Cydnabyddiaeth ac Achrediadau Proffesiynol

Graddau Israddedig

Yn dibynnu ar eich cynllun astudio, gallech fod â hawl i gael eich eithrio o hyd at naw o bapurau'r Cymhwyster ACCA.

Mae nifer yr eithriadau sydd ar gael yn amrywio yn dibynnu ar y math o radd rydych yn astudio, a phryd astudiwch. Er enghraifft, dylai astudio tuag at BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Bangor (gan raddio erbyn 2024) roi pob un o'r naw eithriad i chi!

Mae eithriadau ar gyfer rhaglenni gradd eraill yn amrywio. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am yr eithriadau ACCA sydd ar gael ar gyfer ein rhaglenni gradd wahanol.

Bydd graddedigion o'r rhaglenni canlynol yn gymwys i eithriadau ar lwybrau ymgymhwyso Yswiriant a Gwasanaethau Ariannol y CII:

Rhaglen Llwybr Ymgymhwyso CII Gwerth y dyfarniad dysgu blaenorol
BSc Accounting and Finance
BA Accounting and Finance
Yswiriant 30 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar Lefel Diploma Uwch + 25 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel Diploma mewn Yswiriant.
Gwasanaethau Ariannol 30 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar Lefel Diploma Uwch + 25 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel Diploma.
BSc Banking and Finance
BA Banking and Finance
Yswiriant 30 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar Lefel Diploma Uwch + 25 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel Diploma mewn Yswiriant.
Gwasanaethau Ariannol 30 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar Lefel Diploma Uwch + 25 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel Diploma.
BA Accounting and Banking
BSc Accounting and Banking
Yswiriant 30 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar Lefel Diploma Uwch + 25 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel Diploma mewn Yswiriant.
Gwasanaethau Ariannol 30 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar Lefel Diploma Uwch + 25 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel Diploma.

 

Yn dibynnu ar eich cynllun astudio, gallech fod â hawl i gael eich eithrio o hyd at wyth o arholiadau proffesiynol CIMA.

Bydd graddedigion y BA/BSc Marchnata yn gymwys i'w heithrio o rai o fodiwlau cymwysterau proffesiynol y Chartered Institute of Marketing:

Cymhwyster CIM Exemptions
Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol Marketing
Diploma mewn Marchnata Proffesiynol CIM Strategic Marketing

 

Gall graddedigion BA/BSc Cyfrifeg a Chyllid hawlio eithriadau o rannau o Dystysgrif Broffesiynol a Diploma Proffesiynol CIPFA.

 

Mae'r rhaglenni israddedig isod wedi'u hachredu gan CPA Australia:

  • BA/BSc Cyfrifeg a Chyllid
  • BA/BSc Bancio a Chyllid
  • BSc Cyfrifeg ac Economeg
  • BA/BSc Cyfrifeg a Chyllid
  • BSc Rheolaeth gyda Chyfrifeg

 

Cydnabyddir Ysgol Busnes Bangor fel Partner mewn Dysgu â'r Institute of Chartered Accountants in England and Wales (ICAEW). Trwy astudio un o'n rhaglenni israddedig, gallech fod â hawl i gredydau tuag at hyd at wyth o bynciau ICAEW.

Pob blwyddyn rydym yn cynnig i'n 10 myfyriwr gorau ar ein rhaglenni blwyddyn olaf BSc Cyfrifeg a Chyllid a BSc Bancio a Chyllid sefyll naill ai arholiad L3 Cyflwyniad i Fuddsoddi neu L3 Cyflwyniad Rhyngwladol i Fuddsoddiad am ddim, gan gynnwys talu am eu cofrestriad a'u deunydd astudio. Gellir sefyll yr arholiad naill ai ym Mangor, yn un o ganolfannau CISI eraill ledled y wlad, neu hyd yn oed ar-lein!

Yn ogystal â'r holl adnoddau a ddarperir i chi gan CISI, gan gynnwys y gwerslyfr a deunydd ar-lein amrywiol, bydd staff y BBS hefyd yn gallu eich cefnogi wrth baratoi. Bydd y rhan fwyaf o'r deunydd a gwmpesir yn yr arholiadau hyn hefyd yn cael ei gwmpasu yn eich graddau ym Mangor, felly ni fydd angen i chi ddechrau o'r dechrau, a byddwch mewn sefyllfa dda iawn i basio'r arholiad.

Cystadleuol

Mae darpar gyflogwyr yn cadarnhau bod cymhwyster proffesiynol ar eich CV yn gwneud iddo sefyll allan mewn marchnad swyddi gystadleuol.

Mae’r cymwysterau proffesiynol gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddi (CISI), yn cael eu datblygu gan ymarferwyr i roi’r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i wneud eich swydd pan fyddwch yn gadael y brifysgol.

Dangoswch i gyflogwyr y dyfodol y gallwch chi wneud gwahaniaeth o'r diwrnod cyntaf gyda chymhwyster CISI.

I gael eich adnoddau astudio ewch i Hwb Prifysgol CISI

Graddau Ôl-radd

Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch o fod yn 'Ganolfan Rhagoriaeth' y Chartered Banker Institute. Bydd graddedigion ein MA/MSc Banking & Finance (Chartered Banker), sydd wedi'i achredu gan y CBI, yn ennill cymhwyster deuol MSc Bancio a Chyllid a'r Diploma Banciwr Siartredig - y dyfarniad uchaf sydd ar gael yn y byd bancio.

I weithwyr proffesiynol prysur, rydym hefyd yn cynnig rhaglen dysgu cyfunol yr MBA Chartered Banker (a gyflwynir gan y Ganolfan Rheolaeth) sy'n fodd i raddedigion ennill cymhwyster deuol MBA Prifysgol Bangor a'r statws ‘Banciwr Siartredig’ y mae galw mawr amdano.

Bydd myfyrwyr ar y graddau MSc isod yn gallu cael yr eithriadau canlynol ar ôl cwblhau pob arholiad yn llwyddiannus a chofrestru gyda CIMA. Bydd yr eithriadau yn cael eu derbyn o fewn cyfrif CIMA.

Rhaglen Eithriadau Eithriadau wedi esbonio
MSc Cyfrifeg 11 eithriadau

Cert BA – 4 eithriadau BA1 BA2 BA3 BA4

Gweithredol – E1 P1 F1 OCS (Operational Case study)

Rheolaeth – E2 P2 F2

MSc Cyfrifeg a Bancio 11 eithriadau

Cert BA – 4 eithriadau BA1 BA2 BA3 BA4

Gweithredol – E1 P1 F1 OCS (Operational Case study)

Rheolaeth – E2 P2 F2

MSc Cyfrifeg a Chyllid 11 eithriadau

Cert BA – 4 eithriadau BA1 BA2 BA3 BA4

Gweithredol – E1 P1 F1 OCS (Operational Case study)

Rheolaeth – E2 P2 F2

MSc Rheolaeth a Chyllid 4 eithriadau Cert BA – 4 eithriadau BA1 BA2 BA3 BA4

 

Bydd graddedigion sydd wedi cwblhau modiwl ASB 4425 - Strategaeth Fuddsoddi a Rheoli Portffolio - yn llwyddiannus yn gymwys am 60 credyd nad ydynt yn benodol i uned ar lefel  Diploma Uwch yn fframwaith cymwysterau Gwasanaethau Ariannol y CII. Cynigir y modiwl hwn ar y rhaglenni a ganlyn:

  • MA Cyllid (modiwl gorfodol)
  • MBA Cyllid (modiwl gorfodol)
  • MSc Cyllid (modiwl gorfodol)
  • MSc Cyllid Rhyngwladol (modiwl gorfodol)
  • MSc Rheoli Buddsoddiadau (modiwl gorfodol)
  • LLM Cyfraith a Bancio (modiwl dewisol)
  • MSc Bancio a Chyllid (Banciwr Siartredig) (modiwl dewisol)
  • MA Bancio a Chyllid (modiwl dewisol)
  • MA Bancio a Chyllid Islamaidd (modiwl dewisol)
  • MSc Cyfrifeg a Chyllid (modiwl dewisol)
  • MSc Bancio a Chyllid (Banciwr Siartredig) (modiwl dewisol)
  • MSc Bancio a Chyllid Islamaidd (modiwl dewisol)
  • MSc Rheolaeth a Chyllid (modiwl dewisol)

Bydd graddedigion MA Busnes a Marchnata a'r MBA Marchnata Rhyngwladol yn gymwys i eithriadau o rai o fodiwlau cymwysterau proffesiynol y Chartered Institute of Marketing:

Rhaglen Cymhwyster CIM Eithriadau Modiwl
MA Business & Marketing Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol CIM Marchnata
Diploma mewn Marchnata Proffesiynol CIM Marchnata Strategol
MBA International Marketing Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol CIM Marchnata
Diploma mewn Marchnata Proffesiynol CIM Marchnata Strategol

Mae'r rhaglenni canlynol a gynigir gan Ysgol Busnes Bangor wedi'u hachredu'n ddeuol gan y Chartered Management Institute (CMI), sy'n golygu y bydd graddedigion yn ennill dau gymhwyster - gradd Feistr Prifysgol Bangor, a dyfarniad CMI Lefel 7:

  • MBA Rheolaeth
  • MBA Y Gyfraith a Rheolaeth
  • MBA Marchnata Rhyngwladol
  • MBA Busnes Rhyngwladol
  • MBA Rheoli Gwybodaeth
  • MBA Rheoli’r Amgylchedd
  • MSc Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr
  • MSc Rheolaeth a Chyllid
  • MA Busnes gyda Seicoleg Defnyddwyr
  • MA Busnes a Marchnata
  • MA Rheolaeth a Chyllid

Ewch i dudalen y CMI am fanylion llawn ynglŷn â pha gymwysterau CMI y byddwch yn gymwys amdanynt.

 

Bydd myfyrwyr ar y rhaglen MBA Environmental Management sydd yn cwblhau’r modiwl gorfodol mewn ‘Strategic Environmental Management’ yn derbyn cymhwyster ‘Associate Certificate in Environmental Management’ yr IEMA ac yn dod yn Aelodau Cysylltiol.

Bydd myfyrwyr ar y rhaglen MBA Environmental Management sydd yn cwblhau’r modiwl gorfodol mewn ‘Strategic Environmental Management’ yn derbyn cymhwyster ‘Associate Certificate in Environmental Management’ yr IEMA ac yn dod yn Aelodau Cysylltiol.

Aelodaeth AACSB

Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch o fod yn aelod o AACSB International, The Association to Advance Collegiate Schools of Business.

AACSB Member Certificate

 

ATHENA SWAN

Mae gan Athena SWAN lawer o fanteision i'r Ysgol a'i chymuned. Mae'n dangos ein hymrwymiad i wneud cynnydd gydag agenda cydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth ac i ymgorffori egwyddorion Athena SWAN yn llawn yn niwylliant Ysgol Busnes Bangor. Mae gweithio tuag at wobr efydd Athena SWAN wedi amlygu ein cryfderau gan gynnwys llwyddiannau mewnol i fenywod Ysgol Busnes Bangor o ran dyrchafiadau. Mae hefyd wedi ein helpu i osod targedau newydd ar gyfer gwella cynwysoldeb e.e. ein nod yw cael cydbwysedd mwy cyfartal rhwng y rhywiau ym mhob agwedd ar arweinyddiaeth a threfniadaeth yr Ysgol.

Derbyniodd Ysgol Busnes Bangor y wobr efydd gan Athena SWAN ym mis Tachwedd 2019. Ni yw ysgol gyntaf y celfyddydau, dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, busnes a'r gyfraith ym Mhrifysgol Bangor i dderbyn y wobr.

Sefydlwyd siarter Athena SWAN yn 2005 ac mae'n seiliedig ar ddeg egwyddor allweddol yn ymwneud â'r agenda cydraddoldeb. Sefydlwyd y siarter i ddechrau i annog a chydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) ond mae bellach yn cydnabod gwaith a wnaed i fynd i'r afael â chydraddoldeb rhywiol yn ehangach.

Dyfernir gwobr Athena SWAN gan Uned Her Cydraddoldeb Advance HE, ac mae’n ddilys am bum mlynedd. Paratowyd a chyflwynwyd y cais gan Dîm Hunanasesu Athena SWAN yr Ysgol.

Mae aelodau Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Bangor yn cynnwys:

  • Sara Parry (Arweinydd)
  • Yr Athro Doris Merkl-Davies
  • Noemi Mantovan
  • Riaz Anwar
  • Myfyrwyr: Rebecca Bowyer, Nikoleta Kavela
Athena Swan award - bronze logo

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?