Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Meistr Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor yn cynnwys amrywiaeth o agweddau empirig, damcaniaethol a chysyniadol ym maes ieithyddiaeth, gan eich paratoi at yrfa ymchwil ym maes ieithyddiaeth a gyrfaoedd proffesiynol mewn meysydd cysylltiedig fel addysg ieithoedd, cyfieithu, cyhoeddi a pholisi neu gynllunio iaith.
Byddwch yn dod i ddeall iaith o safbwyntiau lluosog a dadansoddi data ieithyddol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau ansoddol a meintiol a fydd yn eich galluogi i astudio strwythur, ystyr a defnydd iaith. Nodwedd bwysig o'r radd hon yw ei phwyslais eang ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, lle mae sawl agwedd ar ieithyddiaeth yn rhyngweithio ar draws dimensiynau gwybyddol, cymdeithasol ac ymddygiadol. Byddwch hefyd yn astudio sut mae ymchwil ieithyddol yn hyrwyddo ein dealltwriaeth o iaith ddynol, sut mae'n cael ei chaffael, ei swyddogaeth mewn rhyngweithio cymdeithasol a sut caiff ei defnyddio mewn gwahanol leoliadau cyfathrebu.
Mae’r MA Ieithyddiaeth yn cynnig llwybrau astudio hyblyg, un i fyfyrwyr sydd â BA Ieithyddiaeth ac sydd eisiau gwneud astudiaethau uwch yn y ddisgyblaeth, ac un i fyfyrwyr â gradd israddedig mewn unrhyw bwnc arall sy'n dymuno ennill cymhwyster mewn ieithyddiaeth.
Yn ystod eich gradd, byddwch yn cael cyfle i astudio sawl pwnc ieithyddiaeth megis:
- Seicoieithyddiaeth
- Caffael iaith gyntaf ac ail iaith
- Ieithyddiaeth gymdeithasol
- Iaith a chyfathrebu
- Dadansoddi disgwrs
- Ieithyddiaeth hanesyddol
- Dwyieithrwydd ac amlieithrwydd
- Anhwylderau iaith
Byddwch hefyd yn cael mynediad i'n cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf sy'n cynnwys:
- Stiwdio recordio a labordy lleferydd
- Labordy tracio llygaid
- Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP)
- Meddalwedd ac adnoddau pwrpasol.
Ym Mhrifysgol Bangor, byddwch yn ymuno â chymuned groesawgar lle mae staff yn cymryd yr amser i ddod i'ch adnabod chi a'ch nodau, gan eich cefnogi i ddatblygu'n academaidd ac yn broffesiynol. Mae ein tîm yn dod â'u hymchwil yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod eich dysgu bob amser yn gyfredol, yn berthnasol ac yn gysylltiedig â'r byd go iawn.
Pam dewis MA Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor?
- Cyfle i fanteisio ar ein harbenigedd mewn dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, ac astudio mewn cymuned ddwyieithog ffyniannus.
- Mynediad at adnoddau o'r radd flaenaf gan gynnwys stiwdio recordio, labordy lleferydd, labordai olrhain llygaid ac ERP.
- Cyfle i astudio iaith trwy ddulliau empirig, damcaniaethol a chymhwysol, gan ddatblygu'r wybodaeth i ddadansoddi sut mae iaith yn cael ei strwythuro, ei defnyddio a'i dehongli.
- Dysgu mewn cymuned academaidd gefnogol lle mae staff yn dod â'u hymchwil diweddaraf a'u dealltwriaeth o'r byd fel ag y mae yn uniongyrchol i'ch addysgu.
Proffil graddedig: Elham Taheri
Fy enw i ydi Elham Taheri, ac roeddwn yn astudio ieithyddiaeth gymhwysol ar gyfer TEFL i ddysgu Saesneg fel iaith dramor.
Yn gyntaf oll, mi wnes i fwynhau cael fy nysgu gan athrawon proffesiynol iawn.
Wrth gwrs, rydw i wedi astudio Saesneg yn y gorffennol, ond y tro yma roedd yn fwy proffesiynol ac roeddwn wrth fy modd efo hynny.
Mae'n lle clos a chyfeillgar.
Ac roedd y cwrs, oherwydd bod ganddo rannau damcaniaethol a rhan ymarferol, yn help mawr i mi.
Rydw i wedi dysgu llawer, nid yn unig yn y dosbarthiadau ond hefyd yn y sesiynau ymarferol, a defnyddio'r damcaniaethau oedd yn cael eu defnyddio yn fy nosbarthiadau.
Ac fel y dywedais, oherwydd yr athrawon proffesiynol sydd yma, rydw i wedi dysgu llawer
Ar hyn o bryd, yn union. Ar ôl i mi orffen fy nghwrs yma, symudais i Lundain ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd mewn coleg yn Llundain.
Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai mor hawdd â hynny, ond yn ddigon ffodus oherwydd fy mod yn graddio o Brifysgol Bangor,
roedd yn hawdd i mi ddod o hyd i swydd ac roeddwn wrth fy modd gyda fy swydd fel athro.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Trwy gydol y cwrs MA Ieithyddiaeth hwn, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol gwerthfawr, yn cryfhau eich galluoedd dadansoddi ac ymchwilio ac yn ennill profiad mewn amrywiaeth eang o fformatau cyfathrebu a chyflwyno, gan gynnwys allbynnau ysgrifenedig, llafar a digidol.
Modiwlau Gorfodol
Sylfeini Ieithyddiaeth - Ymchwilio i ddisgyblaeth gwyddor iaith, gan gwmpasu syniadau a methodolegau allweddol wrth astudio ystyr, gramadeg a sain. *Gall myfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud gwaith cwrs ieithyddiaeth o bosib hepgor Sylfeini Ieithyddiaeth ac ennill y nifer cyfatebol o gredydau o’n rhestr modiwlau dewisol*.
Dulliau Ymchwil Ieithyddiaeth - Mae’r modiwl hwn yn darparu’r sylfeini, yr hyfforddiant a’r wybodaeth angenrheidiol i gynllunio a chyflawni ymchwil ansoddol, meintiol, arbrofol neu ethnograffig ym maes ieithyddiaeth, yn ogystal â’r hyfforddiant a’r profiad i ddatblygu, cynllunio a chyflawni project traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr ar sail ymchwil, gan ddefnyddio confensiynau arferol llenyddiaeth ieithyddiaeth / ieithyddiaeth gymhwysol.
Traethawd Hir MA/MSc - Cwblhau darn o waith ymchwil bychan ond arwyddocaol unigol ar lefel uwch, ac ysgrifennu traethawd hir 15-20,000 o eiriau arno. Gan weithio'n agos gyda goruchwyliwr academaidd y mae ei ddiddordebau ymchwil yn cyd-fynd orau a/neu'n agosaf â'ch pwnc dewisol, byddwch yn mireinio eich cwestiwn ymchwil, yn adolygu llenyddiaeth berthnasol, yn cynllunio'r project ac yn penderfynu ar fethodoleg. Gydag arweiniad arbenigol, byddwch yn ystyried yr angen am gymeradwyaeth foesegol a gweithredu'n unol â hynny, yn casglu a dadansoddi data (gan ddibynnu ar natur yr ymchwil) gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol, ac yn ysgrifennu traethawd hir am y project a fydd yn mynd i’r afael â'r cwestiwn ymchwil yng ngoleuni'r canfyddiadau.
Modiwlau Dewisol
Gall modiwlau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn, maent fel arfer yn cynnwys pynciau fel:
- Iaith a Chyfathrebu
- Ieithyddiaeth Hanesyddol
- Seicoieithyddiaeth
- Newid Iaith
- Polisi a Chynllunio Iaith
- Caffael Iaith mewn Plant
- Anhwylderau Iaith a Dwyieithrwydd
- Dwyieithrwydd a Materion Caffael
- Gwyddor Lleferydd
- Ffonoleg mewn Pobl Ddwyieithog
- Dysgu Siarad Ail Iaith
- Ieithyddiaeth Gymraeg
- Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol
- Defnyddio Corpora: Theori ac Ymarfer
- Damcaniaeth Saesneg fel Iaith Dramor
- Caffael Ail Iaith ac Addysgu Iaith
- Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor
- Technolegau Iaith
Efallai y gofynnir i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni chânt eu heithrio gan eu tiwtor.
Syniad bras yn unig yw'r rhestr modiwlau, a gallant newid.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o’r canlynol:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Gwaith grŵp
- Gwaith llafar
- Ymarferion cyfrifiadurol
- Hunan-astudio
- Astudiaeth maes
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn ôl pwnc.
Bydd yr asesu’n cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
- Arholiad heb ei weld
- Arholiad i’w wneud adref
- Traethawd neu adroddiad
- Cyflwyniad llafar
- Ymarferion cyfrifiadurol
- Adolygu erthyglau
- Prawf dosbarth
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth hon a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth MA.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Addysg Saesneg/Addysg Iaith Saesneg).
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un. Mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos y myfyrwyr hynny nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Mae gradd Meistr Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi gwybodaeth uwch i chi am sut mae iaith yn cael ei strwythuro, ei chaffael a'i defnyddio, wrth ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi sydd mewn galw mawr.
Mae'r radd ôl-radd hon yn eich paratoi at amrywiaeth eang o yrfaoedd sy'n gysylltiedig ag ieithyddiaeth, gan gynnwys swyddi ym maes cyfathrebu, addysg, technoleg iaith, cyhoeddi ac ymchwil. Mae galw mawr am y sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygir fel meddwl beirniadol, dadansoddi data, datrys problemau a chyfathrebu ysgrifenedig a llafar uwch mewn sectorau gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, y cyfryngau, ymgynghoriaeth a thu hwnt.
I'r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa academaidd neu yrfa sy'n canolbwyntio ar ymchwil, mae'r MA Ieithyddiaeth yn darparu llwybr rhagorol i astudiaethau doethurol ac mae rhai myfyrwyr yn dewis parhau â'u hastudiaethau trwy astudio am ddoethuriaeth mewn ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.