Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd yr MSc mewn Cyfrifeg a Bancio yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth uwch am gyfrifeg a bancio, a fydd o ddiddordeb arbennig i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant ariannol.
Nod cyffredinol y cwrs yw datblygu dealltwriaeth integredig o swyddogaeth bancio a chyfrifeg wrth wneud penderfyniadau y tu mewn a'r tu allan i sefydliadau. Bydd myfyrwyr yn cynnal astudiaeth uwch o sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau ariannol, sut y cânt eu rheoli, swyddogaeth cyfrifeg i ddefnyddwyr mewnol ac allanol, a'r cyd-destun allanol cyfnewidiol y maent yn gweithredu o'i fewn. Bydd myfyrwyr yn datblygu'r gallu i gymhwyso eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth am gyfrifeg a bancio i faterion cymhleth.
Gellir dechrau'r rhaglen hon naill ai ym mis Ionawr neu ym mis Medi.
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd gyntaf dda (2.ii neu uwch) neu gymhwyster cyfatebol gan brifysgol neu gorff cymeradwy arall sy'n dyfarnu graddau. Gellir ystyried hefyd gymhwyster ac eithrio gradd y bernir ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd. Mae profiad gwaith yn ddymunol.
Mae astudio cyfrifeg (fel rhan o radd gyntaf er enghraifft) neu brofiad o weithio ym maes cyfrifeg yn hanfodol.
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon ein graddedigion yn rhagorol os ydynt am ddilyn gyrfa mewn ystod eang o swyddogaethau yn sectorau'r economi fyd-eang gan gynnwys cyfrifeg, busnes, bancio a chyllid. Mae pwyslais y rhaglenni ar sicrhau dealltwriaeth ymarferol yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt yn y sectorau uchod. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol wrth gynnal ymchwil annibynnol ac wrth weithio mewn tîm.
Mae gan raddedigion Ysgol Busnes Bangor record lwyddiannus o ran cyflogadwyedd ac mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi mewn swyddi uwch ledled y byd, o Stryd Downing a'r Deutsche Bank i Accenture Luxembourg ac Awdurdod Ariannol Ynysoedd y Caiman.