Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Trwy gyfuniad deinamig o ddamcaniaeth seicolegol, dadansoddiad hanesyddol, ac astudiaethau achos o’r byd go iawn, bydd cyfranogwyr yn archwilio gweithrediad mewnol crefyddau peryglus a’r grymoedd cymhleth sy’n denu pobl atynt.
Bob wythnos, bydd y cwrs yn mynd i’r afael ag agwedd wahanol ar seicoleg a dylanwad crefyddau peryglus. Byddwch yn archwilio pam mae unigolion yn cael eu denu at grwpiau rheolaethol iawn, sut mae technegau trin – megis “love bombing” a hynysu yn cynnal teyrngarwch, a rôl arweinyddiaeth garismatig wrth gadw rheolaeth. Byddwch hefyd yn archwilio enghreifftiau hanesyddol a chyfoes, o symudiadau crefyddol i siambr adlais ar-lein, crefyddau llesiant, ac eithafiaeth wleidyddol.
Mae’r cwrs yn dod i ben drwy ganolbwyntio ar ddianc, adferiad, ac atal, gan roi’r gallu i ddysgwyr adnabod rheolaeth orfodaeth a chefnogi gwytnwch ynddynt eu hunain ac eraill.
Wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn seicoleg, cymdeithaseg, troseddeg neu gyfiawnder cymdeithasol, mae’r cwrs hwn yn annog meddwl beirniadol, trafodaeth fyfyriol, ac ymwybyddiaeth gymhwysol. P’un a ydych yn archwilio llwybrau gyrfa neu'n dilyn chwilfrydedd personol, fe gewch ddealltwriaeth ddyfnach o angen dynol am berthyn, a sut y gellir ei feithrin neu’i gamddefnyddio
Dyddiadau ac amseroedd y cwrs
Mae'r amser yr un peth ar gyfer pob un o'r dyddiadau, 6.00YP - 8.00YP
13 Tachwedd
20 Tachwedd
27 Tachwedd
4 Rhagfyr
Lleoliad
Ystafell Darlith 3, Y Prif adeilad, Prifysgol Bangor, Gwynedd ,LL57 2DG
Deilliannau Dysgu a Manteision y Cwrs
Erbyn diwedd y cwrs 4 wythnos hwn, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
Dealltwriaeth Seicolegol
- Nodi’r prif nodweddion seicolegol sy'n gwneud unigolion yn agored i gael eu recriwtio i gyltiau, gan gynnwys rhagfarnau gwybyddol, gwendidau emosiynol, ac anghenion o ran hunaniaeth.
- Egluro mecanweithiau dylanwad a rheolaeth, megis cyflyru, gasleitio, a meddylfryd grŵp, gan ddefnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn.
Dadansoddi Beirniadol
- Dadansoddi cyltiau hanesyddol a chyfoes drwy astudiaethau achos, gwerthuso eu strwythur, eu harweinyddiaeth, a'u heffaith ar aelodau a chymdeithas.
- Gwahaniaethu rhwng uwch-grwpiau rheoli a systemau cred prif ffrwd, gan gymhwyso fframweithiau cymdeithasegol a seicolegol.
Cyfathrebu a Dadlau
- Cymryd rhan mewn trafodaethau gwybodus ynghylch dimensiynau moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol cyltiau, gan gynnwys rhyddid cred o gymharu â manipiwleiddio.
- Cyflwyno dadleuon rhesymegol am bynciau dadleuol megis portread cyltiau yn y cyfryngau, troseddolrwydd, a rôl carisma mewn arweinyddiaeth.
Dealltwriaeth Gymhwysol
- Adnabod arwyddion rhybudd cynnar o reolaeth drwy orfodaeth a manipiwleiddio mewn amrywiol leoliadau (e.e., cymunedau ar-lein, mudiadau llesiant, grwpiau gwleidyddol).
- Cynllunio strategaethau ymwybyddiaeth i addysgu eraill am ddynameg cyltiau a hyrwyddo gwytnwch seicolegol.
Twf Personol ac Adfyfyriol
- Adfyfyrio ynghylch systemau cred personol a'u rhagdueddiad i ddylanwad, gan feithrin mwy o hunanymwybyddiaeth a meddwl beirniadol.
- Gwerthuso rôl y cyd-destun cymdeithasol, trawma, ac ynysigrwydd wrth bennu pa mor agored yw unigolyn i gael eu recriwtio i gwlt.
Mae’r Cwrs yn Ddelfrydol ar gyfer Dysgwyr Sydd
- Yn chwilfrydig am seicoleg, troseddeg, cymdeithaseg, neu faterion cymdeithasol cyfoes
- Eisiau archwilio'r croestoriad rhwng cred, hunaniaeth a rheolaeth
- Yn ystyried astudiaethau pellach neu yrfaoedd ym meysydd iechyd meddwl, gorfodi'r gyfraith, gwaith cymdeithasol, neu addysg
- Mwynhau dysgu rhyngweithiol, trafodaeth, a chymhwysiad yn y byd go iawn
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Wythnos 1: Y Seicoleg y tu ôl i Atyniad Cwlt
Dyddiad: 13 Tachwedd:
- Sut mae diffinio cwlt?
- Nodweddion seicolegol sy'n gwneud unigolion yn agored i gael eu dylanwadu arnynt
- Rôl hunaniaeth, perthyn, a chred
- Cyflwyniad i berswadio gorfodol a chyflyru
Wythnos 2: Manipiwleiddio, Rheoli a Dal Gafael
Dyddiad: 20 Tachwedd:
- Technegau manipiwleiddio: bomio â chariad, ynysu, ofn
- Arweinyddiaeth garismatig a dynameg pŵer
- Dibyniaeth seicolegol ac anghyseinedd gwybyddol
- Y llinell aneglur rhwng ymgysegriad a rheolaeth
Wythnos 3: Cyltiau mewn Hanes a Chymdeithas Gyfoes
Dyddiad: 27 Tachwedd:
- Mudiadau cwlt hanesyddol a'u heffaith gymdeithasol
- Grwpiau modern sy’n debyg i gyltiau: llesiant, gwleidyddiaeth, cymunedau ar-lein
- Portread yn y cyfryngau a diddordeb y cyhoedd
- Cyltiau fel rhwydweithiau troseddol cudd
Wythnos 4: Torri’n Rhydd a Symud Ymlaen
Dyddiad: 4 Rhagfyr:
- Strategaethau i dorri’n rhydd ac adfer
- Systemau cefnogi a dadraglennu
- Heriau cyfreithiol a moesegol
- Ymwybyddiaeth ac atal cyltiau
Cost y Cwrs
Does dim cost i'r cwrs.
Gwneud Cais
I gofrestru ar gyfer y cwrs, cliciwch ar y ddolen isod:
Y Tu Mewn i'r Meddwl: Deall Cyltiau a'u Dylanwad