Meddwl yn Feirniadol, Dysgu'n Fyd-eang: Myfyrwyr CUPL yn Cymryd Rhan mewn Dwy Ysgol Haf Ar-lein!
O 30 Mehefin i 18 Gorffennaf 2025, cymerodd myfyrwyr o Brifysgol Gwyddorau Cyfreithiol a’r Gyfraith Tsieina (CUPL) ran mewn dwy ysgol haf ar-lein ddifyr, a gynlluniwyd i fireinio eu sgiliau academaidd ac ehangu eu gorwelion diwylliannol.
Cynhaliwyd yr ysgolion haf ar y cyd gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor a Swyddfa Sefydliadau Confucius yn CUPL. Roedd y rhaglenni'n cynnig cymysgedd cyffrous o feddwl beirniadol, Saesneg academaidd a gwybodaeth am ddiwylliant Prydeinig. Dan arweiniad Anthony Brooks o Brifysgol Bangor, roedd y sesiynau'n fywiog, yn rhyngweithiol ac yn llawn cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu, cydweithio ac adfyfyrio.
Roedd y cwrs meddwl yn feirniadol yn annog myfyrwyr i feddwl yn ddyfnach ac yn fwy dadansoddol. Cawsant ddysgu sut i adeiladu dadleuon cryfach, ysgrifennu gyda mwy o eglurder a chymryd rhan mewn dadleuon strwythuredig gyda hyder cynyddol.
Rhoddodd y rhaglen diwylliant Prydain a sgiliau academaidd gyflwyniad i fywyd a dysgu yn y Deyrnas Unedig Trafododd y myfyrwyr elfennau allweddol o gymdeithas Prydain, o draddodiadau ac arferion bob dydd i faterion cyfoes, gan ddatblygu sgiliau astudio hanfodol fel cyfeirio, gwaith tîm a chyfathrebu academaidd.
Trwy gydol y ddau gwrs, bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp bach, tasgau ymarferol, a phrojectau adfyfyriol – a gyflwynwyd mewn amgylchedd ar-lein cefnogol ac ysgogol.
Roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn gadarnhaol dros ben. Dywedodd llawer ohonynt fod y cyrsiau yn "ysbrydoledig," "difyr", ac yn "agoriad llygaid" Nododd sawl un fod eu hyder wedi gwella'n sylweddol wrth ddefnyddio’r iaith Saesneg, ac adnewyddodd frwdfrydedd llawer ohonynt i weddill eu hastudiaethau academaidd.
'Mae'r ysgolion haf hyn yn enghraifft wych o'r hyn y mae ein partneriaeth â CUPL yn gallu ei gyflawni.', meddai Dr Lina Davitt. 'Gyda'n gilydd rydym yn grymuso myfyrwyr i ymestyn eu huchelgeisiau, cyfoethogi eu sgiliau academaidd a datblygu agwedd wirioneddol fyd-eang trwy anturiaethau dysgu ysbrydoledig a chydweithredol.