Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae MA Prifysgol Bangor mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y maes.
Ochr yn ochr ag ymarfer addysgu, mae'r rhaglen yn darparu cymhwysedd a dealltwriaeth feirniadol o ystod eang o agweddau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth Saesneg (agweddau cymdeithasegol-ieithyddol Saesneg, hanes Saesneg, caffael ail iaith, seicoieithyddiaeth yn ogystal â materion sy'n ymwneud â Saesneg fel iaith ryngwladol a dwyieithrwydd).
Rydym yn adran gyfeillgar ac agos-atoch gyda staff sy’n frwd dros drosglwyddo eu harbenigedd a’u gwybodaeth am y pwnc ac rydym yn ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o’r ansawdd uchaf i’n myfyrwyr. Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr gyda chefnogaeth bersonol gref trwy gydol eich astudiaethau am MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor.
Ar ein cwrs MA Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor gallwch ddefnyddio cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf. Mae ein staff hefyd yn arbenigwyr yn y meysydd canlynol a gallant gynnig cefnogaeth ynddynt:
- Meddalwedd ystadegol megis: SPSS, R-Statistics ac Excel
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a seinegol fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys CHILDES a CLAN
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil ôl-radd fywiog ac arloesol. Bydd cefnogaeth trwy wahanol ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr.
Pam astudio MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor ym Mhrifysgol Bangor?
- Datblygwch brofiad ymarferol o gynllunio gwersi, dylunio cyfarwyddiadau ar gyfer tasgau, ac addysgu ymarferol.
- Datblygwch wybodaeth fanylach am ieithyddiaeth Saesneg gan feithrin y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth ymarferol sydd eu hangen i ddysgu Saesneg fel ail iaith.
- Dysgwch gan academyddion sy'n dod ag ymchwil arloesol yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth, gan wneud eich dysgu'n berthnasol, yn ddiddorol ac yn gymhwysol.
- Ymunwch â chymuned gefnogol a bywiog o ôl-raddedigion lle byddwn yn dod i'ch adnabod chi a'ch uchelgeisiau.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r rhaglen feistr hon wedi'i chynllunio i roi'r hyder i chi gymryd eich cam nesaf mewn Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL). Yn ystod y radd byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol gan academyddion sy'n flaenllaw ym maes ymchwil ieithyddiaeth, gan sicrhau bod eich dysgu yn berthnasol ac yn gysylltiedig â'r byd go iawn.
Mae'r cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o'r iaith Saesneg yn fanwl. Byddwch yn gwella ystod o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr, gan gynnwys galluoedd ymchwil a dadansoddi uwch, sgiliau cyflwyno a datrys problemau hyderus, gwaith tîm effeithiol, a’r gallu i reoli amser cryf i'ch helpu i allu bodloni terfynau amser.
Modiwlau gorfodol:
- Damcaniaeth Saesneg fel Iaith Dramor – Dysgu am sylfeini damcaniaethol dysgu Saesneg fel iaith dramor ac archwilio materion allweddol y mae athrawon a dysgwyr yn eu hwynebu.
- Caffael Ail Iaith a Dysgu Iaith - Mae’r modiwl hwn yn archwilio sut mae ail iaith yn cael ei dysgu, y prosesau sydd ynghlwm â hynny a goblygiadau dysgu iaith yn effeithiol.
- Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor – Ymchwiliwch i brif ddulliau dysgu Saesneg fel iaith dramor a datblygwch eich gallu i'w gwerthuso a'u cymhwyso. Byddwn yn edrych ar gydrannau ymarferol fel arsylwi yn yr ystafell ddosbarth a goruchwylio siaradwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf i ddysgu’r iaith.
- Dulliau Ymchwil Ieithyddiaeth – Datblygwch sgiliau mewn dulliau ymchwil ansoddol, meintiol, arbrofol ac ethnograffig mewn ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymhwysol gan eich helpu i baratoi i ddylunio a chwblhau traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr.
- Traethawd MA – Cwblhewch broject ymchwil annibynnol ac ysgrifennwch draethawd hir dan arweiniad goruchwyliwr.
Efallai y gofynnir i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni chânt eu heithrio gan eu tiwtor.
Byddwch hefyd yn gallu dewis rhai modiwlau dewisol, gan deilwra'r cwrs i'ch diddordeb a'ch nodau gyrfa, gyda phynciau'n cynnwys agweddau sosioieithyddiaeth ar Saesneg, hanes Saesneg, caffael iaith mewn plant, seicoieithyddiaeth, ac ieithyddiaeth corpws.
Syniad bras yn unig yw'r rhestr modiwlau, a gallant newid.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Gwaith grŵp
- Gwaith llafar
- Ymarfer cyfrifiadurol
- Hunan-astudio
- Astudiaeth maes
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn ôl pwnc a lefel y modiwl.
Bydd yr asesu’n cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
- Arholiad i’w wneud adref
- Traethawd neu adroddiad
- Cyflwyniad llafar
- Ymarfer cyfrifiadurol
- Adolygu erthyglau
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth hon a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL MA.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Addysg Saesneg/Addysg Iaith Saesneg).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un.
Gyrfaoedd
Bydd MA Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol Bangor ar gyfer TEFL yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae dysgu Saesneg fel iaith dramor at ddibenion proffesiynol amrywiol ledled y byd.
Yn ogystal ag ennill profiad yn yr ystafell ddosbarth byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf ynghyd â'r gallu i fabwysiadu/defnyddio gwahanol strategaethau ar gyfer cyfathrebu a chyflwyno yn Saesneg mewn amrywiaeth o gyd-destunau amlieithog a rhyngwladol.
Mae astudio dysgu Saesneg fel iaith dramor yn rhoi'r cefndir damcaniaethol ac ieithyddol sydd ei angen ar fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i ddysgu Saesneg i siaradwyr nad ydynt yn siaradwyr brodorol yn ogystal â chynnig profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyfleoedd i ddysgu mewn gwledydd ledled y byd, er enghraifft mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion iaith preifat.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallech benderfynu dilyn gyrfa academaidd a gwneud cais i astudio am ddoethuriaeth.
Dyma rai o’r swyddi nodweddiadol:
- Dysgu Iaith*
- Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd
- Technolegau Iaith
- Cyhoeddi a Golygu
- Ymchwil a’r Byd Academaidd
- Ieithyddiaeth Fforensig
- Polisi a Chynllunio Ieithyddol
- Cyfathrebu Corfforaethol
- Cysylltiadau Rhyngwladol a Diplomyddiaeth
* Nid yw'r radd hon yn gymhwyster addysgu ffurfiol, efallai y bydd angen hyfforddiant ychwanegol.