Patrymau o Lwc Dda: Darganfod Celf Torri Papur Tsieineaidd!
Clwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd!
Mae ein Clwb Diwylliant Tsieineaidd yn ôl! Ymunwch â ni i archwilio harddwch a symbolaeth celf draddodiadol torri papur Tsieineaidd, lle mae patrymau cain yn cyfleu dymuniadau am hapusrwydd, ffyniant a lwc dda. Darganfyddwch y straeon y tu ôl i’r patrymau a chreu eich gwaith celf eich hun i fynd adref gyda chi.
Am ddim ac yn agored i bawb, gyda hyd at 10 lle ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Darganfyddwch sut y gall dalen syml o bapur droi’n ddarn hardd o gelf. Ymunwch â Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor am weithdy creadigol sy’n archwilio crefft draddodiadol torri papur Tsieineaidd.
Dysgwch am yr ystyron diwylliannol y tu ôl i batrymau cyfarwydd, o flodau ac anifeiliaid addurniadol i symbolau o lwc dda. Gyda chyfarwyddyd cam wrth gam, byddwch yn ymarfer technegau plygu a thorri cyn creu eich patrwm eich hun i fynd adref gyda chi.
Mwynhewch gyfle hamddenol i roi cynnig ar rywbeth newydd ac archwilio diwylliant Tsieineaidd drwy greadigrwydd.