Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nod y rhaglen hon yw cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faes academaidd penodol o hanes Cymru i chi trwy hyfforddiant ymchwil trylwyr. Bydd ein rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am faterion damcaniaethol hanesyddol perthnasol a dulliau o ddehongli a defnyddio tystiolaeth. Mae hefyd yn rhoi'r sgiliau ymchwil angenrheidiol i chi gynhyrchu darn gwreiddiol o ymchwil hanesyddol mewn maes astudio o'ch dewis.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rhan Un:
Yn rhan gyntaf y rhaglen MA Hanes Cymru, mae gofyn i bob myfyriwr astudio cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol.
Mae'n rhaid i bob myfyriwr astudio'r modiwlau gorfodol canlynol:
- Themâu a Materion mewn Hanes (20 credyd): Mae’r modiwl hwn yn annog dealltwriaeth o syniadau a dadleuon cyfredol trwy drafodaeth fanwl a beirniadol, ac mae hefyd yn ymgysylltu â chyd-destun damcaniaethol ac athronyddol gwahanol ddulliau. Bydd trafodaethau'n cael eu seilio ar enghreifftiau penodol, lle bo’n briodol, a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i gymhwyso'r syniadau a'r beirniadaethau i amrywiaeth o wahanol astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol a'r gallu i gymryd rhan mewn dadleuon ar faterion dehongli a methodoleg
- Sgiliau Ymchwil (40 credyd): Mae hwn yn fodiwl sgiliau lefel uwch sydd â thri nod: hyfforddi myfyrwyr i ddechrau projectau ymchwil, eu hymgyfarwyddo â sut i feirniadu papur seminar ymchwil, a chyflwyno sgiliau iddynt a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd.
- Cymru Fyd-eang: Lleoedd, y Lleol a’r Gorffennol (20 credyd): Gall y themâu a archwilir yn y modiwl hwn gynnwys, ymhlith themâu eraill, ymagweddau cysyniadol at hanes byd-eang a thrawswladoliaeth; mudo; cenedligrwydd, trefedigaethedd a hunaniaeth; diwylliant materol a threftadaeth y Gymru Fyd-eang.
- Meistroli Ffynonellau Hanesyddol (20 credyd): Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i ystod eang o ffynonellau ac i broblemau dehongliad, trosglwyddiad, derbyniad a goroesiad.
Yn ogystal, mae gofyn i fyfyrwyr ddewis un modiwl pellach o’r modiwlau sydd ar gael. Er y gall modiwlau amrywio o flwyddyn i flwyddyn, mae opsiynau diweddar yn cynnwys:
- Ailddehongli'r Plasty
- Pobl, Grym a Gweithredu Gwleidyddol: Mudiadau Protest yn Ewrop 1817–1989
- Lleoliad Gwaith
- Treftadaeth y Byd: Amddiffyn, Rheoli a Chynaliadwyedd
Rhan Dau:
Ar ôl cwblhau'r modiwlau sy'n rhan o Ran Un y rhaglen, mae Rhan Dau’n cynnwys Traethawd hir 15,000 i 20,000 o eiriau (60 credyd) ar bwnc o'ch dewis, wedi'i ymchwilio a'i ysgrifennu dan oruchwyliaeth unigol arbenigwr pwnc.
Canllaw yn unig yw'r modiwlau a gallant newid o flwyddyn i flwyddyn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Hanes Cymru MA.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig dda; bydd o leiaf 2.ii yn ofynnol fel arfer. Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 yn gyffredinol (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd MA mewn Hanes Cymru yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o ddisgyblaeth Hanes Cymru a'r gallu i wneud gwaith ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad hanesyddol. Bydd yn gwella'ch cyfleoedd gyrfa yn niwydiannau'r cyfryngau a chyfathrebu, addysgu, cyhoeddi ac ymchwil.
Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori ac ati. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Hanes Cymru'n llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn hanes, trwy wneud cais am le i astudio am PhD mewn Hanes Cymru.