Cyfnewidfa addysgu Bangor-China yn disgleirio gyda chwrs poblogaidd am ddeallusrwydd artiffisial ym maes cyfiawnder troseddol!
Yn ddiweddar cyflwynodd Martina Feilzer, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, gwrs pythefnos a gafodd ganmoliaeth uchel ar y pwnc Public Attitudes to the Use of AI Technologies in Criminal Justice ym Mhrifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina (CUPL) yn Beijing. Denodd y rhaglen, a archwiliodd ganfyddiadau’r cyhoedd a phryderon moesegol ynghylch defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn systemau cyfiawnder troseddol, ddiddordeb cryf gan fyfyrwyr a staff.
Gwnaed y cwrs yn bosibl trwy'r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Prifysgol Bangor a CUPL, a sefydlwyd a'i hwyluso gan Sefydliad Confucius. Gosododd y cydweithrediad hwn y sylfaen i gyfnewid addysgu ac mae'n parhau i gefnogi deialog academaidd trawsddiwylliannol.
Dywedodd Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, “Cafodd cwrs Martina dderbyniad arbennig o dda, gyda chanmoliaeth am ei gynnwys gafaelgar, ei berthnasedd cyfoes, a’r dull cyflwyno a oedd yn ysgogi’r meddwl. Roedd y cyfranogwyr yn gwerthfawrogi'n arbennig y cyfle i archwilio safbwyntiau byd-eang ar y croestoriad rhwng technoleg a chyfiawnder.
“Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, traddododd Martina ddarlith wadd ar Ddatblygiadau Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru i academyddion a myfyrwyr CUPL. Roedd y ddarlith yn cynnig mewnwelediadau cymharol i systemau cyfiawnder ieuenctid a sbardunodd drafodaeth fywiog am ymgysylltu â phobl ifanc a diwygio cyfreithiol.
“Roedd yr ymweliad yn amlygu cryfderau Prifysgol Bangor mewn astudiaethau cyfiawnder a throseddeg, ac yn atgyfnerthu gwerth cydweithio rhyngwladol wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang a rennir.”