Fy ngwlad:
Students lecture theatre

Clirio 2026: Canllaw i Athrawon a Chynghorwyr

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Pam Dewis Prifysgol Bangor Drwy Clirio?

Mae gan Fangor gymuned groesawgar, lefelau uchel o foddhad myfyrwyr, a gwasanaethau cymorth cryf. Bydd myfyrywr yn elwa ar:

 

Pori Cyrsiau Clirio

Sut I Helpu Cyn Diwrnod Y Canlyniadau?

Gall bod yn barod wneud gwahaniaeth mawr. Anogwch ymchwil gynnar:

Pori Ein Cyrsiau Clirio

Sut I Helpu Ar Ddiwrnod Y Canlyniadau?

Gallwch eu cefnogi drwy:

  • Gwirio eu statws UCAS Hwb
  • Ffonio'r Linell Gymorth Cirio i drafod eu opsiynau. Noder bod ein Llinell Gymorth Clirio bellach wedi cau. Llenwch y ffurflen ar-lein i wneud cais drwy Clirio..
  • Helpu i baratoi beth i’w ddweud a gwybod pa gyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt
  • Edrych ar y cyrsiau Clirio sydd ar gael

 

Beth Sy'n Digwydd Ar Ddiwrnod Y Canlyniadau?

Efallai fod rhai myfyrwyr ddim wedi cael y graddau neu’r sgôr pwyntiau sydd eu hangen, ond efallai y bydd y brifysgol sydd gennynt fel dewis cadarn neu fel dewis wrth gefn yn penderfynu eu derbyn ar y cwrs. Cysylltwch â nhw gyntaf a pheidiwch â chymryd yn ganiataol fod rhaid defnyddio’r drefn Glirio. Os ydynt yn penderfynu peidio â’u derbyn, neu os nad oes gan fyfyrwyr gynigion gan unrhyw brifysgol, yna maent yn gymwys i wneud cais am le drwy’r system Glirio. 

Bydd myfyrwyr yn gwybod eu bod yn y drefn Clirio os ydw eu cais UCAS yn dweud ‘You are in Clearing’ neu ‘Clearing has started’. Os ydynt yn y drefn Clirio, rhaid cysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i holi am y lleoedd sydd ar gael ar eu cyrsiau ac i weld a ydynt yn bodloni eu gofynion.

Cysylltu  Bangor Yn Ystod Clirio

Noder: Mae ein Llinell Gymorth Clirio, ein gwasanaeth Sgwrs Fyw a WhatsApp bellach wedi cau. Llenwch y ffurflen ar-lein i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau.

  • Cyn y diwrnod canlyniadau Lefel A ac yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Clirio.
  • Yn ystod cyfnod canlyniadau Lefel A, gallwch hefyd drafod eich opsiynau dros WhatsApp neu Sgwrs Fyw.
  • Llenwch y ffurflen ar-lein i gofrestru eich diddordeb mewn Clirio neu i wneud cais drwy Clirio os oes gennych eich canlyniadau.

Beth sy’n Digwydd yn ystod Galwad neu Sgwrs Fyw?

Pan fydd myfyrwyr yn ffonio ein Llinell Gymorth Clirio neu’n ymuno â Sgwrs Fyw Clirio, byddant yn: 

  • Siarad ag aelod cyfeillgar o'r tîm Clirio
  • Trafod eu canlyniadau a'r cyrsiau
  • Os yn llwyddiannus, yn derbyn cynnig llafar, ac yna cadarnhad o'r cynnig drwy e-bost

Beth Sy'n Digwydd Nesaf?

Anogwch nhw i:

  • Gymryd eiliad i feddwl am eu opsiynau a beth sydd yn bwysig iddyn nhw cyn derbyn unrhyw gynnig
  • Ymweld â ni os yn bosibl – mae gennym Ddiwrnod Ymweld Clirio a Diwrnod Agored Clirio

Unwaith mae myfyrwyr wedi derbyn cynnig lle drwy’r drefn Clirio dros e-bost ac wedi penderfynu dewis Prifysgol Bangor:

  • Mae angen iddynt ychwanegu Prifysgol Bangor fel eu dewis Clirio ar UCAS
  • Bydd Bangor wedyn yn cadarnhau eu lle
  • Byddant yn derbyn e-bost gyda gwybodaeth ar sut i wneud cais am lety
  • Bydd gwahoddiad i ymweld â ni ar Ddiwrnod Ymweld Clirio neu Ddiwrnod Agored Clirio.
legacy

Cirio - Cwestiynau Cyffredin i Athrawon a Chynghorwyr

Ydyn. Mae'n bosib rhyddhau eu hunain i'r drefn Glirio i chwilio am opsiynau eraill.

Ydyn. Mae llawer o fyfyrwyr yn newid pwnc neu gwrs drwy'r drefn Glirio.

Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o hyblygrwydd, yn dibynnu ar y cwrs.