Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn Ysbrydoli Athrawon Ysgolion Cynradd drwy Iaith a Diwylliant!
Ar 25 Mehefin 2026, roedd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn falch o gymryd rhan yn ail ddigwyddiad dysgu proffesiynol Prosiect Ieithoedd Rhyngwladol a drefnwyd y mis hwn gan gydweithwyr Prifysgol Bangor, Nathalie Thomas a Ruben Chapela-Orri, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd yr wythnos flaenorol, croesawodd y sesiwn hon athrawon cynradd o wyth ysgol ledled Gogledd Cymru i archwilio dulliau arloesol o addysgu ieithoedd er mwyn cefnogi Cwricwlwm i Gymru.
Yn ystod yr arddangosfa amser cinio, cyflwynodd Sefydliad Confucius yr ystod eang o raglenni iaith Mandarin a diwylliant Tsieineaidd sydd ar gael i ysgolion cynradd, gan gynnwys gwersi yn yr ystafell ddosbarth, gweithdai diwylliannol, hyfforddiant i athrawon, a phartneriaethau ag ysgolion. Cafodd yr athrawon hefyd gyflwyniad byr yn arddangos rhai o weithgareddau diwylliannol mwyaf poblogaidd y Sefydliad.
Cynhaliodd y Sefydliad hefyd sesiwn flasu ryngweithiol o'r iaith Mandarin, gan gyflwyno ynganiad sylfaenol, ymadroddion bob dydd syml, a gweithgareddau ymarferol a ddangosodd sut y gellir cyflwyno Mandarin mewn ffordd hwyliog, ymarferol a hygyrch.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwerthfawr i athrawon brofi manteision cyfuno dysgu iaith â dealltwriaeth ddiwylliannol. Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio ag ysgolion cynradd ledled Cymru, gan gefnogi athrawon ac ysbrydoli pobl ifanc i ddatblygu diddordeb yn yr iaith Mandarin a diwylliant Tsieina.