Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau, cymhwysedd a'r wybodaeth uwch sydd eu hangen ar ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol i awdurdodi a rheoli trallwyso gwaed mewn modd diogel, moesegol ac wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae’r modiwl yn defnyddio dull addysgu sy’n cefnogi dysgu annibynnol, gan alluogi gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio eu harbenigedd yn effeithiol ym maes trallwyso gwaed.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Nod y modiwl yw meithrin gwybodaeth, cymhwysedd a sgiliau uwch ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn iddynt allu awdurdodi a rheoli trallwyso gwaed yn ddiogel, yn foesegol ac ar sail tystiolaeth. Mae'n hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gwneud penderfyniadau clinigol uwch, ymarfer myfyriol a rhagnodi diogel, ac yn meithrin cydweithio â Gwasanaeth Gwaed Cymru i wella gofal cleifion.
Ydi’r cwrs yma’n addas i chi?
Mae'r modiwl Awdurdodiad Annibynnol ar gyfer Trallwyso Cydrannau Gwaed yn cynnig cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol feithrin gwybodaeth a sgiliau uwch i reoli trallwyso gwaed yn ddiogel ac yn foesegol. Wedi’i gyflwyno drwy ddysgu o bell ac mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Gwaed Cymru, mae’r cwrs 40 credyd hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, gwella gofal cleifion a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyfreithiol a moesegol.
Gofynion mynediad*
Rhaid i ymgeiswyr fod â’r canlynol:
- Wedi cofrestru fel Ymarferydd Gofal Iechyd
- Ffafrir gradd 2:1 neu radd dosbarth cyntaf; bydd ceisiadau gan y rhai sydd â 2:2 yn cael eu hystyried yn seiliedig ar eirdaon a datganiad personol
- Tystiolaeth o fynediad i leoliadau clinigol sy'n cyd-fynd â deilliannau dysgu'r rhaglen
- Meddu ar wiriad uwch cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Darparu datganiad personol cryf a geirda proffesiynol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr hŷn a'r rhai sy'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant gyrfa.
*yn amodol ar gymeradwyaeth a dilysiad terfynol y cwrs.
Gofynion Mynediad
Dylai’r darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch).
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau isod cyn gwneud cais. Mae’r cyfarwyddiadau’n nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano, a bydd dilyn y cyfarwyddiadau’n arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth bresennol;
- Blynyddoedd o brofiad a hanes cyflogaeth (fel sy'n berthnasol)
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o gwblhau'r ffurflen gais.