Athena Swan

Mae Athena Swan yn cynnig nifer o fanteision i’r Ysgol a’i chymuned. Mae'n dangos ein hymrwymiad i symud ymlaen ag agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth ar sail rhyw ac yn gwreiddio egwyddorion Athena Swan yn llawn yn niwylliant Ysgol Busnes Bangor. Mae gweithio tuag at wobr efydd Athena Swan wedi amlygu ein cryfderau gan gynnwys y ffaith bod staff benywaidd Ysgol Busnes Bangor yn llwyddo i gael dyrchafiadau mewnol. Mae hefyd wedi ein helpu i osod targedau newydd ar gyfer gwella cynwysoldeb e.e. rydym yn anelu at gael gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau yn holl agweddau ar arweinyddiaeth a threfniadaeth yr Ysgol. Mae’r Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhyw mewn ymchwil ac addysg uwch.

Enillodd Ysgol Busnes Bangor y wobr efydd Athena Swan ym mis Tachwedd 2019.

Gwybodaeth am Athena Swan

Sefydlwyd Siarter Athena Swan yn 2005 ac mae'n seiliedig ar ddeg egwyddor allweddol yn ymwneud â'r agenda cydraddoldeb. Sefydlwyd y siarter yn wreiddiol er mwyn annog a chydnabod yr ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) ond mae bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhyw yn ehangach.

Dyfernir y wobr Athena Swan gan Uned Her Cydraddoldeb Advance HE, ac mae'r wobr yn ddilys am bum mlynedd. Cafodd y cais am y wobr ei baratoi a’i gyflwyno gan Dîm Hunanasesu Athena Swan yr Ysgol.

Aelodau Athena SWAN Ysgol Busnes Bangor

Mae Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Bangor yn cynnwys yr aelodau staff academaidd canlynol.

Aelodau Athena SWAN Ysgol Busnes Bangor

Mae Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Bangor yn cynnwys yr aelodau staff academaidd canlynol.

Myfyrwyr sy'n Aelodau o'r Tîm Hunanasesu

Ochr yn ochr ag aelodau staff academaidd mae’r Tîm Hunanasesu hefyd yn cynnwys ein myfyrwyr presennol Chiara Lo Re a Rebecca Bowyer.
Rebecca and Sara Davies at Women in Business and Tech 2022.

Rebecca Bowyer

Rwyf wedi graddio o'r Ysgol Busnes ym Mangor wedi astudio Rheolaeth Busnes a Marchnata. Ymunais â thîm Athena Swan yn fy mlwyddyn 1af. Ymunais â’r tîm gan fod cydraddoldeb rhywiol yn y gymdeithas ehangach yn bwysig a gall effeithio ar dwf llawer o sefydliadau, er mwyn i’r byd ddod yn fwy cyfartal mae angen i ni ddechrau drwy addysgu ac arddangos amgylchedd o’r fath mewn addysg uwch. Roeddwn yn falch o fod wedi bod yn rhan o raglen entrepreneuriaeth fenywaidd Athena SWAN, a alluogodd i mi ddatblygu’r hyder a’r sgiliau i sefydlu fy musnes fy hun. Fe wnaeth fy mentor hefyd fy annog i fynychu digwyddiadau rhwydweithio lle cwrddais â Karren Brady a Sara Davies.

Chiara Lo Re smiling to camera

Chiara Lo Re

Rwyf yn fyfyrwyr PhD ail flwyddyn mewn Cyllid yn Ysgol Busnes Bangor ac ar hyn o bryd yn gweithio ar effaith rheoliadau banciau ar gyfraddau adneuon banciau. Mae'n wych bod yn aelod o dîm Athena SWAN yn yr Ysgol a chynrychioli'r myfyrwyr ar faterion cydraddoldeb rhyw. Mae’r mater hefyd yn bwysig o ran fy maes ymchwil (Sector Bancio), lle mae rolau arwain yn tueddu i gael eu llenwi gan ddynion.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?