Yn yr adran yma:
- Cyrsiau i bawb
- Prawf Hyfedredd Tseineaidd HSK/HSKK/YCT
- Addysg Bellach ac Uwch
- Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
- Ystafelloedd Dosbarth Confucius
Os hoffech i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod, yn cynnwys cyrsiau iaith Tsieinëeg (Mandarin), ymunwch â'n rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost.
Cyrsiau i Bawb
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau Tsieinëeg (Mandarin) i grwpiau ac unigolion ac maent yn addas i ystod o ddiddordebau a galluoedd. Gallwn addasu cyrsiau ar gyfer eich anghenion penodol chi a hefyd eich paratoi i sefyll arholiad HSK Mandarin, sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd codir tâl o £20 yr awr (gyda’r awr gyntaf am ddim) am ddosbarthiadau un-i-un gyda’n hathrawon Mandarin. Am fwy o wybodaeth, neu fanylion sut i ymgeisio, anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau Mandarin un i un ar gyfer unigolion sydd angen mwy o hyblygrwydd wrth ddysgu. Gallwn addasu’r gwersi i weddu i’ch anghenion penodol a gallwn hefyd eich paratoi i sefyll arholiad iaith Mandarin HSK a gydnabyddir yn rhyngwladol. Gellir cyflwyno’r gwersi fel bo’n gyfleus i chi yn ein swyddfeydd neu fel cwrs dysgu o bell dros Zoom..
Rydym yn cynnig gwersi iaith ar gyfer myfyrwyr/staff a’r cyhoedd sydd eisiau dysgu Mandarin fel hobi, sy’n gweithio tuag at arholiad, sydd angen yr iaith ar gyfer gwaith, neu sy’n meddwl am deithio i Tsieina. Mae eich sesiwn ymgynghori gyntaf yn rhad ac am ddim, ac ar ôl hynny mae’r Sefydliad yn codi £ 25 yr awr ar y cyhoedd, £ 20 yr awr ar gyfer staff Prifysgol Bangor a £ 15 yr awr ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Telerau ac amodau
- Mae Sefydliad Confucius (CI) yn codi sesiwn £ 25 yr awr ar y cyhoedd, sesiwn £ 20 yr awr i staff Prifysgol Bangor a sesiwn £ 15 yr awr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor (gyda’r awr gyntaf yn rhad ac am ddim).
- Gellir talu yma
- Cytunir ar dyddiadau’r gwersi rhwng yr athro/athrawes yn Sefydliad Confucius a’r cleient.
- Darperir y deunyddiau dysgu gan Sefydliad Confucius (ac eithrio’r gwerslyfrau a argymhellir).
- Sylwer fod angen o leiaf 24 awr o rybudd ar gyfer canslo neu ail-drefnu gwers.
Prawf Hyfedredd Tseineaidd, HSK / HSKK / YCT
Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn un o ganolfannau prawf cydnabyddedig yr arholiad HSK a gallwn eich helpu i astudio ar y lefel sydd fwyaf addas i chi.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn rhedeg Arholiadau HSK papur eto!
Does angen prawf COVID ar Brifysgol Bangor bellach, ond rydym yn annog pawb i gymryd hunan-brawf i sicrhau bod popeth yn ddiogel, yn enwedig os byddwch yn teimlo’n sâl ar y diwrnod.
Manylion yr arholiad
Bydd angen i chi ddod â'ch tocyn mynediad prawf HSK ac ID ffotograffig (pasbort, trwydded gyrrwr car ac yn y blaen) gyda chi pan fyddwch yn dod i sefyll y prawf HSK. Bydd angen pensiliau a rhwbiwr arnoch hefyd ar gyfer y prawf. Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na deunyddiau ysgrifenedig eraill yn yr ystafell arholi.
Cofiwch fod y Ganolfan Brawf yn cynnal gwahanol fathau o arholiadau ar rai dyddiadau. Ar rai o ddyddiadau'r arholiadau, byddech yn gallu archebu profion ysgrifenedig a/neu lafar, ac ar ddyddiadau eraill, dim ond prawf ysgrifenedig y cewch chi ei archebu. Gweler y tabl isod am ragor o wybodaeth am y math o arholiad sydd ar gyfer pob dyddiad.
Cofiwch, i sefyll rhifyn papur o arholiadau HSK 3-6, y gall yr ymgeiswyr archebu a sefyll arholiadau HSK a HSKK ar wahân, ac nid yr un pryd fel sydd raid ar gyfer fersiwn Cartref y prawf.
Dyddiadau ac amseroedd
Dyddiadau arholiadau HSK a HSKK
Hyfedredd Tsieinëeg - Prawf Ysgrifenedig a Phrawf Llafar
Blwyddyn | Dyddiad Arholiad | Math o arholiad | Dyddiad Cau Cofrestru a Thalu | Dyddiad Canlyniad |
2026 | 24 Ionawr (Sadwrn) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 27 Rhagfyr 2025 | 3 Mar |
2026 | 22 Mawrth (Sul) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 22 Chwefror | 22 Ebril |
2026 | 11 Ebrill (Sadwrn) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 14 Mawrth | 15 Mai |
2026 | 16 Mai (Sadwrn) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 18 Ebril | 16 Mehefin |
2026 | 28 Mehefin (Sul) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 30 Mai | 28 Gorffennaf |
2026 | 18 Gorffennaf (Sadwrn) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 20 Mehefin | 19 Awst |
2026 | 23 Awst (Sul) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 26 Gorffennaf | 23 Medi |
2026 | 13 Medi (Sul) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 16 Awst | 19 Hydref |
2026 | 17 Hydref (Sadwrn) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 19 Medi | 17 Tachwedd |
2026 | 7 Tachwedd (Sadwrn) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 10 Hydref | 7 Rhagfyr |
2026 | 13 Rhagfyr (Sul) | Prawf Ysgrifenedig a Llafar | 15 Tachwedd | 15 Ionawr 2027 |
Ffioedd yr arholiadau papur
Y Math o Brawf | Lefel | Ymgeiswyr | Ffi |
HSK | 1 | Myfyriwr | £15 |
Aelod o'r Cyhoedd | £20 | ||
2 | Myfyriwr | £25 | |
Aelod o'r Cyhoedd | £30 | ||
3 | Myfyriwr | £35 | |
Aelod o'r Cyhoedd | £40 | ||
4 | Myfyriwr | £45 | |
Aelod o'r Cyhoedd | £50 | ||
5 | Myfyriwr | £55 | |
Aelod o'r Cyhoedd | £60 | ||
6 | Myfyriwr | £65 | |
Aelod o'r Cyhoedd | £70 | ||
HSKK | Dechreuwr |
| £25 |
Canolradd |
| £35 | |
Uwch |
| £45 |
Gwybodaeth am gofrestru at yr arholiadau
Llanwch y ffurflen gofrestru yn y fan yma. Cofiwch e-bostio copïau o'r dogfennau canlynol i’r: confucinsitute@bangor.ac.uk
1. Eich llun yn unol â gofynion llun pasbort y Deyrnas Unedig
2. Copi o'ch ID (e.e., pasbort, trwydded yrru)
3. ID Myfyriwr (os yw'n berthnasol)
Gwybodaeth am dalu
Ar ôl gorffen cofrestru, dilynwch ycyswllt hwn i dalu'r ffi gywir am yr arholiad.
Mi gysylltwn i gadarnhau eich cofrestriad a byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi at y ganolfan brawf ddeng niwrnod cyn dyddiad yr arholiad.
Pob lwc yn yr arholiad!
HSK/HSKK
Mae'r arholiad HSK yn arholiad safonol rhyngwladol sy'n profi a mesur hyfedredd yn yr iaith Tsieinëeg. Mae'n asesu gallu siaradwyr anfrodorol i ddefnyddio Tsieinëeg yn eu bywydau dyddiol, academaidd a phroffesiynol. Mae'r HSK yn cynnwys chwe lefel (HSK I-VI) sy'n cyfateb i lefelau'r Chinese Language Proficiency Scales for Speakers of Other Languages (CLPS) a'r Common European Framework of Reference for Languages (CEF). Mae prawf HSK yn cynnwys elfennau gwrando, darllen a/neu ysgrifennu, ac mae'n agored i siaradwyr Tsieinëeg anfrodorol o bob oed. Prawf llafar yw HSKK, ac mae'n agored i siaradwyr Tsieinëeg anfrodorol o bob oed.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
YCT
Mae prawf YCT yn cynnwys elfennau gwrando, darllen a/neu ysgrifennu ac mae'n agored i bob siaradwr Tsieinëeg anfrodorol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae'r Prawf Llafar YCT yn agored i bob siaradwr Tsieinëeg anfrodorol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.
Addysg Bellach ac Uwch
Addysg Uwch
Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn gallu cynnig modiwlau dewisol mewn iaith a diwylliant Tsieineaidd (Mandarin) i fyfyrwyr yn gyfnewid am gredydau academaidd, a bwriedir i seminarau am ddiwylliant Tsieineaidd fod ar gael yn fuan yn rheolaidd.
Mae nifer o raddau ar y cyd ar gael gydag Astudiaethau Tsieineaidd. Gallwch ddysgu mwy yma.
Addysg Bellach
Rydym yn cynnig dysgu Tsieinëeg (Mandarin) mewn ysgolion a cholegau hyd at safon Lefel A, a gellir addasu cyrsiau hefyd i gyflawni gofynion Cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig (WBQ).
Yn ogystal, gall 20 oed wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy’n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn: confuciusinstitute@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 388555.
Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
Rydym yn cynnig dysgu Tsieinëeg (Mandarin) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnal cyrsiau wedi’u hachredu, er ein bod yn gobeithio cyflwyno QCFs galwedigaethol yn 2016. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ar ein cyrsiau i ysgolion weithio tuag at sefyll yr arholiad iaith HSK Mandarin a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac rydym yn ganolfan brofi gydnabyddedig ar gyfer y cymhwyster hwn.
Yn ogystal gall ysgolion fanteisio ar ein Carwsél Diwylliannol Tsieineaidd, sef detholiad hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn o weithdai rhyngweithiol yn cynnwys gweithgareddau fel caligraffeg, cerddoriaeth, torri papur, gwneud barcutiaid a dawns draddodiadol i enwi ond ychydig.
Yn ogystal, gall 20 o fyfyrwyr wneud cais am ein Hysgol Haf flynyddol, sy'n cynnwys ymweliad pythefnos â China gyda thywysydd (ceisiadau i’w cyflwyno erbyn mis Ebrill y flwyddyn y bwriadwch deithio).
Ystafelloedd Dosbarth Confucius
Mae Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn fenter gan Sefydliad Addysg Ryngwladol Tsieineaidd (CIEF) newydd, sefydliad elusennol anllywodraethol ydyw, sy'n cynnwys cynghrair o brifysgolion Tsieina gan gynnwys Prifysgol Beijing, Prifysgol Fudan, Prifysgol Iaith a Diwylliant Beijing, a sefydliadau a chwmnïau cymdeithasol eraill.
Mae HANBAN wedi ymrwymo i ddatblygu iaith a diwylliant Tsieineaidd ar draws y byd ac mae hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys Sefydliadau Confucius ym mhob rhan o'r byd.
Lleolir Ystafelloedd Dosbarth Confucius mewn ysgolion a cholegau ac maent yn derbyn cyllid penodol. Eu bwriad yw gweithredu fel canolfannau lleol a all ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd ar draws cymunedau.
Caiff pob ystafell ddosbarth ryddid i weithredu yn ôl ei chyd-destun neilltuol gyda'r nod o hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieineaidd i'r plant a'r bobl ifanc yn ei dalgylch.
Mae'r Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi cael cyllid gan Hanban i sefydlu pum o Ystafelloedd Dosbarth Confucius yn rhanbarth Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol.
Mae'r ysgolion llwyddiannus yn cynnwys dwy ysgol uwchradd leol a thair ysgol gynradd.
Agorodd yr Ystafell Ddosbarth Confucius yn Friars yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2013. Mae'r ysgol yn gweithredu fel canolbwynt rhanbarthol i ddysgu iaith a diwylliant Tsieineaidd ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'r ysgol ar ehangu nifer y gwersi Mandarin a datblygu gweithgareddau diwylliannol newydd a chyffrous i bawb.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Uwchradd Friars
Lôn Y Bryn, Bangor LL57 2LN
E-bost :pennaeth@friars.gwynedd.sch.uk
Ffôn: 01248 364905
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Mr David Healey
Gwefan yr ysgol: http://moodletest.friars.gwynedd.sch.uk
Agorwyd Ystafell Ddosbarth Confucius Ysgol Uwchradd Caergybi yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2014. Yr ysgol yw canolbwynt rhanbarthol Ynys Môn ac ar hyn o bryd rydym yn darparu dau ddiwrnod o ddosbarthiadau Mandarin bob wythnos. Mae'r ysgol hefyd yn derbyn disgyblion o ysgolion cynradd lleol sy'n dod i wersi Mandarin a gweithgareddau diwylliannol yn yr ystafell ddosbarth Confucius. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddatblygu gweithgareddau diwylliannol ychwanegol gyda'r ysgol ac yn edrych ymlaen at weld myfyrwyr yn sefyll arholiad HSK yn y dyfodol agos.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Uwchradd Caergybi
Teras Alderley, Caergybi Ynys Môn, LL65 1NP
E-bost: yucoffice@ynysmon.gov.uk
Ffôn: 01407 762219
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Gill Mortlock
Gwefan yr ysgol: http://www.ysgoluwchraddcaergybi.cymru/
Agorodd yr Ystafell Ddosbarth Confucius yn Ysgol Ein Harglwyddes yn 2017. Dechreuodd y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor gynnig dosbarthiadau Mandarin a gwahanol weithgareddau fel Tai qi yn yr ysgol yn 2015. Ar hyn o bryd mae gennym ddosbarthiadau Mandarin ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ogystal â chlwb ar ôl ysgol a dosbarthiadau Tai qi. Mae'r ysgol yn gefnogol iawn ac yn annog y disgyblion i ddysgu bod yn Ddinasyddion Byd-eang - bod yn ymwybodol o'r byd, eu swyddogaeth ynddo a chymryd rhan mewn cymunedau ar lefel leol a byd-eang.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Ein Harglwyddes
Ffordd Caernarfon, Bangor, LL57 2UT
E-bost: pennaeth@ourladys.gwynedd.sch.uk
Ffôn: 01248 352463
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Kay O'Hanlon
Gwefan yr ysgol: http://www.ourladys.gwynedd.sch.uk/
Agorwyd Ystafell Ddosbarth Confucius yn Ysgol Gynradd Esgob Morgan yn 2017. Fodd bynnag, mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnig dosbarthiadau a gweithgareddau Mandarin yn yr ysgol ers 2014. Yr ysgol yw'r canolbwynt dysgu yn Sir Conwy ac mae'n darparu cyfleoedd i ysgolion eraill a'r gymuned. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol bedwar dosbarth Mandarin bob dydd Mawrth.
Am fwy o wybodaeth am bob ystafell ddosbarth, ewch i wefan yr ysgol.
Ysgol Gynradd Esgob Morgan
17 Fford Siarl, Llanelwy, LL17 0PT
E-bost: esgob.morgan@denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01745583690
Cyswllt Ystafell Ddosbarth Confucius: Ms. Tim Redgrave
Gwefan yr ysgol: http://www.esgobmorgan.co.uk/