Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mewn byd sy’n fwyfwy rhyng-gysylltiedig, nid yw deall y llinell denau rhwng meddiant diwylliannol a gwerthfawrogiad diwylliannol yn rheidrwydd moesegol yn unig, mae’n sgíl hanfodol ar gyfer llywio tirweddau proffesiynol, academaidd a chymdeithasol amrywiol. Mae’r cwrs pedair wythnos deinamig hwn a fydd yn procio’r meddwl yn cynnig archwiliad manwl o gyfnewid diwylliannol, deinameg pŵer, ac ymgysylltiad parchus â thraddodiadau byd-eang. P'un a ydych chi'n addysgwr, artist, arweinydd busnes, actifydd, neu'n syml yn rhywun sy'n angerddol am gydraddoldeb ac amrywiaeth, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r gallu hanfodol i chi feithrin parch diwylliannol gwirioneddol mewn cyd-destunau personol a phroffesiynol.
Perthnasedd y cwrs
Mae meddiant diwylliannol yn fwy nag ymadrodd dyrys; mae'n fater cymhleth sy'n croestorri hanes, hunaniaeth, economeg, a strwythurau pŵer systemig. Gall camsyniadau arwain at niwed, camddealltwriaeth, ac anghydraddoldeb barhaus. Mewn cyferbyniad, gall gwerthfawrogiad diwylliannol dilys gyfoethogi perthnasoedd, ysbrydoli creadigrwydd, a chodi pontydd ar draws cymunedau. Nid yw'r cwrs hwn yn ymwneud â gosod rheolau anhyblyg; mae'n ymwneud â meithrin ymwybyddiaeth, empathi, a gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n parchu cyfoeth diwylliannau byd-eang tra'n cydnabod y cyd-destunau hanesyddol sy'n eu siapio.
Ar gyfer pwy?
- Addysgwyr ac academyddion sy'n ceisio arferion pedagogaidd cynhwysol.
- Artistiaid, ysgrifenwyr a phobl greadigol.
- Gweithwyr proffesiynol corfforaethol a marchnatwyr sy'n anelu at gynrychiolaeth foesegol.
- Gweithredwyr ac arweinwyr cymunedol sy’n eiriol dros gyfiawnder cymdeithasol.
- Unrhyw un sydd wedi ymrwymo i dwf personol mewn amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyddiadau ac amseroedd y cwrs
Mae’r amser yr un peth ar gyfer pob un o’r dyddiadau, 6.00YP – 8.00YP
- Dydd Iau 16/10/2025
- Dydd Iau 23/10/2025
- Dydd Iau 30/10/2025
- Dydd Iau 06/11/2025
Lleoliad
The R.T.Jenkins (Ystafell Darlithfa 3),
Prifysgol Bangor,
Ffordd y Coleg,
Bangor
LL57 2DG
Nodweddion Cwrs
- Darlithoedd difyr wedi'u cyfuno â thrafodaethau rhyngweithiol.
- Gweithgareddau ymarferol wedi'u teilwra i gyd-destunau proffesiynol a phersonol amrywiol.
- Astudiaethau achos yn rhychwantu celf, addysg, busnes, y cyfryngau a gweithredu.
- Dysgu cyfoedion a chan gyfoedion mewn amgylchedd cefnogol, adfyfyriol.
Arwyddocâd ar gyfer amryw ddisgyblaethau
Mae'r cwrs hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n llywio amgylcheddau amlddiwylliannol – boed yn dylunio ymgyrchoedd marchnata, yn curadu arddangosfeydd celf, yn arwain ystafelloedd dosbarth, yn datblygu polisi, neu’n cymryd rhan mewn actifiaeth fyd-eang. Mae deall deinameg diwylliannol yn fwy nag osgoi camgymeriadau yn unig; mae'n ymwneud â meithrin cysylltiadau dyfnach, meithrin mannau cynhwysol, a chyfrannu at fyd tecach.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Wythnos 1: Deall Meddiant Diwylliannol – Gwreiddiau, Gwirionedd a Goblygiadau
- Diffinio meddiant diwylliannol mewn cyferbyniad â gwerthfawrogiad.
- Cyd-destun hanesyddol: coloneiddio, deinameg pŵer, ac ecsbloetio diwylliannol.
- Astudiaethau achos o’r byd ffasiwn, cerddoriaeth, y cyfryngau a bywyd bob dydd.
- Trafodaeth grŵp: Myfyrio ar brofiadau personol gyda diwylliant.
Wythnos 2: Moeseg Cyfnewid Diwylliannol – Grym, Braint a Lleoliad
- Pwy sydd â'r hawl i gynrychioli pwy? Archwilio materion llais ac asiantaeth.
- Rôl braint mewn treuliant a chynrychiolaeth diwylliannol.
- Pryd mae cyfnewid diwylliannol yn dod yn manteisio niweidiol?
- Gweithgaredd ryngweithiol: Dadansoddi sefyllfaoedd o’r byd go iawn o wahanol ddiwydiannau.
Wythnos 3: Hyrwyddo Gwerthfawrogiad Diwylliannol Gwirioneddol – Ymwneud yn Ymarferol â Pharch
- Egwyddorion gostyngeiddrwydd diwylliannol a gwrando gweithredol.
- Cydweithio â chymunedau diwylliannol: Caniatâd, credyd, a chyd-destun.
- Llywio sefyllfaoedd cymhleth: Meysydd llwyd dylanwad ac addasu.
- Gweithdy: Datblygu canllawiau ar gyfer ymgysylltu diwylliannol moesegol yn eich maes.
Wythnos 4: O Ymwybyddiaeth i Weithredu – Sefydlu Mannau Cynhwysol a Pharchus
- Creu fframweithiau cymhwysedd diwylliannol mewn gweithleoedd, ystafelloedd dosbarth, a phrosiectau creadigol.
- Strategaethau ar gyfer cymdeithion (allies): Herio meddiant diwylliannol pan fyddwch chi'n ei weld.
- Ymarfer myfyriol: Cynlluniau gweithredu personol ar gyfer dysgu parhaus ac eiriolaeth.
- Tasg olaf: Cyflwyno astudiaeth achos neu fenter gan ddefnyddio egwyddorion y cwrs.
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr wedi:
- Cydnabod y cymhlethdodau sy'n ymwneud â meddiannu a gwerthfawrogi diwylliannol.
- Datblygu sgiliau meddwl beirniadol i ddadansoddi deinameg diwylliannol mewn cyd-destunau amrywiol.
- Meddu ar y sgiliau i wneud penderfyniadau moesegol mewn cyd-destunau creadigol, proffesiynol a chymdeithasol.
- Meithrin meddylfryd o ostyngeiddrwydd diwylliannol, dysgu parhaus, a deialog barchus.
Cost y Cwrs
Does dim cost i'r cwrs.
Gwneud Cais
I gofrestru ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch ar y ddolen:
Cofrestrwch eich diddordeb ar gyfer Deall Diwylliant: Sut mae’i ddathlu, nid ei ddilorni: