Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth a Thechnoleg Banciau (CertBMT) yn gymhwyster proffesiynol ac academaidd annibynnol i fancwyr a gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau ariannol eraill sy'n dymuno gwella eu dealltwriaeth ymarferol o dechnoleg a rheolaeth banciau.
Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno ac yn datblygu dealltwriaeth o’r agweddau allweddol ar gyllid, bancio a thechnoleg mewn lleoliad rhyngwladol a deinamig. Byddwch yn meistroli elfennau proffesiynol craidd ac ymarferol sy'n canolbwyntio ar ddyfodol bancio modern. Bydd hyn yn meithrin barn broffesiynol, ymwybyddiaeth foesegol ac dull dadansoddol o ddatrys problemau yng nghyd-destun bancio a gwasanaethau ariannol.
Byddwch yn datblygu ac yn mireinio sgiliau lluosog sy'n hanfodol i feithrin gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau ariannol.
- Mae Prifysgol Bangor yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am ansawdd addysgu a boddhad myfyrwyr (Tabl Cynghrair y Sunday Times 2022).
- Ysgol Busnes Prifysgol Bangor yw'r uchaf o holl sefydliadau academaidd y Deyrnas Unedig am ei hymchwil ym maes bancio (RePEc), Awst 2021).
- Cynigir y Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth a Thechnoleg Banciau (CertBMT) gan Ysgol Busnes Bangor yn unig.
- Mae dyfarniad deuol Tystysgrif Ôl-radd a'r statws Banciwr Siartredig yn dystiolaeth o ragoriaeth i bawb yn y proffesiwn.
- Astudiaeth ran-amser a hyblyg sydd wedi ei chynllunio i wella dealltwriaeth ymarferol o reolaeth a thechnoleg banciau.
- Modiwl Astudiaeth 4 mewn cyn lleied â blwyddyn.
- Yn darparu llwybr carlam i'r MBA Bancwr Siartredig gyda gostyngiadau dysgu parhaus ar gael.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth a Thechnoleg Banciau yn gymhwyster annibynnol sy'n cyfuno pedwar modiwl a gynigir ar yr MBA Banciwr Siartredig. Mae'r rhaglen fer hon yn cyflwyno'r agweddau allweddol ar gyllid, bancio a thechnoleg ac mae'n canolbwyntio ar elfennau bancio cyfoes.
Trefnir y rhaglen dros flwyddyn, gyda 3 modiwl craidd yn cael eu hastudio, sef:
- Credyd a Benthyca
- Sefydliadau Ariannol Rheoli Risg
- Moeseg, Rheoleiddio a Chydymffurfiaeth
Mae'r modiwl Technoleg Bancio a FinTech yn fodiwl seiliedig ar broject a asesir yn gyfan gwbl ar un asesiad.
- Mae'r Dystysgrif Ôl-radd yn gwrs rhan-amser hyblyg sydd wedi ei gynllunio i weithwyr proffesiynol. Mae pob modiwl yn cynnig 3 sesiwn ar-lein 'byw' awr o hyd trwy Blackboard Collaborate, a 5 darlith awr o hyd wedi eu recordio ar Panopto.
- Oherwydd cyrhaeddiad byd-eang y rhaglen, mae'r dosbarthiadau rhyngweithiol yn cael eu trefnu ar adeg o'r dydd fydd yn cynnwys y gynulleidfa ehangaf. Mae hyn yn golygu y bydd y rhai mewn gwledydd sydd i’r dwyrain o’r Deyrnas Unedig yn ymuno â dosbarthiadau yn y prynhawn neu gyda’r nos tra bydd y rhai sy'n byw i'r gorllewin yn ymuno ganol bore neu amser cinio. Gall myfyrwyr nad ydynt yn gallu dod i’r sesiynau byw wylio’r recordiadau.
- Gellir cyrchu deunyddiau astudio ar y platfform dysgu rhithwir Blackboard ac maent yn cynnwys canllawiau astudio, cysylltiadau i ddeunydd darllen ychwanegol a thestun e-graidd.
- Cynhelir yr arholiadau ar gyfrifiadur a rhoddir yr opsiwn i fyfyrwyr sefyll eu hasesiad yn eu cartref neu'r swyddfa gan fod y dechnoleg yn caniatáu goruchwyliaeth ar-lein. Mae'r modiwl Technoleg Bancio a FinTech yn gwbl seiliedig ar aseiniadau.
Cost y Cwrs
Ffioedd cwrs y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheolaeth Banc a Thechnoleg yw £12,500
Mae ffioedd cwrs yn cynnwys:
- Seminarau ar-lein, tiwtorialau, grwpiau trafod a chefnogaeth
- Holl ddeunyddiau cwrs
- Tiwtor Personol
- Mynediad i lyfrgell ar-lein a phorth dysgu Prifysgol Bangor
- Pob asesiad
Sylwch y bydd angen blaendal cael eich talu i sicrhau eich lle ar y rhaglen
Opsiynau Talu Hyblyg
Mae cynlluniau talu hyblyg ar gael i dalu ffioedd eich rhaglen, gan gynnwys opsiynau rhandaliadau misol a semester i ledaenu cost y rhaglen ar draws eich astudiaethau. Am fanylion pellach cysylltwch â ni yma
Gofynion Mynediad
Gradd gyntaf dda mewn pwnc cysylltiedig ynghyd ag o leiaf tair blynedd o brofiad rheoli perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr heb radd gyntaf os oes ganddynt gymhwyster proffesiynol cymeradwy ynghyd â'r profiad rheoli gofynnol. Gellir ystyried derbyn ymgeiswyr nad oes ganddynt y naill na'r llall os oes ganddynt nifer o flynyddoedd o brofiad rheoli cymeradwy.
Bydd RPL yn cael ei ystyried fesul achos yn unol â rheoliadau a chodau ymarfer y Brifysgol.
Rhaid i ymgeiswyr fod â lefel uchel o ruglder yn yr iaith Saesneg. Os nad Saesneg yw eich iaith frodorol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Saesneg ysgrifenedig a llafar:
- IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5)
- Pearson PTE: sgôr o 56 (heb unrhyw elfen yn is na 51)
- Prawf Saesneg Caergrawnt – Uwch: 169 (heb unrhyw elfen yn is na 162)
Gwneir y cais yn uniongyrchol i'r adran Addysg Weithredol trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein hon yn unig.
Gyrfaoedd
|
Gwneud Cais
Gwahoddir ceisiadau i ymuno â charfan nesaf y Dystysgrif Ôl-radd mewn Rheolaeth a Thechnoleg Banciau (CertBMT) yn dechrau yn Ebrill 2023. Mae'r ffurflen gais i'w llenwi ar-lein yma
Os hoffech gadarnhau eich bod yn gymwys cyn gwneud cais, anfonwch e-bost gyda dogfennau ategol, e.e. CV, i executiveeducation@bangor.ac.uk ac os oes gennych drawsgrifiadau o raglenni astudiaethau proffesiynol neu ôl-radd a gwblhawyd gennych, byddai’n ddefnyddiol eu hanfon hefyd. Sylwer y bydd y tîm derbyniadau yn eich cynghori am y wybodaeth sy’n angenrheidiol gefnogi eich cais, fel na fydd cael gafael ar drawsgrifiadau o astudiaethau blaenorol yn achosi oedi i'ch cais.
Ar ôl cofrestru ar y rhaglen, bydd gan fyfyrwyr 3 mis o'u semester cyntaf i ddarparu copïau ardystiedig o'u tystysgrifau.
Gwneir y cais am yr MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol yn uniongyrchol i'r adran Addysg Weithredol trwy gwblhau'r ffurflen ar-lein hon yn unig.