôl – does dim rhaid i chi gysylltu â ni.
- Bydd cadarnhad ysgrifenedig o’ch lle yn cael ei anfon atoch yn syth o UCAS yn y dyddiau ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau.
Os nad ydych chi wedi cyflawni amodau ein cynnig:
Dylech gysylltu â ni’n syth fel y gallwn drafod y sefyllfa â chi
- Efallai y bydd yn dal yn bosibl i chi gymryd y lle yma neu gael eich ystyried ar gyfer cwrs cysylltiedig
- Pan fyddwch yn ffonio, gofalwch bod eich rhif UCAS a manylion am eich canlyniadau arholiad wrth law.
Bangor yw fy Newis Wrth Gefn
Unwaith rydych wedi derbyn eich canlyniadau, gellwch edrych ar-lein i weld a ydyw eich lle gyda ni wedi cael ei gadarnhau drwy UCAS Hub. Yn ogystal, ewch i weld y cyngor UCAS sydd ar gael am ddiwrnod canlyniadau a beth sydd yn digwydd nesaf.
Os nad ydych yn cyrraedd gofynion eich dewis cyntaf, ond yn cyrraedd ein gofynion ni, byddwch yn cael eich rhoi'n awtomatig yn eich dewis wrth gefn ym Mangor fel rhan o broses derbyniadau UCAS.
Fodd bynnag, os nad oes penderfyniad i’w weld eto ar UCAS Track, neu os ydych eisiau siarad â ni am eich cynnig amodol, cysylltwch â Llinell Gymorth Bangor.
Sicrhewch for eich rhif cais UCAS a'ch canlyniadau wrth law pan yn cysylltu â'r Llinell Gymorth.
Gwneud cais am Llety
Unwaith mae eich lle ym Mangor wedi ei gadarnhau byddwch yn derbyn ebost 24-48 yn ddiweddarach yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Bydd yr ebost yn egluro'r camau nesaf ac yn rhoi mynediad i chi at y system ymgeisio ar-lein.
Diwrnod Canlyniadau Lefel A
- Os nad ydych wedi cael y graddau neu’r sgôr pwyntiau sydd eu hangen arnoch, efallai y bydd y brifysgol sydd gennych fel dewis cadarn neu fel dewis wrth gefn yn penderfynu eich derbyn ar y cwrs.
- Cysylltwch â nhw gyntaf a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhaid i chi ddefnyddio’r drefn Glirio.
- Os ydynt yn penderfynu peidio â’ch derbyn, neu os nad oes gennych gynigion gan unrhyw sefydliad, rydych yn gymwys i wneud cais am le drwy’r system Glirio.
- Byddwch yn gwybod eich bod yn y drefn Clirio os ydi eich cais UCAS yn dweud ‘you are in Clearing’ neu ‘Clearing has started’.
- Mae ymgeiswyr sy'n gwneud ceisiadau ar ôl 30 Mehefin yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y system Glirio ac maent hwythau hefyd yn gymwys.
- Os ydych yn y system Glirio, rhaid i chi gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i holi am y lleoedd sydd ar gael ar eu cyrsiau ac i weld a ydych yn bodloni eu gofynion.
- Gallwch ffonio Llinell Gymorth Clirio Prifysgol Bangor.
- Bydd hi'n bosib trafod eich opsiynau a gwneud cais dros Sgwrs Fyw am gyfnod.
- Bydd Ffurflen Gais Ar-lein ar gael fel y gallwch wneud cais am gwrs drwy Clirio.
Peidiwch â phoeni — mae Clirio’n para llawer mwy nag un diwrnod, felly mae gennych amser i benderfynu a dod o hyd i’r cwrs iawn i chi.
Sicrhewch fod eich rhif cais UCAS, eich rhif Clirio, y codau cwrs, eich canlyniadau Lefel A a’r canlyniadau TGAU perthnasol wrth law gan y bydd y staff ar y Llinell Gymorth yn gofyn amdanynt. Bydd angen eich manylion cyswllt a'ch cyfeiriad e-bost arnom hefyd er mwyn anfon eich cynnig Clirio atoch yn ysgrifenedig.
Os yn bosibl, peidiwch â bod ar wyliau nac yn y gwaith, cadwch y diwrnod yn rhydd i gysylltu â phrifysgolion. Mae angen i chi fod ar gael i siarad â thiwtoriaid derbyniadau a gwneud penderfyniadau eich hun – ni all eich rhieni, athrawon a ffrindiau wneud hynny ar eich rhan. Os oes rhaid i chi weithio'r diwrnod hwnnw neu os ydych i ffwrdd yn teithio neu ar wyliau, mae'n werth rhoi awdurdod i riant/gwarcheidwad weld manylion eich cais UCAS fel y gallant siarad ar eich rhan.
Wedi Cael Cynnig Clirio
Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’ch cynnig Clirio swyddogol. Bydd cyfarwyddiadau yn yr e-bost yn esbonio sut i dderbyn y cynnig drwy ddewis Prifysgol Bangor fel eich dewis Clirio ar 'UCAS Hub'.
Unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig, byddwn yn anfon e-bost o fewn 24–48 awr yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Bydd yr e-bost yn egluro’r camau nesaf ac yn rhoi mynediad i’n system gais ar-lein.
Bydd cyfleoedd i ymgeiswyr Clirio ymweld â Phrifysgol Bangor cyn dechrau ym mis Medi. Rydym yn eich annog i ymweld â Phrifysgol Bangor cyn dechrau’r cwrs, yn enwedig os nad ydych wedi mynychu Diwrnod Agored o’r blaen.
Ydi, os gwnewch gais drwy Clirio ar gyfer cwrs sydd wedi’i leoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau ystafell mewn llety myfyrwyr cyn belled â’ch bod yn dewis Bangor drwy UCAS erbyn dydd Iau, 27 Awst, ac yn archebu eich lle yn y neuaddau erbyn dydd Llun, 31 Awst.
Pan fyddwch wedi derbyn ein cynnig Glirio, byddwn yn anfon e-bost o fewn 24–48 awr yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Bydd yr e-bost yn egluro’r hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf ac yn rhoi mynediad i’n system gais ar-lein.
Mae aelodaeth campfa am ddim wedi’i chynnwys yn nghost y neuaddau. Mae ein llety yn fodern ac yn eang, ac wedi’i osod yn 1af yng Nghymru ac yn 12fed yn y DU gan University Compare (2026).