Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Noder os gwelwch yn dda: mae'r cwrs hwn yn dechrau ym Medi 2025.
Mae nyrsys oedolion yn asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal sy'n cefnogi adferiad y claf neu eu gallu i fyw cystal â phosib gyda'u cyflwr.
Bydd y rhaglen Nyrsio Oedolion (Dysgu o Bell) gyffrous hon yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi raddio’n llwyddiannus fel nyrs oedolion gofrestredig, a byddwch yn ymgymryd â lleoliadau ymarfer mewn lleoliadau cymunedol ac ysbytai gyda'n sefydliadau partner yng Nghymru, ac yn cael profiadau mewn amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â gofal iechyd oedolion. Mae nyrsio yn cynnig llawer iawn o gyfleoedd o ran gyrfa mewn meysydd yn cynnwys gofal sylfaenol, neu ofal eilaidd, e.e. adrannau brys, meysydd meddygol a llawfeddygol arbenigol, neu ofal dwys. Cefnogir dysgu nyrsys cofrestredig trwy gydol eu gyrfaoedd trwy breceptoriaeth yn y lle cyntaf, sy'n cynnig y gefnogaeth strwythuredig sydd ei hangen i drosglwyddo eich gwybodaeth yn llwyddiannus i ymarfer bob dydd, a thrwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Y gair allweddol y gellid ei ddefnyddio i ddisgrifio swydd nyrsys sydd wedi cofrestru ym maes oedolion yw amrywiaeth - mae disgwyl i nyrsys cofrestredig sydd wedi cofrestru ym maes oedolion (ac yn meddu ar gymwysterau cofrestradwy ychwanegol, er enghraifft rhagnodi neu addysgu) ofalu am anghenion pobl gydol oes, yn cynnwys diogelu iechyd mamau a babanod. Cewch brofiad o’r amrywiaeth hon yn ystod lleoliadau mewn meysydd clinigol y mae nyrsys oedolion yn ymarfer ynddynt a allai gynnwys:
- Gofal Cychwynnol
- Nyrsio meddygol a llawfeddygol cyffredinol ac arbenigol yn y sector acíwt
- Nyrsio gofal critigol (gofal dwys a dibyniaeth uchel, adran frys, theatrau ac adferiad)
- Nyrsio cymunedol yn y cartref
- Cartrefi gofal
Mae gan nyrsys oedolion gyfle i ddatblygu eu hymarfer ar ôl cofrestru. Gall hynny arwain at yrfaoedd fel uwch ymarferwyr nyrsio, nyrsio arbenigol clinigol, nyrsio ymgynghorol, wardiau (unedau therapi dwys, uned gofal cardiaidd, uned dibyniaeth fawr) yn ogystal ag amrywiol arbenigeddau cymunedol, nyrsio ymarfer a nyrsio ymchwil.
Mae'r cyfleoedd a'r dewis yn ddiddiwedd ac maent yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil a llawer o opsiynau i ddatblygu gyda chefnogaeth.
Mae Bangor yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn i ddilyn cyrsiau nyrsio, tra bod llefydd ar gael. Gan fod galw mawr am y llwybr hwn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted â phosib.
Gall elfennau o'r cwrs fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a chewch gefnogaeth i gael mynediad at gymhelliant ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddarpariaeth ddwyieithog yr ysgol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
Dysgu o bell
Y radd Nyrsio dysgu o bell lawn amser newydd hon yw'r gyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae’n cynnig llwybr dysgu o bell amser llawn sy'n eich galluogi i barhau i fyw gartref wrth ddilyn y radd nyrsio ar-lein. Mae hanes rhagorol Prifysgol Bangor o ddarparu graddau nyrsio dros gyfnod maith yn sicrhau mai staff academaidd nyrsio gwybodus a phrofiadol fydd yn eich dysgu a’ch cefnogi. Darperir elfennau hyfforddedig y cwrs hwn drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir rhyngweithiol a fydd yn caniatáu i chi gymryd rhan mewn darlithoedd, seminarau a hyfforddiant sgiliau i'ch helpu i gwblhau’r rhaglen yn eich amser eich hun. Cewch hefyd ddefnyddio'r ystod amrywiol o gyfleusterau sydd ar gael i bob myfyriwr ar ein campysau ym Mangor a Wrecsam, ac mae hybiau dysgu rhanbarthol yn cael eu sefydlu i roi hyblygrwydd gwirioneddol i chi o ran sut a ble rydych chi'n dysgu. Mae'r radd nyrsio dysgu o bell hon yn ymgorffori ac yn darparu cefnogaeth bersonol barhaus trwy gydol y rhaglen, sydd, yn ein barn ni, yn ganolog i'n hethos.
Fel cwrs dysgu o bell mae'r radd amser llawn hon ar gael i ymgeiswyr o bob rhan o'r DU gyda’r dysgu yn cynnwys 50% o waith theori a 50% mewn lleoliadau ymarfer. Fodd bynnag, bydd y lleoliadau gyda Bwrdd Iechyd GIG yng Nghymru yn unig. Trefnir lleoliadau mor agos â phosibl i gyfeiriad cartref y myfyriwr neu gyfeiriad lleoliad sydd wedi ei cael ei gytuno. Fodd bynnag, efallai y bydd angen teithio i leoliadau a chanolfannau i elwa ar yr ystod o brofiadau dysgu sy'n ofynnol i gwblhau'r cwrs. Pan fyddwch yn dysgu ar leoliad, byddwch yn mynd i’ch lleoliad am 37.5 awr yr wythnos. Yn eich lleoliadau, cewch gyfle i ddatblygu a chymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau damcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol, gan ddysgu am yr arferion gorau a rhagoriaeth gofal cleifion gan ymarferwyr, cleifion, gofalwyr a pherthnasau, a myfyrwyr o broffesiynau eraill fel radiograffeg, bydwreigiaeth, ffisiotherapi a gwaith cymdeithasol.
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu'n llawn trwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall. At hyn, mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Cyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen gyllid y GIG.
Bwrsariaethau TG Myfyrwyr
Bydd Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â HEIW yn sicrhau nad yw mynediad at dechnoleg yn rhwystr i ymgeiswyr â chymwysterau addas sydd eisiau gyrfa ym maes gofal iechyd. Dan y cynllun hwn mae ymgeiswyr ar y cwrs hwn yn gymwys i gael bwrsariaeth gwerth £400 (mae telerau ac amodau yn berthnasol) i fynd tuag at brynu cyfrifiadur os ydynt yn byw yn un o'r 20% o ardaloedd isaf (ardaloedd 1-382) ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gallwch weld a yw eich cod post yn eich gwneud yn gymwys ar y dudalen hon ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gofynion technegol i astudio'r cwrs dysgu o bell hwn
- Cyfrifiadur PC neu Mac, gwe-gamera a chlustffonau. Bydd y mwyafrif o gyfrifiaduron o dan 5 oed yn ddigon da.
- Mynediad i'r rhyngrwyd cyflymder lleiaf o 2Mbit yr eiliad - nodwch, os oes rhywun arall yn eich cartref yn defnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd ar yr un pryd, bydd angen cyflymder cyflymach arnoch neu fod yr unig un yn y tŷ sy’n defnyddio’r cysylltiad yn ystod sesiynau.
- Mynediad i borwr gwe Chrome (mae hwn am ddim i'w lawrlwytho i ddefnyddwyr Mac a Windows)
- Bydd angen copi o Microsoft Office 365 arnoch hefyd - mae gan fyfyrwyr Bangor hawl i gael copi am ddim i'w ddefnyddio yn ystod eu hastudiaethau. Gellir lawrlwytho hwn ar ôl i fyfyrwyr gofrestru ar eu cwrs a chael eu manylion TG Bangor.
- Sylwer nad yw Chromebooks yn cael eu hystyried yn addas i'w defnyddio gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau o bell/gwasgaredig.
Cynnwys y Cwrs
Mae'n hanfodol ar gyfer y cwrs Nyrsio Oedolion (Dysgu o Bell) BN bod gennych fynediad i'r rhyngrwyd a lle pwrpasol i astudio a defnyddio'r adnoddau yn eich amser eich hun yn ystod y rhaglen 3 blynedd.
Bydd yn orfodol i chi wneud astudiaethau damcaniaethol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol a/neu breswyl yng Nghymru. Mae lleoliadau yn darparu profiadau dysgu rhagorol yn seiliedig ar ymarfer ar draws Cymru i fyfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen ddysgu. Mae'r lleoliadau dan oruchwyliaeth hyn yn eich galluogi i arsylwi gweithwyr proffesiynol yn y gwaith, arsylwi gwaith tîm o ansawdd uchel, a’ch galluogi i gyfrannu at ddarparu gofal nyrsio gyda chefnogaeth, wrth ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau mewn sawl maes o ymarfer nyrsio.
Cewch gefnogaeth ragorol gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac yn aelod staff academaidd. Ar gyfer y rhaglen hon byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd trwy lwyfannau technolegol sy'n caniatáu trafod a chefnogi sawl agwedd ar ddysgu damcaniaethol a chlinigol.
Yn ystod lleoliadau, byddwch yn cael eich goruchwylio a'ch asesu gan nyrsys cofrestredig a phrofiadol sy’n ymarfer a gweithwyr proffesiynol eraill. Caiff gwaith theori a gwaith ymarferol ei asesu trwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a thrwy asesu portffolio Ymarfer Clinigol Cymru Gyfan.
Ble byddaf yn astudio?
Cyflwynir elfennau hyfforddedig y cwrs hwn o bell gan ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau ar-lein a rhithiol. Caiff lleoliadau ymarferol eu dyrannu i bob myfyriwr yn unigol ac mor agos i'w cartref â phosib.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r gallu i astudio wrth eich pwysau gan ddefnyddio deunyddiau ac adnoddau a ddatblygwyd yn arbennig ac a ddarperir trwy gyfryngau lluosog yn rhan allweddol o ddysgu yn y rhaglen hon. Mae'n hanfodol bod gennych le i astudio gyda mynediad i'r rhyngrwyd.
Athroniaeth sylfaenol Prifysgol Bangor yw hyrwyddo caredigrwydd deallus ac arweinyddiaeth dosturiol, ac mae'r rhain yn rhan annatod o’r cwricwlwm i gyd. Mae modiwlau rhyngbroffesiynol yn hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn cydnabod gwerth dysgu o brofiadau'r gorffennol a'r presennol, yn ogystal â dysgu o brofiad defnyddwyr gwasanaeth a thrwy gyflwyno gwybodaeth newydd. Mae'r strategaethau dysgu, addysgu ac asesu wedi eu llunio i gynorthwyo'r myfyrwyr i fod yn ddysgwr annibynnol a datblygu i fod yn ymarferydd cofrestredig.
Cynlluniwyd y strategaeth asesu ar draws y rhaglen i fod yn flaengar a bydd yn eich annog i ddatblygu sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol. Mae'r modiwlau'n meithrin dysgu adfyfyriol; gall dysgwyr adfyfyriol gymryd rhan mewn adfyfyrio annibynnol er mwyn cyflawni dysgu personol ac er mwyn mynd ar drywydd rhagoriaeth wrth ymarfer. Fel prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil, rydym wedi ymgorffori egwyddorion a sgiliau ymchwilio ac ymholi i’r modiwlau hyn mewn modd blaengar gan alluogi'r myfyriwr i ddatblygu o ddod o hyd i dystiolaeth (blwyddyn un) i werthuso tystiolaeth (blwyddyn dau) ac yn olaf i gymhwyso tystiolaeth (blwyddyn tri).
Yn y rhaglen nyrsio dysgu o bell, bydd addysg ryngbroffesiynol yn rhan allweddol o ddysgu ymarfer gofal iechyd; ei nod yw paratoi myfyrwyr trwy ddarparu’r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau sy'n angenrheidiol at ymarfer cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd y rhaglen ddysgu wasgaredig yn cynnwys addysg ryngbroffesiynol sy'n ddull dysgu rhyngweithiol penodol sy'n annog cydweithredu gweithredol rhwng proffesiynau.
Wrth ddefnyddio'r fethodoleg hon ar y rhaglen, bydd gennych y gallu i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd mewn perthynas â gwerthoedd, moeseg, swyddogaethau, cyfrifoldebau a chyfathrebu rhyngbroffesiynol. Mae addysg ryngbroffesiynol yn rhoi cyfle i chi brofi sut mae disgyblaethau eraill yn rhoi pwyslais gwahanol ar feysydd fel moeseg broffesiynol a chydweithio i ddarparu gofal cynhwysfawr i gleifion.
Mewn lleoliadau ymarfer, cewch gyfleoedd i gydweithio â gweithwyr proffesiynol fel ffisiotherapyddion, radiograffwyr, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol. Mae Prifysgol Bangor yn datblygu modelau ar gyfer lleoliadau rhithiol o fewn safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn datblygu defnydd o rithrealiti yn ei rhaglenni cyfredol er mwyn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth i fyfyrwyr fod yn ymarferwyr hyfedr mewn gweithlu rhyngbroffesiynol, o fewn canllawiau ymarfer gorau, ac er budd gofal cleifion yn y dyfodol.
Ar gyfer y cwrs sy’n dechrau yn 2022 mae'r rhaglen Baglor mewn Nyrsio (dysgu o bell) wedi ei llunio yn unol â Safonau Hyfedredd ar gyfer Nyrsys Cofrestredig 2018 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Nyrs y Dyfodol: Safonau hyfedredd. Mae'r rhaglen newydd yn sicrhau fod gan nyrsys well dealltwriaeth o anghenion cleifion/cleientiaid ym mhob un o'r pedwar maes ymarfer nyrsio, ond gan barhau i ganolbwyntio ar faes penodol. Mae'r rhaglen yn darparu nyrsys cofrestredig y dyfodol gyda sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth a chyda rhagor o wybodaeth am iechyd y cyhoedd, sydd ei angen i ddarparu gofal mewn gwahanol leoliadau i gefnogi iechyd a lles y bobl byddwch yn gofalu amdanynt.
Cyfleusterau
- Mae Blackboard, sef amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Bangor, yn caniatáu i chi gyrchu cynnwys modiwl, deunydd cwrs wedi ei recordio ymlaen llaw, seminarau, byrddau trafod a mynediad at ddarlithoedd byw os oes angen. Gellir cyrchu'r cynnwys ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi, ac mae modd rhyngweithio gyda myfyrwyr eraill mewn ystafell gyffredin rithwir.
- Mae ein dull o ddysgu yn eich rhoi chi yn y canol, rydym yn defnyddio llawer o wahanol lwyfannau meddalwedd - fel Teams, OneDrive a Microsoft SWAY ac ati.
- Bydd sgiliau clinigol yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd rhithwir deinamig a rhyngweithiol i efelychu'r profiad dysgu ymarfer a’ch galluogi i ddatblygu sgiliau clinigol. Rydym yn defnyddio meddalwedd Laerdal vSim sy'n system efelychu rhithwir ar y we fydd yn helpu i fagu eich hyder a chymhwysedd wrth ddarparu gofal i gleifion gan ei fod yn caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio â chleifion ar-lein mewn amgylchedd diogel a realistig ac mae’n darparu adborth unigol. Rydym hefyd yn defnyddio llwyfan sgiliau clinigol ar-lein i gefnogi ein haddysgu sgiliau clinigol ac i fyfyrwyr roi arfer gorau ar waith.
- Yn ystod y lleoliad bydd gennych gefnogaeth tiwtor cyswllt o'r brifysgol ac mae gennym hefyd hwyluswyr addysg ymarfer/hwyluswyr addysg ysbyty cymunedol sydd hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy gydol y lleoliad.
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniatáu i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda’r delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau’r corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio â'r cyd-destun penodol.
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar Safonau'r NMC. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag admissions.health@bangor.ac.uk i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3** e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
**I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Cyfweliad a dewis BN Nyrsio (Dysgu o Bell)
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen cyfweld i gael rhagor o wybodaeth.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar Safonau'r NMC. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag admissions.health@bangor.ac.uk i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3** e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
**I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Cyfweliad a dewis BN Nyrsio (Dysgu o Bell)
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen cyfweld i gael rhagor o wybodaeth.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Byrddau iechyd ledled Cymru yw prif gyflogwr llawer o'n graddedigion. Yn y GIG a lleoliadau iechyd a gofal eraill, ceir strwythur gyrfa clir yn cefnogi nyrsys yn eu datblygiad o nyrs staff sy'n gweithio ar ward, er enghraifft, i nyrsys ymgynghorol annibynnol sy'n rheoli baich achosion o gleifion yn y gymuned. Yn ogystal â hyn, bydd cyfleoedd i ddefnyddio eich cymwysterau dramor.
Mae nyrsio yn broffesiwn arloesol sy'n tyfu'n barhaus ac mae nyrsys yn gweithio mewn timau aml-broffesiynol ar draws lleoliadau iechyd a gofal. Mae swyddi nyrsio wedi eu rhannu'n wahanol fandiau sydd â chyflogau gwahanol.
Mae nyrsys mewn sefyllfa unigryw i ddarparu gofal mewn partneriaeth â phobl a gofalwyr, i bwy bynnag sydd angen gofal. Yn gyffredinol yn y system iechyd a gofal ceir mwy o bwyslais ar atal afiechyd, galluogi pobl i ofalu am eu hunain, bod yn bartneriaid yn eu gofal a chael gwell ansawdd bywyd. Mae cyflymder y datblygiadau mewn gofal meddygol a gofal nyrsio, ac o ran triniaethau a thechnoleg, yn creu cyfleoedd newydd o ran gyrfa i nyrsys gyda datblygiadau mewn gwahanol agweddau ar wasanaethau a gwahanol ffyrdd o weithio. Gall y cyfleoedd a'r swyddogaethau amrywio ac maent yn cynnwys swyddi staff rheng flaen, swyddi arwain neu swyddi nyrsys arbenigol neu nyrsys ymgynghorol.
Mae cyfleoedd i nyrsys oedolion yn amrywio o ofalu am gleifion i fod yn arbenigwyr. Mae gyrfa i raddedigion mewn nyrsio oedolion yn cynnwys gofalu am agweddau corfforol oedolion a datblygu eich sgiliau a'ch cynnydd, rheoli pobl ynghyd ag adnoddau. Mae hyn yn cynnwys monitro ac asesu pobl ac ymateb yn gyflym i newidiadau.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.