Plethu Dymuniadau Da yng Nghlwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd Prifysgol Bangor!
Llinyn syml, cyfres o ddolenni gofalus a dymuniad am lwc dda! Daeth Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor â chrefft draddodiadol clymau Tsieineaidd i’w Glwb Cinio Diwylliant Tsieineaidd, gan gynnig cyflwyniad creadigol i’r grefft ystyrlon hon.
Archwiliodd y gweithdy’r symbolaeth sydd wedi’i phlethu i glymau Tsieineaidd, a ddefnyddir i addurno cartrefi a dathliadau ac i gyfleu dymuniadau am hapusrwydd, heddwch a lwc dda. Cafwyd cyfle hefyd i ddysgu pam mae gan y lliw coch le arbennig yn niwylliant Tsieina, gan gynrychioli llawenydd a dymuniadau da.
Yn dilyn arddangosiad dan arweiniad, cafodd y sawl a gymerodd ran gyfle i blygu’r llinyn, ffurfio dolenni a’i dynhau’n ysgafn i greu cwlwm addurnol yn symbol o heddwch a diogelwch. Roedd y gweithgaredd yn gyfle i arafu, rhoi cynnig ar sgìl draddodiadol a chysylltu â diwylliant Tsieina drwy waith creadigol ymarferol.
Daeth y cwlwm a luniwyd â llaw yn gofrodd i fynd adref neu’n anrheg ystyriol i’w rhannu: darn bach o draddodiad Tsieina yn cario dymuniadau cynnes y tu hwnt i’r gweithdy.