Cryfhau Cysylltiadau Academaidd: Prifysgol Bangor a CUPL yn Lansio’r Gyfnewidfa Ddysgu Gyntaf!
Rydym yn falch o rannu'r newyddion am gyfnewidfa ddysgu newydd sbon rhwng Prifysgol Bangor a'r China University of Political Science and Law (CUPL), cam cyntaf cyffrous mewn partneriaeth academaidd yr ydym yn gobeithio a fydd yn un hirhoedlog a gwerthfawr.
Yn yr haf, Dr Eirini Sanoudaki oedd yr aelod cyntaf o staff Bangor i gymryd rhan yn y gyfnewidfa, gan ddysgu cwrs ar gaffael iaith i fyfyrwyr CUPL yn Beijing. Roedd ei chyfnod yno yn llwyddiant ysgubol, gyda’r myfyrwyr yn ymateb yn frwdfrydig i'w darlithoedd ac yn cynnig canmoliaeth trwy gydol y cwrs.
Gwnaeth cyfnod Dr Sanoudaki ar lawr y dosbarth argraff barhaol. Daeth yn ôl i Fangor gyda detholiad o luniau a negeseuon meddylgar gan fyfyrwyr, yn adlewyrchu'r cysylltiad cryf a adeiladodd â'r myfyrwyr. Ysgrifennodd un myfyriwr: “Mwynheais y darlithoedd yn fawr iawn. Dysgais lawer am iaith a sut mae'n gweithio. Roedd yn ddifyr iawn. Diolch am eich dysgu brwdfrydig a difyr!”
Meddai un arall: “Mae'r gwersi'n ddiddorol ac yn ystyrlon… Dw i'n hoffi cyflymder eich darlithoedd a'ch ffyrdd dysgu llawn hiwmor a diffuant. Rwy'n teimlo mor hapus a hamddenol y dyddiau hyn."
Dywedodd llawer o fyfyrwyr fod y cwrs wedi gwneud iddynt feddwl am iaith a chyfathrebu mewn ffordd newydd. Dyma oedd un sylw cofiadwy yn ei ddweud: “Roedd gennyf ddealltwriaeth sylfaenol o ieithyddiaeth. Mae gan iaith batrymau… mae hynny'n wych!”
Wrth feddwl am ei phrofiad, dywedodd Dr Sanoudaki: “Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr iawn, ac rwy’n ddiolchgar i Sefydliad Confucius am drefnu a chefnogi’r gweithgaredd hwn. Ymatebodd y myfyrwyr yn CUPL yn frwdfrydig wrth ddysgu am ieithyddiaeth a Bangor; dysgais lawer am yr iaith Tsieinëeg, lletygarwch a diwylliant gwych, a gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd. Mae’r fenter hon wedi helpu datblygu cysylltiadau a fydd yn rhai parhaol, yn fy marn i: Dw i'n edrych ymlaen at y camau nesaf a'm hymweliad nesaf yn barod!”
Rydym yn falch dros ben bod profiad Dr Sanoudaki wedi bod yn werthfawr ac yn effeithiol, iddi hi ac i'r myfyrwyr hefyd. Wrth iddi ddychwelyd i Fangor i rannu ei phrofiadau gyda’i chydweithwyr, rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y dechrau cadarnhaol hwn.
Mae'r cynllun cyfnewid hwn eisoes wedi dangos potensial fel llwyfan i gydweithio academaidd a diwylliannol. Rydym yn falch o fod wedi gallu cynnig cefnogaeth i helpu hwyluso'r cynllun cyfnewid hwn, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfrannu at gryfhau cysylltiadau academaidd a diwylliannol rhwng ein prifysgolion partner.